Teras Coleshill, Llanelli
Yng nghanol tref Llanelli, Teras Coleshill oedd swyddfa gofrestru'r Cyngor a'r ddesg arian i'r cyhoedd.
Mae'r datblygiad arloesol hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddod ag adeiladau hŷn yn ôl i ddefnydd a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben am flynyddoedd i ddod.
Mae'r adeiladau wedi'u hailddatblygu gan ddefnyddio dull ffabrig yn gyntaf gyda thechnolegau adnewyddadwy fel Paneli Solar a storio batris i ddarparu ynni glân a fforddiadwy i ddefnyddwyr.
Mae'r datblygiad hwn yn darparu wyth o gartrefi lle mae cymorth 24/7 gan staff ar y safle, ac mae'n cynnwys:
- 4 o fflatiau hunangynhwysol
- 4 ystafell wely en-suite ag ardaloedd byw, bwyta a chegin cymunedol
- Tŷ haf
- Gardd gaeedig breifat
Tawel Fan, Llanelli
Cynllun tai â chymorth a rennir sydd newydd ei adnewyddu.
Mae'r eiddo modern hwn yn darparu llety â chymorth a rennir i hyd at dri unigolyn ag anghenion cymorth lefel isel, a chymorth 24/7 gan staff ar y safle.
Mae'r eiddo yn agos at amwynderau lleol ac mae'r cysylltiadau trafnidiaeth yn ardderchog.
Mae'r datblygiad yn cynnwys:
- 3 ystafell wely en-suite ag ardaloedd byw, bwyta a chegin cymunedol
- Swyddfa staff
- Gardd gaeedig breifat
- Llefydd parcio
Clos Gwyn, y Tymbl
Dau eiddo newydd ar wahân sy'n darparu llety â chymorth a rennir i hyd at chwe unigolyn gyda chymorth 24/7 gan staff ar y safle. Mae gan bob eiddo ardaloedd byw, bwyta a chegin cymunedol, ac ystafell gyfleustodau ar wahân. Mae'r ddau eiddo yn ymyl ei gilydd ac yn agos at amwynderau lleol, ac mae cysylltiadau ardderchog â thrafnidiaeth gyhoeddus.
Mae gan bob eiddo:
- 2 ystafell wely â chyfleusterau ystafell ymolchi a rennir
- 1 ystafell wely en-suite
- Ardaloedd bwyta a chegin cymunedol
- Ystafell dderbyn ar wahân
- Ystafell gyfleustodau ar wahân
- Swyddfa staff neu ystafell i gael seibiant ac at ddefnydd therapiwtig
- Gardd gaeedig breifat
- Llefydd parcio
Yr Aelwyd, Rhydaman
Hen Gartref Gofal wedi'i drawsnewid yn llety â chymorth o safon uchel i bum unigolyn ag anableddau iechyd meddwl a dysgu, gyda chymorth 24 awr gan staff ar y safle, gan helpu unigolion i fyw'n annibynnol yn y gymuned.
Mae'r datblygiad yn cynnwys:
- Dwy fflat hunangynhwysol
- Pedair ystafell wely en-suite ag ardaloedd byw, bwyta a chegin cymunedol
- Gardd gaeedig
- Llefydd parcio
Y Bae, Llanelli (Ar ddod yn fuan)
Cynllun tai â chymorth a rennir ar wahân, sydd newydd ei adnewyddu ac sydd ar ddod yn fuan.
Bydd y datblygiad arloesol hwn yn darparu llety i unigolion ag anghenion cymorth lefel ganolig i uchel.
Bydd y llety yn darparu tai â chymorth a rennir i hyd at 5 unigolyn gyda chymorth 24/7 gan staff ar y safle. Mae'n agos at lwybr yr arfordir ac at amwynderau lleol, ac mae cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog.
Mae'r datblygiad yn cynnwys:
- 5 ystafell wely en-suite ag ardaloedd byw, bwyta a chegin cymunedol
- Swyddfa staff
- Gardd gaeedig breifat
- Llefydd parcio






















