Strategaethau a chynlluniau
Adroddiad Blynyddol am Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol 2021 - 22
Mae'n statudol ofynnol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cyngor ynghylch darpariaeth a pherfformiad, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer gwella holl ystod y Cyfarwyddebau Gwasanaethau Cymdeithasol. Hwn yw'r adroddiad blynyddol gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar effeithiolrwydd ein Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn y sir, ac mae'n cyflwyno'r cynnydd a wnaed yn y meysydd gwella a nodwyd yn adroddiad y llynedd ac yn amlygu'r meysydd sydd i'w datbl...
Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2021-2022
Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-2022 yn archwilio ein cynnydd yn erbyn y Strategaeth Gorfforaethol 2018-2023. Fe'i cynhyrchir gan y Cyngor oherwydd credwn y dylem ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr a chytbwys i'r cyhoedd am ein gwasanaethau, fel y gallant weld sut yr ydym yn perfformio a'r heriau yr ydym yn eu hwynebu....
Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
Mae Strategaeth Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23 yn amlinellu sut fyddwn yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau ymyriadau cynnar i gefnogi plant, teuluoedd a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin ar unrhyw adeg ym mywyd plentyn, o’r blynyddoedd cynnar ac ymlaen i’r arddegau....
Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
Diben y cynllun hwn yw manylu ar sut a ble y byddwn ni’n cyflenwi mwy o gartrefi fforddiadwy. Bydd y rhaglen gychwynnol yn cyflenwi dros 1,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf, gyda buddsoddiad o fwy na £60m i gyd. Bydd y cynllun yn egluro hefyd sut y gallem ddarparu rhaglen uchelgeisiol i godi tai newydd drwy edrych ar yr opsiynau cyflenwi. Bydd hyn yn cynyddu nifer y cartrefi a gyflenwir ac yn darparu buddsoddiad ychwanegol....
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
Pwrpas Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSyGA) Sir Gaerfyrddin yw amlinellu sut y byddwn yn bwriadu cyflawni nodau a thargedau Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (y ‘Strategaeth’). Mae’r Strategaeth yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system addysg sy’n ymateb mewn ffordd wedi’i chynllunio i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. Y nod yw peri cynnydd yn nifer y bobl o bob oedran a chefndir sy’n rhugl yn y Gymraeg ac sy’n gallu def...
Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
Yn ogystal â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a thlodi, mae datganiad gweledigaeth y Cabinet hefyd yn cynnwys cryfhau'r economi a chynyddu llewyrch, a buddsoddi mewn tai, addysg, diwylliant, seilwaith a'r amgylchedd i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Darllenwch y Datganiad...
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd: Strategaeth Pobl Hŷn 2015 - 2025
Dros y 15 mlynedd nesaf, bydd y gwasanaethau Pobl Hŷn yn dod o dan bwysau cynyddol yn Sir Gaerfyrddin. Bydd mwy na deng mil o bobl hŷn ychwanegol dros 75 oed yn byw yn y sir, a bydd angen gofal a chymorth ar lawer ohonynt. Nod y strategaeth hon yw edrych yn fanylach ar yr heriau hyn a nodi cynllun i ddarparu gwasanaethau mwy cynaliadwy dros y deng mlynedd nesaf. Caiff y cynllun hwn ei ddiweddaru bob blwyddyn. Wrth ddatblygu’r strategaeth hon, rydym wedi ymgynghori’n helaeth gyda phreswylwyr, d...
Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2022
Ein gweledigaeth yw i fod yn wasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus cynhwysol, modern, cynaliadwy o safon uchel yng nghalon pob cymuned yn Sir Gaerfyrddin. Mae gennym cenhadaeth chwarae rhan yn darparu gwasanaethau hygyrch, cynhwysol, cyffrous a chynaliadwy sy'n hyrwyddo a hwyluso dysgu, diwylliant, treftadaeth, gwybodaeth, llesiant a hamdden yn darparu gwasanaethau hygyrch, cynhwysol, cyffrous a chynaliadwy sy'n hyrwyddo a hwyluso dysgu, diwylliant, treftadaeth, gwybodaeth, llesiant a hamdden. Darllen...
