Cais am waith atgyweirio
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/04/2025
Atgyweiriadau argyfwng
Os oes perygl sydd ar fin digwydd i chi neu'r eiddo, er enghraifft: colli pŵer yn llwyr, pibellau wedi hollti neu ollyngiadau mawr, eiddo'n anniogel ac ati.
Cysylltwch â ni ar unwaith, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, drwy ffonio 01267 234567 yn ystod oriau swyddfa (8:30am - 6pm, dydd Llun - dydd Gwener). Y tu allan i'r amseroedd hyn, ffoniwch 0300 333 2222..
Gallwch roi gwybod nawr am unrhyw achosion brys tu allan i oriau ar wefan Llesiant Delta
Cyn i chi symud i'ch cartref byddwn yn sicrhau ei fod wedi'i gynnal a'i gadw yn unol â'n safonau a bod unrhyw waith atgyweirio yn dilyn y tenantiaid blaenorol wedi cael ei wneud.
Rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw waith atgyweirio cyn gynted ag y byddwch yn sylwi arno.
Mae’r gwaith atgyweirio rydych chi'n gyfrifol amdano yn cynnwys y canlynol:
- rhoi gwydr newydd yn lle gwydr sydd wedi torri mewn ffenestri a drysau;
- rhoi cloeon, allweddi, cliciedi a cholfachau newydd yn lle rhai sydd wedi torri ar ddrysau y tu mewn i’r cartref;
- atgyweirio pyst a leiniau dillad, neu roi rhai newydd yn lle rhai sydd wedi torri;
- gosod seddi toiled newydd yn lle rhai sydd wedi torri;
- rhoi teils newydd yn lle rhai sydd wedi torri y tu mewn i’r cartref;
- atgyweirio cliciedi a cholfachau cypyrddau, neu roi rhai newydd yn lle rhai sydd wedi torri;
- rhoi plygiau a ffiwsiau trydan newydd yn lle rhai sydd wedi torri;
- rhoi plygiau newydd yn lle rhai sydd wedi torri ar sinciau a baths;
- rhoi gridiau gwastraff newydd yn lle rhai sydd wedi torri;
- rhoi batris newydd yn lle hen rai mewn larymau mwg;
- rhoi cliciedi a cholfachau newydd yn lle rhai sydd wedi torri ar gatiau;
- cynnal a chadw siediau gardd;
- cynnal a chadw llwybrau yn yr ardd nad ydynt yn rhan hanfodol o’r llwybrau sy’n sicrhau mynediad i’ch cartref;
- cynnal a chadw ffensys a waliau yn yr ardd;
- clirio unrhyw bibellau, trapiau a chwteri gwastraff sydd wedi blocio;
- cyflawni mân waith cynnal a chadw, megis gosod stribedi atal drafft os oes eu hangen;
- sicrhau bod y ffliw yn glir cyn cynnau'r tân.
Os ydych yn berson hŷn, neu os oes gennych anabledd, gallwn eich helpu os gofynnwch i ni wneud hynny. Byddwn yn codi tâl arnoch os byddwn yn cyflawni unrhyw waith ar eich rhan. Bydd y tâl a godir yn unol â’n polisi codi tâl.
Rydym yn gyfrifol am y gwaith atgyweirio canlynol yn eich cartref:
- adeiladwaith yr adeilad a’i du allan – toeau, waliau, lloriau, nenfydau, fframiau ffenestri,
- drysau allanol, draeniau, cwteri a phibellau allanol,
- celfi gosod yn y gegin a’r ystafell ymolchi – basnau, sinciau, toiledau a baths;
- gwifrau trydan, pibellau nwy a phibellau dŵr y tu mewn i’ch cartref;
- offer a systemau ar gyfer gwresogi ystafelloedd a thwymo dŵr; ac
- unrhyw leoedd a rennir a geir o amgylch eich cartref – grisiau, lifftiau, landin, goleuadau, cynteddau a drysau mynedfeydd, lleoedd parcio ac unrhyw iardiau a rennir.
Os ydym yn atgyweirio unrhyw ddifrod sydd wedi'i achosi gennych chi neu gan unrhyw un sy'n byw gyda chi neu sy'n ymweld â chi neu gan eich anifeiliaid anwes, byddwn yn gwneud y gwaith ac yn codi tâl arnoch amdano. Byddwn yn trafod y gwaith hwn a'r gost gyda chi cyn i ni wneud y gwaith.
Nid yw hyn yn cynnwys difrod sy'n deillio o draul a breuo rhesymol.
Categori blaenoriaeth |
Enghreifftiau o atgyweiriadau |
Amserlen |
---|---|---|
Atgyweiriadau argyfwng: Perygl sydd ar fin digwydd i chi neu'r eiddo. |
Colli pŵer yn llwyr, pibellau wedi hollti neu ollyngiadau mawr, eiddo'n anniogel ac ati. | Byddwn yn gwneud y gwaith atgyweirio cyn pen 24 awr. |
Atgyweiriadau brys: Os yw'r broblem yn eich cartref yn achosi anghyfleuster mawr. |
Mân ollyngiadau, nam bach i'r pŵer neu'r goleuadau ac ati. | Byddwn yn gwneud y gwaith cyn pen 7 diwrnod gwaith. |
Gwaith atgyweirio arferol: gwaith atgyweirio sydd heb fod yn frys ac sy'n achosi ychydig o anghyfleuster. |
Ffenestr ddrafftiog, dolen drws y gegin wedi torri ac ati. | Byddwn yn gwneud cyn pen 21 - 42 diwrnod gwaith. |
Byddwn yn ceisio cyflawni gwaith atgyweirio o fewn yr amserlenni a bennwyd gennym uchod. Efallai y bydd oedi’n digwydd weithiau, er enghraifft, am nad ydym yn medru cael gafael ar y deunyddiau priodol neu am fod angen i ni gynnal ymchwiliadau pellach ac ati.