Gwella'r gwasanaeth tai yr ydym yn ei ddarparu
Diweddarwyd y dudalen ar: 06/01/2025
Gofynnodd yr Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR diweddaraf i 5,000 o denantiaid a ddewiswyd ar hap rannu eu barn ar y gwasanaeth tai rydym yn ei ddarparu. Derbyniwyd 1,250 o ymatebion, a bydd y canlyniadau hyn yn helpu i lunio a gwella'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu wrth symud ymlaen.
Dyma'r drydedd mewn cyfres reolaidd o negeseuon i rannu gwybodaeth/canlyniadau o'r arolwg STAR.
Fe ddwedsoch chi...
-
Mae 80% yn fodlon â'u cymdogaeth fel lle i fyw, tra bod 20% yn credu y gellid gwella hyn
-
Mae 62% yn fodlon â'r gwaith cynnal a chadw tiroedd yn ystadau/ardaloedd cymunedol y Cyngor, ond mae 18% yn teimlo y gallem wneud mwy
-
Mae 73% o denantiaid yn teimlo bod eu cartref yn ddiogel, ond mae 15% yn teimlo y gallai hyn fod yn well
-
Mae 55% yn hapus gyda'r ffordd rydym yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud â chartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor, ond mae 16% yn credu y gallem wella
Yn dilyn eich adborth, rydym am ddysgu mwy am sut y gallwn wella'r gwasanaeth tai rydym yn ei ddarparu.
Rydym ni'n…
- Cyflwyno'r Tîm Tacluso Tai – gwasanaeth tasgmon sy'n canolbwyntio ar dai, ystadau ac ardaloedd cymunedol sy'n eiddo i'r Cyngor
- Parhau i dargedu ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â chartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor gyda thîm o chwe swyddog
- Parhau i gymryd camau mewn perthynas â thorri amodau tenantiaeth i ddiogelu cartrefi a chymunedau
- Datblygu gwasanaeth rheoli tai gwell i ganolbwyntio ar ardaloedd problemus i gadw ein cartrefi a'n cymunedau'n ddiogel. Cadwch lygad am ein swyddogion, rydym yma i helpu
Oeddech chi'n gwybod…
-
Mae'n ofyniad cyfreithiol i ni wasanaethu boeleri a chynnal profion trydanol. Rydyn ni wedi cymryd camau i fynd i mewn i 500 o gartrefi ers 2023
-
Rydym wedi cynnal pedwar Gorchymyn Cau (i atal ymwelwyr rhag mynd i mewn i eiddo) yn ystod y chwe mis diwethaf
-
Mae cymryd cyffuriau, gwneud newidiadau mawr i gartrefi a chadw anifeiliaid anwes heb ganiatâd yn torri amodau tenantiaeth
Gwnewch wahaniaeth
Byddwch yn rhan o'r nifer cynyddol o denantiaid sy'n rhoi adborth rheolaidd i ni i wella ein gwasanaethau.
Os nad ydym yn gwybod, ni allwn newid.