Cyfnewid eich cartref

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfnewid eich cartref gyda thenant arall y cyngor, gallwn ni eich cynghori ar ddod o hyd i denant addas. Mae'n rhaid i chi fod yn gymwys i wneud cais. Efallai na fyddwch yn gallu cyfnewid eich cartref:

  • Os nad oes gennych: 'Tenantiaeth/Contract Meddiannaeth Diogel'
  • Os ydych mewn ôl-ddyledion o ran eich rhent
  • Os yw camau gweithredu wedi'u dechrau yn erbyn eich tenantiaeth yn sgil torri amodau tenantiaeth eraill

Os nad ydych yn gymwys, gallwn roi caniatâd amodol e.e. i fwrw ymlaen pan fydd unrhyw ôl-ddyledion rhent wedi'u clirio. Os hoffech wneud cais, ffoniwch ni ar 01267 228680 a gallwn ni siarad â chi am eich amgylchiadau. Byddwn yn gofyn i chi am rai manylion amdanoch chi a'ch cartref a darganfod pam yr hoffech gyfnewid cartrefi.

Homeswapper

Os ydych wedi cofrestru gyda Homeswapper, rydym bellach wedi tynnu ein haelodaeth yn ôl. Mae hyn yn golygu bod eich aelodaeth am ddim wedi dod i ben. Gallwch barhau i ddefnyddio'r wefan, ond bydd gofyn i chi dalu ffi tanysgrifio i barhau i ddefnyddio gwasanaeth Homeswapper. Nid oes angen i chi ail-gofrestru, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw diweddaru eich tanysgrifiad. I gofrestru gyda Homeswapper a dechrau chwilio am eiddo addas i gyfnewid â nhw – ewch i www.HomeSwapper.co.uk 

Sylwer, mae hwn yn wasanaeth allanol i'r Cyngor a bydd angen i chi wneud cais o hyd i gyfnewid eich cartref gyda'r Cyngor, pan fyddwch wedi dod o hyd i opsiwn cyfnewid posibl.