Mae’r Polisi Diogelu Corfforaethol hwn yn darparu fframwaith ar gyfer pob gwasanaeth yn y Cyngor gan nodi cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg yn ogystal â’r dulliau y bydd y Cyngor yn eu defnyddio i wybod yn sicr ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau....
Safonau’r Gymraeg (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011)– Hysbysiad Cydymffurfio
Mae’r hysbysiad cydymffurfio yma’n nodi’r hyn mae’n rhaid i Gyngor Sir Gâr ddarparu a gweithredu er mwyn sicrhau nad ydyw’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’n cynnwys 174 o gyfarwyddiadau ar sut y bydd y Cyngor yn Cyflenwi Gwasanaethau Cymraeg, Llunio polisi mewn modd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg, Gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg, Hybu’r Gymraeg a Chadw cofnodion ynglŷn â’r Gymraeg. Mae gan y cyhoedd hawl i gwyno os ydyn nhw’n teimlo nad ydy’r Cyngor yn cydymffurfio â’r Safonau, a...
Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
Mae Is-adran Gwasanaethau TGCh Sir Gaerfyrddin yn darparu cymorth helaeth a gwasanaethau i bob ysgol ar draws yr Awdurdod. Hon fydd Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion cyntaf erioed Sir Gaerfyrddin sy'n gosod ein gweledigaeth ac sy'n cael ei thanategu gan ein hegwyddorion cyffredinol a meysydd blaenoriaeth allweddol er mwyn darparu gwasanaethau TGCh i ysgolion. Mae defnydd yr ysgol o dechnoleg yn hyrwyddo dysgu arloesol gan fyfyrwyr digidol hyderus, a ysbrydolwyd gan addysgu medrus a chreadig...
Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
Hwn yw’r tro cyntaf i’r Cyngor gynhyrchu Strategaeth Drawsnewid, a’r bwriad yw y bydd yn darparu’r fframwaith strategol ar gyfer tanio rhaglen o newid a thrawsnewid arwyddocaol ar draws y sefydliad dros y 5 mlynedd nesaf. Bydd y rhaglen yn amlinellu sut y mae'r awdurdod yn bwriadu symud ymlaen i roi mwy o werth a buddion i breswylwyr a busnesau yn y sir a bydd hefyd yn ceisio cyflymu ymhellach y broses o foderneiddio ar draws y cyngor, gan ganiatáu iddo ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol o an...
Mae ‘Strategaeth Hybu’r Gymraeg, Sir Gâr 20016-21’ yn nodi’r hyn sydd angen ei wneud i adfer sefyllfa’r Gymraeg yn y sir drwy gynyddu niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg, cynyddu’r sefyllfaoedd lle mae pobl yn gallu siarad Cymraeg, codi statws yr iaith, cefnogi cymunedau i gynnal yr iaith ac effeithio’n gadarnhaol ar symudiadau poblogaeth. Mae llunio’r Strategaeth yn un o ofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac mae’n ymgorffori ac yn datblygu’r gwaith a wnaed mewn ymateb i ganlyniadau siomedig...
Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
Mae’r Strategaeth Technoleg Ddigidol yn cyflwyno blaenoriaethau a dyheadau’r Awdurdod o ran technoleg ddigidol yn ystod y 3 blynedd nesaf. Ei diben yw nodi’r technolegau a’r mentrau allweddol fydd yn hwyluso ac yn ategu gweledigaeth Strategaeth Trawsnewid Digidol bresennol a throsfwaol y sefydliad a’r modd y caiff ei rhoi ar waith. Cynulleidfa’r strategaeth hon yw arweinwyr y sefydliad, aelodau etholedig, ein cwsmeriaid a’n staff....
