Strategaeth Ddraft y Rhaglen Moderneiddio Addysg

Adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg

Yn 2010 penderfynodd y Cyngor fod y RhMA yn cael ei hadolygu bob dwy flynedd neu fel y bo'n ofynnol, fel arall, er mwyn sicrhau'i bod yn cyd-fynd â therfynau amser rhaglen genedlaethol Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif (a ailenwyd yn Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy).

Ers ei sefydlu mae cynnal adolygiad rheolaidd yn nodwedd ganolog o'r RhMA er mwyn gallu cadw hyblygrwydd wrth wraidd y rhaglen i sicrhau ei bod yn gyfredol ac yn ymatebol i newidiadau yn y fframwaith polisi addysg a'i bod yn gallu diwallu anghenion cymdeithas sy'n datblygu'n gyson. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach yn yr hinsawdd bresennol/y cyfnod ar ôl y pandemig.

Mae meini prawf sydd wedi hen ymsefydlu, a ddatblygwyd ac a fabwysiadwyd yn lleol drwy ymgynghori ag arweinwyr ysgolion cynrychioliadol, wedi'u cytuno a'u mabwysiadu fel dangosyddion priodol hyfywedd ac angen am fuddsoddi. Mabwysiadwyd y rhain yn ffurfiol yn 2008 ac maent wedi llywio strwythur y Rhaglen Moderneiddio Addysg ers hynny. Mae'r meini prawf wedi cael eu hadolygu yn unol â newidiadau i strategaethau a pholisïau, yn ogystal â newidiadau i ffactorau allanol megis: pwysau/cyllidebau ariannol, ôl troed ysgolion, maint dosbarthiadau, recriwtio, cyflwr adeiladau yn dirywio a newidiadau demograffig i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â dyheadau presennol ac yn y dyfodol.

Bob tro y caiff y RhMA ei hadolygu, caiff pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin ei gwerthuso yn erbyn cyfres o feini prawf seiliedig ar dystiolaeth, sy'n caniatáu gwneud asesiad o hyfywedd gweithredol yr ysgol, a gwneud penderfyniadau ar sail angen buddsoddi cymharol pob ysgol.

Mae hyn yn galluogi'r Awdurdod i bennu rhaglen yn wrthrychol ar gyfer yr adolygiad strategol o'r rhwydwaith ysgolion a buddsoddi mewn moderneiddio yr ystad ysgolion mewn modd sy'n dryloyw ac yn amlwg yn deg.

O ganlyniad, mae pob ysgol yn cael ei rhoi mewn categori o fewn continwwm hyfywedd, i gadarnhau'r prognosis ar gyfer yr ysgol honno. Mae'r crynodeb o'r asesiad hyfywedd yn sail ar gyfer nodi prosiectau moderneiddio a chynigion rhesymoli o fewn y rhaglen gyffredinol.

Dylid nodi bod yr asesiad hyfywedd a'r casgliad ar gyfer pob ysgol yn seiliedig ar ddarpariaeth prif ffrwd a bydd dulliau eraill o ddarpariaeth megis y blynyddoedd cynnar, anghenion dysgu ychwanegol, ymddygiad ac ôl-16 yn cael eu llywio gan strategaethau ar wahân. Gellir gweld manylion y meini prawf hyfywedd a'r continwwm hyfywedd yn y tabl ar y dudalen nesaf.

 

Meini Prawf Hyfywedd

Ansawdd a Safonau mewn Addysg: ystyried mesurau allweddol a pherfformiad fel yr aseswyd drwy arolygiadau Estyn. Bydd pennu mesurau arbennig ar gyfer ysgol yn sbarduno adolygiad.

Arweinyddiaeth: sicrhau arweinyddiaeth gynaliadwy, gydag arweinwyr sy'n meddu ar gymwysterau addas sy'n rhydd i arwain a rheoli'r ysgol, lle na fydd gan yr un pennaeth ymrwymiad addysgu parhaol.

Nifer y Disgyblion: nifer y disgyblion sy’n mynd i’r ysgol, gyda niferoedd isel o ddisgyblion yn ddangosydd allweddol ar gyfer adolygu. Nifer y disgyblion yw'r prif ffactor mewn cyllid ysgolion a gall niferoedd isel o ddisgyblion ddylanwadu'n sylweddol ar ddarpariaeth gynaliadwy a strwythurau staffio.

Tueddiadau o ran Disgyblion: patrwm niferoedd disgyblion yn yr ysgol yn ystod y blynyddoedd blaenorol, gyda chofrestr sy’n lleihau yn ddangosydd allweddol ar gyfer adolygu.

Rhagamcaniad o Nifer y Disgyblion: asesiad o’r amcangyfrifon o nifer y disgyblion y disgwylir iddynt fynd i’r ysgol o fewn y dalgylch dynodedig a’r ystod oed berthnasol yn ystod y pum mlynedd nesaf, gyda gostyngiad neu gynnydd a ragwelir yn ddangosydd allweddol ar gyfer adolygu.

