Polisi Adennill Costau
Diweddarwyd y dudalen ar: 02/10/2024
Yn nodi'r meini prawf ar gyfer pryd y codir tâl ar denant (deiliad contract) am atgyweiriadau sy'n
cyfrifoldeb nhw o dan y cytundeb tenantiaeth (Contract). Ein nod yw darparu tenantiaid
(deiliaid contract) gyda gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw gwerth am arian.
Rhestr wirio cyfrifoldebau am wneud gwaith atgyweirio
| Gwaith Atgyweirio | Nodiadau / Eithriadau | Landlord | Tenant (deiliad contract) |
|---|---|---|---|
| Allweddi – Wedi'u colli neu wedi'u dwyn | Gall y Cyngor drefnu mynediad ond codir tâl am hynny. Os yw'r allweddi wedi eu dwyn, rhaid i chi gael rhif trosedd gan yr heddlu. | ✔ | |
| Basnau / sinciau | Ac eithrio gosod plygiau, cadwyni a phaneli newydd. | ✔ | |
| Biniau sbwriel / whilfiniau / ailgylchu | ✔ | ||
| Blychau llythyrau | ✔ | ||
| Cawodydd | Os cawsant eu gosod gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. | ✔ | |
| Ceginau | Os cawsant eu gosod gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. | ✔ | |
| Cloch drws | ✔ | ||
| Cwteri / pibellau dŵr glaw / wynebfyrddau / soffitiau | ✔ | ||
| Cynnal a chadw gerddi | Oni bai y telir am hyn drwy dâl gwasanaeth (dim ond yn effeithio ar dai gwarchod a gerddi cymunedol). | ✔ | |
| Dreif/Llawr caled car | Os cafodd ei osod gan y Cyngor neu os oedd yn ei le ar ddechrau'r contract meddiannaeth | ✔ | |
| Drysau / fframiau - allanol (yn y blaen a'r cefn) | Ac eithrio gwaith cynnal a chadw sylfaenol fel iro colfachau. | ✔ | |
| Drysau / fframiau – mewnol | Yn cynnwys dolenni, cloeon, colfachau, a stribedi trothwy ac addasu ar gyfer carpedi ac ati. | ✔ | |
| Erialau / ceblau / cysylltiadau | Ac eithrio erialau cymunedol. | ✔ | |
| Ffaniau echdynnu | ✔ | ||
| Ffenestri | Yn cynnwys silffoedd, dolenni, fframiau a gwydr dwbl y mae cyddwysiad rhwng y ddwy haen o wydr. | ✔ | |
| Ffensys/Waliau gardd | Os yw'r terfyn yn eiddo i'r Cyngor a chawsant eu gosod gan y Cyngor yn wreiddiol neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau’r contract meddiannaeth. | ✔ | |
| Ffitiadau golau – gan gynnwys switshis | Ac eithrio bylbiau golau, ffiwsiau, tiwbiau fflwroleuol, a thanwyr. | ✔ | |
| Ffyrnau | Yn cynnwys gwaith cysylltu a datgysylltu y mae'n rhaid iddo gael ei wneud gan beiriannydd cofrestredig Gas Safe (yn achos nwy) neu drydanwr (yn achos trydan). | ✔ | |
| Garej / tai allan | Os cawsant eu hadeiladu gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. | ✔ | |
| Gatiau | Os cawsant eu gosod gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. | ✔ | |
| Gosodiadau a ffitiadau | Fel bachau cotiau, rheiliau llenni, rhimynnau drafftiau. | ✔ | |
| Grisiau | Yn cynnwys canllawiau grisiau ac ati. | ✔ | |
| Gwaith plastro | Ac eithrio atgyweiriadau/craciau bach | ✔ | |
| Gwifrau trydan gan gynnwys socedi a switshis | ✔ | ||
