Cyfamod Lluoedd Arfog
I'r rhai sy'n amddiffyn ein cenedl, a hynny gyda balchder, anrhydedd, dewrder ac ymrwymiad, Cyfamod y Lluoedd Arfog yw ymrwymiad y genedl i chi. Mae'n addewid bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn deall - y dylai'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a'r gymdeithas y maent yn eu gwasanaethu gyda'u bywydau.
Dywedodd Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cyng. Jenkins: “Fel cyn-filwr credaf fod hyn yn ymwneud â meithrin a hyrwyddo ymrwymiad yn ein cymunedau gwledig a threfol i ddarparu'r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir i holl aelodau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd, yn y gorffennol neu'r presennol, a hynny er mwyn cydnabod eu cyfraniad personol ac i gofio'r aberth a wnaethant ac y maent yn parhau i'w wneud.