Tai Fforddiadwy yn Bynmefys, Llanelli
Diweddarwyd y dudalen ar: 05/09/2025
Tai Fforddiadwy ar gael i'w prynu yn Bynmefys, Llanelli
Beth yw tai fforddiadwy?
Ystyr tai fforddiadwy yw tai y gellir eu prynu am bris sy'n is na gwerth y farchnad agored, i helpu pobl leol gymwys i berchen ar dŷ preifat, gan eu bod yn methu â fforddio tŷ am brisiau'r farchnad agored. Mae pris y tŷ wedi'i gyfyngu i helpu aelwydydd ar incwm nodweddiadol neu is na'r cyfartaledd ar gyfer yr ardal.
Tai fforddiadwy ar werth
Bydd y tai yn Brynmefys, Llanelli ar gael i bobl sy'n methu â fforddio tŷ addas am brisiau'r farchnad agored ond sy'n gallu cael morgais, ac sy'n gallu fforddio ad-daliadau a chost prynu tŷ (megis blaendal a ffïoedd cyfreithiol). Fel arfer mae tai fforddiadwy yn cael eu darparu drwy'r system gynllunio ar ddatblygiadau tai preifat newydd, ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor, neu gan gymdeithasau tai.
Yn yr achos hwn, mae'r tai wedi'u datblygu ar ran y Cyngor, ond bydd y tai yn eiddo i'r prynwr a fydd yn cymryd yr holl gyfrifoldeb sy'n dod gyda pherchentyaeth. Ni fydd gan y Cyngor unrhyw ecwiti a rennir yn y tŷ.
Bydd pob gwerthiant o'r tŷ yn y dyfodol wedi'i gyfyngu o ran pris a fydd yn cael ei wneud drwy bridiant tir. Bydd hyn yn sicrhau bod y tŷ yn parhau i fod yn fforddiadwy i'r holl brynwyr cymwys yn y dyfodol.
Pryd fydd y tai yn Brynmefys ar gael i'w prynu?
Bydd y tai newydd yn cael eu cwblhau a'u cynnig ar werth erbyn mis Hydref 2025. Rhaid i unrhyw un sydd â diddordeb mewn prynu un o'r tai fforddiadwy newydd gofrestru yn gyntaf ar system gosodiadau ar sail dewis y Cyngor – Canfod Cartref.
Gallwch chi gofrestru drwy gysylltu â'r Cyngor ar 01554 899389 a byddwn ni'n siarad â chi am eich amgylchiadau. Byddwn ni'n rhoi cyfeirnod tai a chyfrinair i chi ar gyfer mewngofnodi i'r wefan er mwyn i chi ddechrau eich proses ymgeisio. Ar ôl i'ch gais gael ei ddilysu byddwch chi'n gallu gweld gwybodaeth berthnasol a mynegi'ch diddordeb yn y tai newydd.
Gallwch chi gofrestru ar-lein ar wefan y Cyngor.
Bydd y tai hefyd yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan ond mae'n hanfodol bod darpar brynwyr wedi cofrestru ar Canfod Cartref cyn y gellir ystyried unrhyw gais. Does dim ffi i gofrestru a does dim unrhyw ymrwymiad i fwrw ymlaen â phryniant.
Pwy sy'n gallu prynu tŷ fforddiadwy?
Mae'n bwysig sicrhau bod tai fforddiadwy ond ar gael i bobl gymwys sy'n gallu fforddio morgais, ond sy'n methu â fforddio tŷ am y pris ar y farchnad agored.
Felly bydd angen i ymgeiswyr brofi nad ydyn nhw'n gallu prynu tŷ am ei bris llawn ar y farchnad agored, ond bod modd iddyn nhw gael morgais, a bod ganddyn nhw arian ar gyfer blaendal a ffioedd cyfreithiol. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy'r broses ymgeisio ar Canfod Cartref lle bydd gofyn i chi gyflwyno dogfennau atodol.
