Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes

1. Cyflwyniad

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau ledled y sir ac felly maent wedi sicrhau cyllid i ddarparu Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes Sir Gaerfyrddin sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Twf Lleol

 

Nod y pecyn grant yw cefnogi busnesau lleol ar leihau carbon a'u taith tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol. 

Bydd y Gronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes yn cefnogi busnesau lleol i dyfu, ffynnu a bod yn gynaliadwy.

Bydd y grant ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng 8 Mai 2026 a 31 Awst 2026 neu hyd nes y bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn (p'un bynnag yw'r cynharaf).