Rhaglen Raddedigion Sir Gaerfyrddin

Eich dyfodol chi gyda Sir Gaerfyrddin

 

Graddio cyn hir? Chwilio am yrfa ystyrlon lle mae eich gwaith yn gwneud gwahaniaeth mawr?

Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, mae ein Rhaglen Raddedigion yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa wrth gael effaith ystyrlon ar draws Sir Gaerfyrddin. O'r diwrnod cyntaf, byddwch chi'n gweithio ar brosiectau go iawn, yn ennill profiad gwerthfawr, ac yn cael eich cefnogi i ddatblygu eich gyrfa. 

Fel sefydliad dwyieithog, rydyn ni'n falch o gefnogi siaradwyr Cymraeg a Saesneg a chreu amgylchedd cynhwysol lle gall pawb ffynnu. 

 

Beth rydyn ni'n ei gynnig i'n Graddedigion? 

 

  • Profiad go iawn o'r diwrnod cyntaf

Gweithio ar brosiectau ystyrlon sy'n gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol

 

  • Datblygiad proffesiynol

Dysgu strwythuredig, gweithdai, a chymorth datblygu gyrfa 

 

  • Cymwysterau

Cyfle i weithio tuag at gymwysterau proffesiynol neu ôl-raddedig

 

  • Mentora a chymorth

Dysgu gan gydweithwyr, mentoriaid ac uwch-arweinwyr profiadol

 

  • Cyfleoedd gwaith Cymraeg

Cyfle i ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg neu eu datblygu ymhellach fel rhan o'ch rôl

 

  • Gweithio hyblyg

Ystod o fanteisio i gefnogi eich llesiant a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

 

Dewch i wybod mwy am weithio i Gyngor Sir Gaerfyrddin

Cymraeg yn y gwaith

 

Fel sefydliad dwyieithog, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg.

 

Bydd angen asesiad Cymraeg i bob rôl fel rhan o'r broses recriwtio.

 

Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a siaradwyr di-Gymraeg a byddwn ni'n eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau fel rhan o'ch gyrfa gyda ni.

 

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eich cais

Paratoi i fod yn llwyddiannus

Rydyn ni am i chi deimlo'n hyderus a bod ar eich gorau ym mhob cam. Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i baratoi:

 

  • Bod yn chi eich hun

Mae gyda ni ddiddordeb ynoch chi, eich cryfderau, eich profiadau, a'ch potensial

  • Dangos eich ymddygiadau

Defnyddiwch enghreifftiau sy'n dangos sut rydych chi'n gweithio, yn datrys problemau, ac yn cydweithio ag eraill 

  • Paratoi eich enghreifftiau

Myfyriwch ar sefyllfaoedd go iawn lle rydych chi wedi cael effaith sylweddol, wedi gweithio fel rhan o dîm, neu oresgyn her

 

  • Meddwl am yr hyn sy'n eich tanio

Pan fydd diddordeb gyda chi yn y rôl, cofiwch adael i ni wybod fel y gallwch ddatblygu eich gyrfa gyda ni

  • Cymryd eich amser i lewni'ch cais

Gofalwch bod eich atebion yn glir, yn berthnasol, ac yn dangos eich cryfderau

  • Dod i adnabod ni

Treuliwch amser yn bwrw golwg ar ein sefydliad, ein gwasanaethau, a'r gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud yn Sir Gaerfyrddin

Rydyn ni yma i'ch helpu chi i lwyddo - felly cymerwch eich amser, byddwch yn hyderus, a dangoswch eich cryfderau.

Dechreuwch ar eich taith heddiw

Mae eich gyrfa newydd ddechrau - ac rydyn ni yma i'ch helpu chi i'w datblygu. 

Hwb