Gostyngiad i bobl gyda nam meddyliol difrifol

Gallai unrhyw un sydd wedi cael ardystiad meddygol fod ganddo nam meddyliol difrifol (SMI) fod yn gymwys am ddisgownt Treth Gyngor. Mae hyn yn golygu bod gan y person gyflwr parhaol sy’n effeithio’n ddifrifol ar ei weithrediad deallusol neu gymdeithasol.

Ymhlith y cyflyrau sy’n gallu arwain at nam meddyliol difrifol mae clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia, clefyd Parkinson, anawsterau dysgu difrifol neu strôc, ond gall sawl un arall fod yn berthnasol hefyd. I fod yn gymwys, rhaid i’r person gael diagnosis o SMI gan feddyg a rhaid iddo fod â hawl hefyd i un o’r budd-daliadau a restrir yn isod boed yn derbyn y budd-dal ai peidio.

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Byw i’r Anabl (cydran gofal cyfradd uwch neu ganol)
  • Cynnydd mewn pensiwn anabledd (gan fod angen gweini cyson)
  • Lwfans Gweithio i’r Anabl
  • Cymhorthdal Incwm (sy’n cynnwys premiwm anabledd)
  • Taliad Atodol neu Lwfans Cyflogadwyedd
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Credyd Cynhwysol (mewn amgylchiadau pan fo cyfyngiad ar allu person i weithio a/neu i wneud gweithgaredd yn gysylltiedig â gwaith)

Lefel y disgownt:

  • Os ydych wedi cael diagnosis o SMI gan feddyg, ac yn byw ar eich pen eich hun neu dim ond gyda phobl eraill sydd â SMI, byddwch yn cael eich eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor.
  • Os ydych wedi cael diagnosis o SMI gan feddyg, ac yn byw gydag un oedolyn sy’n gymwys i dalu treth gyngor, bydd eich cartref yn cael gostyngiad o 25%.
  • Os ydych wedi cael diagnosis o SMI gan feddyg, ac yn byw gyda 2 neu ragor o oedolion, ni fydd unrhyw ostyngiad.

Lawrlwythwch ffurflen gais (.pdf)