Strategaeth Ddraft y Rhaglen Moderneiddio Addysg

Trosolwg o'r Rhaglen

Nod y Rhaglen Moderneiddio Addysg (RhMA) yw cyflawni dyheadau'r Awdurdod Lleol o ran moderneiddio ac ad-drefnu ysgolion. Ers ei sefydlu yn 2004, mae'r RhMA wedi cael cydnabyddiaeth eang am ei gweledigaeth strategol, ei chynlluniau trawsffurfiol a'i hanes clodwiw o ran llwyddo i gyflawni. Dangosir cyflawniadau'r Rhaglen Moderneiddio Addysg yn y Daith Drawsnewid sydd wedi'i hatodi yn Atodiad 3. Diben y ddogfen hon yw amlinellu'r strategaeth, yr amcanion a'r egwyddorion a bennwyd i lywio darpariaeth y  RhMA yn y dyfodol.

Ym mis Mawrth 2010, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, sef rhaglen fuddsoddi hirdymor sy'n galluogi awdurdodau lleol Cymru i ddarparu amgylcheddau dysgu sy'n addas ar gyfer addysgu a dysgu yn yr 21ain Ganrif. Dechreuodd cam cyntaf y buddsoddiad (Band A) yn 2014 gan fuddsoddi £1.4 biliwn dros y cyfnod o bum mlynedd a ddaeth i ben yn 2018/19.

Dechreuodd paratoadau Sir Gaerfyrddin ar gyfer y Rhaglen genedlaethol ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif yn 2010 yn dilyn gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol gyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol ar gyfer moderneiddio eu holl ystad ysgolion, a'u gosod o fewn pedwar band o ran buddsoddi (A-D), yn nhrefn blaenoriaeth yn ôl yr angen mwyaf dybryd.

Yn 2010 cwblhawyd adolygiad mawr o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg fel rhan o'r broses o ddatblygu cyflwyniad y Cyngor Sir a Rhaglen Amlinellol Strategol yr Awdurdod a nododd yr opsiwn a ffefrir ar gyfer cyflwyno'r rhaglen ar sail ardal leol.

Drwy'r broses gyflwyno gychwynnol, cymeradwywyd Rhaglen Band A Sir Gaerfyrddin â gwerth o £86.7 miliwn (cyllidwyd 50% drwy grant gan Lywodraeth Cymru a 50% o adnoddau'r Cyngor ei hun). Dechreuodd Band A Sir Gaerfyrddin yn 2014/15 yn dilyn cymeradwyo prosiectau Band A fel rhan o'r diweddariad ynghylch y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn 2013.

Diweddarwyd Band A yn 2016 yn dilyn ailasesiad yn unol â meini prawf buddsoddi y RhMA a gymeradwywyd ac ymarferoldeb cyflawni.
Nid yw tri o'r prosiectau Band A (sef Dewi Sant, Talacharn a Rhyd-y-gors) wedi'u cwblhau o ganlyniad i heriau megis gwrthwynebiad gan y cyhoedd i'r safleoedd a ffefrir neu brosesau statudol cymhleth.

Ym mis Mai 2017 cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i symud ymlaen â Band B y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif. Dechreuodd Band B ym mis Ebrill 2019 a chafodd ei ehangu i gynnwys colegau addysg bellach ac felly cafodd ei ailenwi'n Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif. Roedd disgwyl i'r Rhaglen hon weld buddsoddiad pellach o £2.3 biliwn mewn seilwaith ysgolion a cholegau ac roedd disgwyl iddi barhau tan 2024/2026.

Ym mis Rhagfyr 2017, cymeradwywyd Band B Sir Gaerfyrddin â gwerth o £129.5 miliwn. Cyfradd ymyrryd Band B yw grant o 65% ar gyfer prif ffrwd a grant o 75% ar gyfer Ysgolion Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion. Dechreuodd Band B ym mis Ebrill 2019.