| Gwydr | Os yw'n gysylltiedig â rhywun yn torri i mewn neu ddifrod troseddol arall, mae'n rhaid i chi gael rhif trosedd gan yr heddlu. Os yw'n gysylltiedig â difrod damweiniol, dylech naill ai hawlio ar eich yswiriant neu byddwn yn gwneud y gwaith atgyweirio ac yn codi tâl arnoch. | ✔ | |
| Larymau mwg | Gosod batri lithiwm oes hir newydd yn lle un diffygiol neu larymau wedi'u cysylltu â'r cyflenwad trydan. | ✔ | |
| Larymau tân mewn mannau cymunedol | ✔ | ||
| Leiniau dillad | Ac eithrio leiniau cymunedol / sychwyr troi cymunedol. | ✔ | |
| Lleoedd tân / tanau gosod | Os defnyddir y rhain i losgi tanwydd solet. | ✔ | |
| Lloriau | Ac eithrio gorchuddion llawr h.y. carped/finyl/leino neu laminiad pren. | ✔ | |
| Llwybrau / grisiau / rampiau | Os cawsant eu hadeiladu gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. | ✔ | |
| Mannau cymunedol | Yn cynnwys mynedfeydd, coridorau, grisiau a chynteddau a rennir. Yn cynnwys larymau. Hefyd lifftiau, tyllau sbwriel, a goleuadau. | ✔ | |
| Mesuryddion nwy | Cysylltwch â'ch cyflenwr nwy. | ✔ | |
| Mesuryddion trydan | Cysylltwch â'ch cyflenwr. | ✔ | |
| Nenfydau | Ac eithrio craciau bach a phaentio. | ✔ | |
| Offer cegin | Oni bai eu bod yn cael eu darparu gan y Cyngor. | ✔ | |
| Paentio ac addurno y tu mewn | Ac eithrio mannau cymunedol. | ✔ | |
| Paentio y tu allan | ✔ | ||
| Pibellau / dŵr yn gollwng | Yn cynnwys pibellau draenio y tu mewn a'r tu allan. | ✔ | |
| Pibellau draenio / draeniau / pibellau gwastraff | Codir tâl os cânt eu blocio dro ar ôl tro oherwydd camddefnydd tenantiaid. | ✔ | |
| Pibellau nwy | Os ydych yn amau bod nwy yn gollwng, yn gyntaf, ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar 0800 111 999 ac yna rhowch wybod i'r Cyngor. | ✔ | |
| Plâu | Ac eithrio lle rydym yn gyfreithiol gyfrifol a bod risg i iechyd y cyhoedd e.e. llygod mawr neu chwilod duon. | ✔ | |
| Portshys | Os cawsant eu gosod gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. | ✔ | |
| Pwyntiau ffôn | ✔ | ||
| Rheiddiaduron | Ac eithrio gollwng aer o reiddiaduron. | ✔ | |
| Sgyrtin | ✔ | ||
| Simneiau / cyrn simneiau / ffliwiau | Os cawsant eu gosod gan y Cyngor neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. | ✔ | |
| Stordy / tŷ allan – brics neu goncrid | ✔ | ||
| Synwyryddion carbon monocsid | Os bydd y larwm yn seinio, diffoddwch y boeler nwy / tân nwy / ffwrn nwy, agorwch y ffenestri a chysylltwch â ni. | ✔ | |
| Systemau agor a chau drysau | ✔ | ||
| Systemau gwresogi a dŵr twym gan gynnwys twymwyr tanddwr | ✔ | ||
| Tai gwydr | ✔ | ||
| Tapiau / stopfalfiau | ✔ | ||
| Teils waliau | Os cawsant eu gosod gan y Cyngor yn wreiddiol neu os oeddent yn eu lle ar ddechrau'r contract meddiannaeth. | ✔ | |
| Toeau | ✔ | ||
| Toiledau | Ac eithrio seddi. | ✔ | |
| Waliau | Gweler gwaith plastro hefyd. | ✔ |
