Mae cymuned newydd o 84 o gartrefi o ansawdd uchel ac ynni-effeithlon yn dod i Gaerfyrddin.
Dôl y Castell yw datblygiad deiliadaeth gymysg cyntaf y Cyngor, sy'n cael ei gyflawni mewn partneriaeth â Lovell Homes. Bydd y datblygiad, sydd ar safle o 3.6 hectar, yn cynnig cymysgedd o gartrefi ar werth, cartrefi rhent cymdeithasol a chyfleoedd perchentyaeth cost isel, gan greu cymuned newydd groesawgar i amrywiaeth o aelwydydd.
Bydd y datblygiad yn darparu 84 o gartrefi newydd, gan gynnwys:
- 42 o gartrefi ar werth ar y farchnad agored
- 25 o gartrefi ar rent cymdeithasol
- 17 o gartrefi ar gyfer perchentyaeth cost isel
Mae'r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o gartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely, gan gynnig opsiynau i bawb o unigolion a'r rhai sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf i gyplau a theuluoedd sy'n tyfu.
Wedi'i gynllunio ar gyfer bywyd modern
Bydd cartrefi yn Dôl y Castell yn cael eu dylunio i ddarparu lle byw modern, sy'n effeithlon o ran ynni, gan gynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes, mannau awyr agored preifat a pharcio oddi ar y ffordd.
Bydd y datblygiad ehangach hefyd yn cynnwys mannau agored gwyrdd, llwybrau troed, mannau chwarae a lleoedd i bobl gwrdd a chymdeithasu, gan helpu i greu cymdogaeth ddeniadol gyda ffocws cryf ar greu lleoedd, cymuned a llesiant.
Lleoliad gwych
Mae Dôl y Castell mewn lleoliad cyfleus yn agos at ganol tref Caerfyrddin, gyda mynediad hwylus i'r A40 ac ystod eang o wasanaethau ac amwynderau lleol.
Mae archfarchnadoedd, canol y dref ac ysgolion cynradd ac uwchradd lleol i gyd o fewn tua phum munud yn y car. Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant tua thri munud i ffwrdd mewn car, ac mae modd cyrraedd Ysbyty Glangwili mewn tua naw munud.
Pryd fydd y cartrefi ar gael?
Disgwylir i'r gwaith ar ddatblygiad Dôl y Castell ddechrau yn gynnar yn 2027, gyda'r datblygiad cyfan i'w gwblhau yn 2029.
Bydd y datblygiad yn cael ei gyflwyno mewn pedwar cam, a disgwylir y bydd y cartrefi fforddiadwy cyntaf ar gael o Gam 2 ymlaen.