Mae sawl ffactor wedi effeithio ar gyflymder datblygu cynlluniau Band B e.e. maint a chymhlethdod prosiectau gan gynnwys gweithdrefnau statudol gofynnol, pandemig Covid-19 a phenderfyniadau democrataidd. Hefyd mae heriau digynsail wedi effeithio ar gynnydd cynlluniau o ran cynnydd sylweddol yng nghostau'r sector adeiladu yn sgil dod allan o'r pandemig ac effeithiau chwyddiant cynyddol ar gyllidebau, yn enwedig yng nghyswllt prosiectau cyfalaf, materion yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi a chynnydd mewn costau deunyddiau. Mae gan y ffactorau hyn oblygiadau sylweddol o ran cynlluniau'r Rhaglen Moderneiddio Addysg sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd.

 

Y Cefndir

Cymeradwywyd RhMA Sir Gaerfyrddin gan y Cyngor Sir ym mis Tachwedd 2004 fel ein cynllun buddsoddi a rhesymoli strategol i drawsnewid darpariaeth ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin. Y nod yw trawsnewid y rhwydwaith o ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn adnodd strategol a gweithredol effeithiol sy'n bodloni'r angen heddiw a'r angen yn y dyfodol am addysg sy'n canolbwyntio ar yr ysgol a'r gymuned.

Cyflawnir hyn (ar y cyd â Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru) drwy ddatblygu a gwella adeiladau, seilwaith a mannau sy'n cael eu gosod, eu dylunio, eu hadeiladu neu'u haddasu'n briodol i feithrin datblygiad cynaliadwy ar gyfer pobl a chymunedau Sir Gaerfyrddin.

Yn unol â chyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol i adolygu nifer a math yr ysgolion sydd ganddo, ac a yw'n gwneud y defnydd gorau o adnoddau a chyfleusterau, caiff y RhMA ei hadolygu'n rheolaidd i sicrhau ei bod yn dal yn hyblyg fel y gellir ymgorffori newidiadau pan fo angen yn unol â'r amgylchiadau addysgol presennol. Er bod nifer o flynyddoedd wedi mynd heibio ers adolygu'r RhMA ddiwethaf, mae nifer o ffactorau wedi arwain at benderfynu y byddai'n ddoeth adolygu'r rhaglen a'r strategaeth nawr.

Yn dilyn pandemig Covid-19, mae'r awdurdod wedi gweld nifer o newidiadau demograffig ledled y sir, megis newidiadau yn nifer y disgyblion a dewis rhieni o ran ysgolion ac ati. Mae deall anghenion y gymuned leol yn bwysig er mwyn darparu'r ysgol gywir yn yr ardal gywir. Mae hefyd wedi dod yn angenrheidiol adolygu dyluniad adeiladau ysgolion yn y dyfodol er mwyn sicrhau eu bod yn gydnaws â'r gofynion sefydliadol a bennwyd yn ystod y pandemig ac yn diwallu'r anghenion o ran awyru / mynediad at ansawdd aer da ac ati. Rhaid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r canlyniadau yn sgil y pandemig byd-eang. Mae staff, disgyblion a chyfleusterau wedi gorfod gweithio'n galetach o lawer er mwyn creu amgylchedd addysgu a dysgu hyfyw a diogel ond un sy'n dal yn feithringar. Fodd bynnag, yn y dyfodol gellid dylunio adeiladau mewn ffordd sy'n ystyried yr holl ffactorau hyn er mwyn osgoi'r newid dramatig hwn mewn rheolaeth weithredol eto yn y dyfodol pe bai angen gwneud hynny.

Yn ogystal, mae wedi dod i'r amlwg bod gan yr awdurdod stoc sy'n heneiddio o ran asedau ysgolion, lle mae cyflwr yr adeiladau hyn hefyd yn dirywio, gan arwain at yr angen am waith cynnal a chadw cyfalaf sylweddol. Rhaid ystyried pa mor addas yw'r stoc o hyd o ran gallu darparu cyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif er mwyn darparu'r gorau i'n dysgwyr. Hefyd, wrth roi'r cwricwlwm newydd ar waith, rhaid i ni sicrhau bod ein hasedau'n gallu gwella elfennau o'r cwricwlwm newydd megis cynaliadwyedd, bioamrywiaeth a dysgu yn yr awyr agored.

