Termau ac amodau

Cystadleuaeth

  1. Mae'r wobr fel y nodwyd.  Does dim modd dewis arian parod.
  2. Rydym yn cadw'r hawl i derfynu'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg.
  3. Ni chaiff gweithwyr nac aelodau etholedig Cyngor Sir Caerfyrddin gystadlu.
  4. Dewisir yr enillwyr fel y nodwyd a rhoddir gwybod iddynt fel y nodwyd.
  5. Rhaid casglu'r gwobrau, oni bai y nodir fel arall.
  6. Rydym yn cadw'r hawl i gyhoeddi enw'r enillydd yn unrhyw un o'n deunyddiau hyrwyddo, ar ein gwefan neu ar ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol.

Hawlfraint

© Hawlfraint Cyngor Sir Gaerfyrddin 2021

Gellir defnyddio ac ail-ddefnyddio'r wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yn rhad ac am ddim o dan dermau’r  Drwydded Llywodraeth Agored v3.0.

Nid yw hyn yn cynnwys delweddau stoc sydd yn hawlfraint Shutterstock.com a rhaid cael eu caniatâd i ddefnyddio deunydd hwn.

Arolwg ordnans

©  Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2018 Arolwg Ordnans 100023377. Rhoddir trwydded ddirymiadwy, anghyfyngedig a heb freindal i chi i weld y data trwyddedig at ddibenion anfasnachol am y cyfnod y mae ar gael gan Cyngor Sir Gar. Ni chewch gopïo, is-drwyddedu, dosbarthu na gwerthu unrhyw ran o’r data hwn i drydydd partïon mewn unrhyw ffurf. Yr Arolwg Ordnans fydd yn cadw’r hawlio trydydd parti i orfodi amodau’r drwydded hon.

Ymwadiad

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin (y Cyngor) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth sydd ar y wefan hon yn gywir, yn ddibynadwy, ac wedi'i diweddaru. Nid yw'r Cyngor, ei gyflenwyr, na phartïon eraill sy'n gysylltiedig â chreu a gweithredu'r wefan hon, yn atebol am unrhyw ddifrod, colled, neu anghyfleustra uniongyrchol neu anuniongyrchol a achosir gan ddibyniaeth a ddeillia o ddefnyddio'r wefan hon.

Dolenni cyswllt

Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni cyswllt â gwefannau eraill y mae'n bosibl nad ydynt yn cael eu gweithredu gan y Cyngor. Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn, ac nid yw'n atebol am unrhyw ddifrod, colled, neu anghyfleustra a allai ddigwydd yn sgil defnyddio'r gwefannau.