Strategaeth Trawsnewid Digidol 2017 - 2020
Mae’r Strategaeth Trawsnewid Digidol yn cyflwyno dyheadau a blaenoriaethau digidol strategol y Cyngor ac yn amlinellu’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin Ddigidol. Mae technoleg yn treiddio mwy a mwy i'r holl sectorau ac yn dod yn rhan o lawer o agweddau ar ein bywydau. Mae angen strategaeth trawsnewid digidol ar Gyngor Sir Caerfyrddin oherwydd gall technoleg ddigidol drawsnewid y Sir a bywydau pobl yn ogystal â chreu arbedion tymor hir ar gyfer...
Mae’r adroddiad hwn yn garreg filltir sylweddol i’r awdurdod gan mai dyma’r tro cyntaf i strategaeth ystod eang o’r fath cael ei ddatblygu er mwyn adfywio cymunedau gwledig Sir Gâr. Cymeradwywyd yr adroddiad terfynol gan y Cyngor Llawn ar y 11 Medi 2019....
Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf
Rydym wedi nodi bron i 100 o brosiectau, cynlluniau neu wasanaethau yr hoffem eu cyflawni dros y pum mlynedd nesaf fel rhan o gynllun Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin. Drwy gyflwyno'r prosiectau a'r rhaglenni hyn credwn y gallwn gyfrannu at sicrhau mai Sir Gaerfyrddin yw'r lle gorau i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef. Byddwn yn buddsoddi mewn meysydd allweddol wrth inni ymdrechu i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn y sir. Bydd adroddiadau ac argymhelli...
Trawsnewidiadau: Cynllun Adfywio ar gyfer Sir Gâr 2015 - 2030
Mae adfywiad Sir Gâr ar y gweill ers cryn amser, gyda nifer o ddatblygiadau mawr yn dwyn ffrwyth yn 2015. Mae’r dirwedd economaidd yn esblygu gyda safle Sir Gâr yn Ninas-ranbarth newydd Bae Abertawe, y mabwysiadodd y Cyngor y strategaeth ar ei gyfer; erbyn 2030, bydd Sir Gâr yn rhan hyderus, uchelgeisiol a chysylltiedig o Ddinas-ranbarth Ewropeaidd. Ewch i wefan Bargen Ddinesig Bae Abertawe...
Adroddiad Blynyddol Y Gymraeg 2020-2021
Mae’n ddyletswydd statudol ar yr Awdurdod i weithredu Safonau’r Iaith Gymraeg. Fel rhan o’r Safonau hynny, mae’n ofynnol i ni gyhoeddi Adroddiad Blynyddol i fanylu ar gydymffurfiaeth a gweithredu. Yn yr adroddiad, ceir enghreifftiau o’r hyn sydd wedi ei gyflawni, llaw yn llaw ag astudiaethau achos lleol....
Datganiad ynghylch Gwastraff ar gyfer Sir Gaerfyrddin
Diben y datganiad ynghylch gwastraff yw nodi'r hyn y mae'r Cyngor wedi'i wneud hyd yma i gyrraedd ei dargedau statudol o ran ailgylchu a gwastraff, ein perfformiad hyd yma, a'r hyn y byddwn yn ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf hyd at 2025 darllenwch ein datganiad ynghylch gwastraffRead...
Mae strategaeth 2022 - 2027 yn amlinellu cyfeiriad yr Awdurdod Lleol dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys ein hamcanion llesiant a gwelliant fel y'u diffinnir gan ddeddfwriaeth. Darperir amrywiaeth o wasanaethau er mwyn bodloni'r amcanion hyn a hynny yn unol â Gwerthoedd Craidd y Cyngor. darllenwch ein Strategaeth Gorfforaethol...
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Cynlluniau gwaith i'r dyfodol
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Ymgynghori a Pherfformiad
- Ymgynghoriadau actif
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Amcanion lles
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2021-22
Canllawiau Brexit
Hysbysiadau cyhoeddus
Cyfamod Lluoedd Arfog
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2021
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Deddf Etholiadau 2022 ac ID Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth