Stori David

Cyfeiriwyd David at Weithio Sir Gar o'r Ganolfan Waith i gael cymorth i fynd yn ôl i'r gwaith. Roedd David wedi bod heb waith am 6 blynedd ar ôl dioddef o faterion iechyd a llesiant. Roedd y materion hyn yn cyfyngu ar faint o waith corfforol yr oedd yn gallu ei wneud. O ganlyniad i hyn, roedd mewn trafferthion ariannol ac roedd yn ysu am ddod o hyd i waith i gael dau ben llinyn ynghyd.
Yn ystod ei gyfarfod cyntaf gyda’n mentor, Lee, buont yn trafod pa gymorth yr oedd David ei eisiau o’r prosiect. Gyda chefndir ym myd adeiladu, roedd eisiau cymorth i ennill sgiliau a chymwysterau yn y maes hwn. Buont yn trafod cyfleoedd gwaith a fyddai ar gael yn yr ardal ac yn llunio cynllun gweithredu i gynorthwyo David i gael hyfforddiant priodol. Yn sgil Gweithio Sir Gar, llwyddodd David i ddilyn cyrsiau i ennill trwydded tele-handler a cherdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu a llwyddodd i gael y ddau.
Mynychodd David gyfarfodydd chwilio am swydd rheolaidd gyda Lee. Yn ystod un o’r sesiynau hyn, cofrestrodd gydag Acorn Recruitment gyda’r gobaith o gael gwaith ar safle adeiladu Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd ym Mhentre Awel Llanelli.
>Bu'r mentor un-i-un a'r cyfarfodydd rheolaidd o gymorth i David feithrin ei hyder, gan roi sicrwydd iddo y byddai ganddo gefnogaeth barhaus drwy gydol ei daith gyda Gweithio Sir Gar. Roeddem yn gallu rhoi’r cymorth ariannol yr oedd ei angen ar David i gyflawni ei amcanion o ran swydd, yn ogystal â chymorth gyda sesiynau chwilio am swydd a diweddaru ei CV. O ganlyniad, llwyddodd David i gael swydd gydag Acorn Recruitment yn gweithio ar safle Pentre Awel yn Llanelli. Mae David bellach wedi bod mewn cyflogaeth ym Mhentre Awel ers 7 mis. Mae wrth ei fodd yn ei rôl ac mae'n ased i'r tîm ac yn weithiwr caled.
Stori Lewis
Cafodd Lewis ei atgyfeirio at Gweithio Sir Gar gan Mencap, sefydliad sy'n cefnogi unigolion ag anableddau dysgu.
Dangosodd Lewis ddiddordeb mewn cael gwaith a chafodd ei baru â John, un o fentoriaid Gweithio Sir Gar. Ar y cychwyn roedd yn amlwg bod Lewis yn brin o hyder, yn enwedig wrth gyflawni tasgau nad oedd wedi arfer â nhw. Roedd yn gweld cyfarfodydd wythnosol wyneb yn wyneb yn anodd, felly newidiodd John ei ffordd a dechrau sgwrsio dros y ffôn yn lle hynny - rhywbeth a weithiodd yn dda i Lewis.
I ddatblygu sgiliau personol a CV Lewis, cynigiodd John le iddo ar gwrs Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith. Cytunodd Lewis, ond bu'n rhaid dwyn perswâd arno gan y byddai'n mynychu'r cwrs gydag unigolion nad oedd yn eu hadnabod. Ychydig ddyddiau cyn y cwrs, cysylltodd John â Lewis i egluro trefn y dydd. Roedd yn glir ar y ffôn fod Lewis yn ansicr iawn ac yn poeni llawer am fynd ar y cwrs gan ei fod ar ffurf grŵp. Yn fuan wedyn, cafodd John alwad gan Zara, mentor Mencap Lewis, yn egluro ei fod yn ailfeddwl ynghylch mynychu'r cwrs. Er mwyn helpu i leddfu gofidiau Lewis, cytunodd John a Zara i gwrdd ag ef ar ddiwrnod y cwrs i roi cefnogaeth pan fyddai Lewis yn teimlo bod ei hangen arno. Unwaith oedd Lewis yn gyfforddus, llwyddodd i gwblhau rhannau o'r cwrs yn annibynnol. Trwy ei ddycnwch a chefnogaeth John a Zara, daeth Lewis i ben â goresgyn ei bryderon am fod yn rhan o grŵp, ac roedd gwên ar ei wyneb ar ddiwedd y dydd gan fod cymhwyster newydd ganddo i'w ychwanegu at ei CV.