Mae wedi dod yn amlwg, oherwydd pwysau ariannol, bod gan nifer o ysgolion Sir Gaerfyrddin ddiffyg sylweddol. Mae hyn yn achosi straen ychwanegol i arweinwyr ysgolion ac yn cael effaith ar recriwtio. Mae costau adeiladu cynyddol yn arwain at gostau prosiect uchel sy'n cyfyngu ar y cyllid sydd ar gael i symud cynlluniau newydd yn eu blaen a'u datblygu. Mae costau adeiladu yn y DU yn parhau i gynyddu mewn ffordd na welwyd ei thebyg o'r blaen sy'n deillio o gyfuniad o oblygiadau Brexit, Covid-19 a chwyddiant. Mae hyn wedi effeithio ar gapasiti llafur contractwyr, yn ogystal ag achosi i'r rhestr o ddeunyddiau sydd ar gael leihau gan gyfrannu at brisiau uwch ar gyfer pecynnau craidd, megis pren, dur a sment. Fodd bynnag, nid cost yw'r unig broblem ac mae amseroedd dosbarthu estynedig ar gyfer deunyddiau hefyd wedi cael effaith yr un mor andwyol ar raglenni prosiectau.

Ym mis Tachwedd 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar Ysgolion Bro gan nodi dyheadau i ysgolion:

  • datblygu partneriaeth gryf gyda theuluoedd,
  • ymateb i anghenion eu cymuned a
  • chydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill

Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd canllawiau pellach ym mis Medi 2023 ar ymgysylltu â'r gymuned a sut y gall ysgolion fanteisio i'r eithaf ar eu rôl wrth sicrhau datblygiadau addysg, iechyd a chymunedol, a sut y gallant helpu i greu cymunedau llewyrchus, cydgysylltiedig sydd wedi’u grymuso. Ar hyn o bryd mae'r Awdurdod Lleol yn defnyddio Grant Ysgolion Bro i ddatblygu prosiectau i helpu ysgolion i ddod yn fwy hygyrch i'w cymunedau. Felly, yn y dyfodol mae angen ystyried sut y gellir dylunio ysgolion gyda'r gymuned leol mewn golwg.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo ehangu addysg a gofal plant blynyddoedd cynnar yng Nghymru drwy ehangu rhaglenni'r Cynnig Gofal Plant a Dechrau'n Deg. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir i rieni cymwys sy'n gweithio sydd â phlant 3 a 4 oed, a hynny hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r gofal plant sydd ar gael drwy Dechrau'n Deg ar gyfer plant dwy a thair oed. Mae'n cynnwys gofal plant o ansawdd uchel a ariennir am 12.5 awr yr wythnos, am 39 wythnos y flwyddyn, ac mae'n cael ei weithredu fesul cam. Bellach mae angen ystyried a oes angen cynnwys cyfleusterau i allu darparu'r gwasanaethau hyn o fewn adeiladau ysgolion newydd, os nad oes darpariaeth ar gael yn yr ardal leol.

Yn wahanol i ddatblygiad Bandiau A a B, yn 2024 mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhaglen fuddsoddi newydd 9 mlynedd o hyd, a fydd yn helpu awdurdodau lleol i flaenoriaethu prosiectau ar sail angen a'r gallu i'w cyflawni, yn ogystal â rheoli disgwyliadau rhanddeiliaid. Bydd y rhaglen hon yn helpu awdurdodau lleol i gynllunio dros gyfnod hwy a phenderfynu ar gynllun prosiect priodol ar gyfer pob cynllun, sy'n golygu y gellir rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid ar yr adeg berthnasol yn hytrach na’u bod yn aros i glywed pryd y bydd eu prosiect yn debygol o ddechrau. Yn y dyfodol ac mewn cydweithrediad â'r Rhaglen Dysgu Cymunedau Cynaliadwy, gall Cyngor Sir Caerfyrddin ddarparu cyfleusterau ar gyfer yr 21ain ganrif i ysgolion, drwy raglen ad-drefnu a buddsoddi sydd wedi'i chynllunio'n ofalus.

Mae'r holl ffactorau hyn yn golygu y gall yr Awdurdod Lleol bellach gynnal adolygiad cyfannol o'i RhMA, gan sicrhau bod yr holl bwyntiau allweddol yn cael sylw addas ac effeithiol fel rhan o'r strategaeth newydd.

Nod Cyngor Sir Caerfyrddin yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, gyda chyfleusterau a chyfleoedd sy'n addas i'r diben ar gyfer addysgu a dysgu yn yr 21ain Ganrif, yn ogystal â bod yn hygyrch i'r gymuned.