I gael eu hystyried, mae'n rhaid i gyfanswm incwm aelwyd ymgeiswyr cyn tynnu treth fod yn llai na thraean gwerth yr eiddo ar y farchnad agored.
Bydd y meini prawf canlynol hefyd yn berthnasol:
mae'n rhaid bod ymgeiswyr:
- ar hyn o bryd heb gartref addas; neu
- yn dymuno symud ymlaen o'r farchnad rhentu breifat; neu
- ar hyn o bryd yn byw mewn cartref rhent cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ac yn dymuno symud ymlaen i berchentyaeth;
- allu dangos bod ganddyn nhw gysylltiad cryf â'r ardal;
- fod mewn gwaith (gan gynnwys hunangyflogaeth);
- ni all ymgeiswyr fforddio prynu tŷ ar y farchnad agored heb gymorth;
- rhaid i ymgeiswyr allu dangos eu bod yn gallu cael morgais a bod ganddyn nhw arian i dalu blaendal, ffioedd cyfreithiol ac ati. Dydyn ni ddim yn gosod terfynau ar faint o'r pris prynu sy'n o forgais a faint sy'n dod o flaendal. Bydd gan fenthycwyr morgeisi isafswm ffigurau ar gyfer blaendal.
- mae cyfanswm incwm yr aelwyd cyn tynnu treth yn llai na thraean gwerth y tŷ ar y farchnad agored.
Ni fydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried os ydyn nhw:
- mewn ôl-ddyledion rhent neu fod yn destun camau gorfodi am dorri tenantiaeth;
- beidio â bod yn gymwys neu'n derbyn Budd-dal Tai;
- beidio â bod yn berchen ar unrhyw gartref arall y gallent fyw ynddo yn rhesymol;
- yn berchen ar gartref arall neu gyfran o gartref arall, oni bai bod amgylchiadau eithriadol (megis tor-perthynas ac ati);
- yn amharod i roi manylion eu hincwm, eu cynilion a'u morgais; neu
- yn prynu ag arian parod.
Blaenoriaeth
Mae angen i ni sicrhau bod y tai yn Brynmefys ar gael i bobl fydd yn gwneud y defnydd gorau o'r tŷ, o ystyried ei faint, ei gynllun a'i leoliad.
Byddwn ni'n gwneud hyn yn y ffordd ganlynol:
Byddwn ni'n nodi dyddiad y bydd yn rhaid i bobl ddweud wrthym am eu gwybodaeth berthnasol (gweler cymhwysedd uchod), gan gynnwys dogfennaeth / prawf lle mae angen hyn. Gelwir hyn yn gyfnod enwebu. Bydd y wybodaeth sy'n cael ei hasesu yn cynnwys y canlynol:
- incwm yr aelwyd;
- unrhyw gynilion;
- cadarnhad o'ch gallu i gael morgais am y swm gofynnol.
Mae'r dyddiad ar gyfer darparu'r wybodaeth wedi'i nodi yn yr hysbyseb. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i newid y dyddiad hwn os oes nifer addas o ymgeiswyr neu os oes rhesymau sy'n gofyn am estyniad amser.
Bydd pobl yn cael eu henwebu sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd a'r drefn flaenoriaeth ar sail y cyntaf i'r felin, felly mae'n bwysig cofrestru ar Canfod Cartref cyn gynted â phosibl, os oes ganddyn nhw ddiddordeb.
Trefn blaenoriaeth:
- Cwpl neu oedolyn a 2 neu fwy o blant neu aelodau eraill o'r teulu
- Cwpl neu oedolyn ac 1 plentyn neu aelod arall o'r teulu neu ymgeisydd beichiog
- Cwpl
- Person sengl
Os bydd dau neu fwy o deuluoedd yn cael yr un flaenoriaeth ar gyfer tŷ, y teulu a enwebir fydd y teulu a wnaeth gais ar Canfod Cartref yn gyntaf.