Lleoedd Gwag: nifer y lleoedd gwag yn yr ysgol, lle mae mwy na 10% o leoedd gwag mewn ardal yn gyffredinol yn ddangosydd ar gyfer adolygu i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y ddarpariaeth fel y'i diffinnir gan Lywodraeth Cymru yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018).

Hyfywedd Ariannol:sefyllfa ariannol bresennol yr ysgol a’r hyn a ragwelir o dan Reoliadau Cyllido Ysgolion Cymru 2010, gyda diffyg yn y gyllideb yn ddangosydd allweddol ar gyfer adolygu.

Cyflwr Adeiladau'r Ysgol: cyflwr asedau ffisegol yr ysgol a chost gwella’u cyflwr i gyrraedd safon dderbyniol, a asesir ar sail cost adnewyddu fel ffactor o werth yr ased ac yng nghyswllt nifer y lleoedd i ddisgyblion (yn ôl y lleoedd swyddogol sydd ar gael yn yr ysgol).

Addasrwydd Adeiladau'r Ysgol: priodoldeb adeiladau a safle'r ysgol i gyflwyno’r cwricwlwm modern/Cwricwlwm newydd i Gymru yn effeithiol a sicrhau bod yr ased ar gael at ddefnydd y gymuned, ac amcan o gost unrhyw waith addasu neu helaethu i sicrhau bod y safle’n ddigonol.

Cyfleoedd Cyllido/Adfywio Cydweithredol: pe bai cyfleoedd ar gael ar gyfer cyllid a/neu gydweithio drwy fentrau adfywio, gan gynnwys gydag asiantaethau eraill e.e. Awdurdodau Esgobaethol.

Asesiad Hyfywedd Caiff pob ysgol ei hasesu ar sail y meini prawf hyfywedd ac yna eu grwpio yn un o'r ddau gategori yn y continwwm hyfywedd.
Continwwm Hyfywedd

Cadw'r ysgol             

Cynnal adolygiad strategol o'r ysgol neu'r ardal

Ar ôl i'r asesiadau hyfywedd gael eu cwblhau, mae pob prosiect yn cael ei osod mewn trefn yn seiliedig ar y meini prawf blaenoriaethu canlynol i ddarparu rhaglen gyffredinol hirdymor ar gyfer buddsoddi.

 

Angen Mewn mannau lle mae darparu rhagor o le neu adnewyddu'r lle presennol yn hanfodol er mwyn darparu ar gyfer disgyblion yn sgil rhesymoli ysgolion eraill neu mae'r galw am leoedd yn cynyddu'n naturiol trwy newidiadau demograffig, ar yr amod, yn yr achos olaf, bod ysgolion yn cydymffurfio â Pholisi Derbyn y Cyngor..
Nifer y Disgyblion Mewn mannau sydd â niferoedd cynyddol neu sefydlog o ddisgyblion neu'r ysgolion hynny y bernir gan yr Awdurdod eu bod yn angenrheidiol er mwyn darparu gwasanaethau addysg yn effeithiol yn y tymor hir.
Lleoedd Gwag Mewn mannau lle bydd hynny, ochr yn ochr â chynigion rhesymoli, yn hwyluso'r gostyngiad mwyaf yn nifer y lleoedd gwag yn yr ysgol.
Cyflwr Adeiladau'r Ysgol Mewn mannau lle bydd modd cyflawni'r cynnydd mwyaf tuag at sicrhau amcanion ar gyfer safleoedd o ansawdd uchel ar gyfer y nifer mwyaf o ddisgyblion
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Mewn prosiectau sy'n hyrwyddo ehangu addysg cyfrwng Cymraeg neu ddatblygu addysg ddwyieithog, i gefnogi'r amcanion a bennwyd yn y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg sydd gan y Cyngor Sir. Darparu'r nifer cywir o leoedd i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Mewn mannau i gyflawni model o addysg gynhwysol a theg i bawb drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Gofal Plant - y Blynyddoedd Cynnar Mewn mannau i ddarparu'r math a'r swm cywir o ofal plant hygyrch o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion rhieni/gofalwyr.
Carbon Sero Net a Chynaliadwyedd Mewn mannau i weithio tuag at fod yn Garbon Sero Net a gwella adeiladau sy'n aneffeithlon o ran adnoddau ac sy'n cael effaith fawr ar yr amgylchedd.
Hygyrchedd Mewn mannau nad ydynt ar hyn o bryd yn diwallu anghenion pob defnyddiwr o ran adeiladau a hyrwyddo cynhwysiant.
Cyfleusterau Cymunedol Mewn mannau nad ydynt yn gallu hyrwyddo defnydd diogel gan y gymuned y tu allan i oriau ysgol traddodiadol ar hyn o bryd.


Mae'r RhMA yn cael ei harwain gan nifer o baramedrau cenedlaethol a lleol sy'n dylanwadu ar yr ymyriadau sydd ar gael i ddatblygu'r rhaglen a'i rhoi ar waith.

Paramedrau

Mae unrhyw newid trawsnewidiol i'r ystad ysgolion yn dibynnu ar y canlynol:

  • Cod Trefniadaeth Ysgolion – canllawiau statudol sy'n nodi cyfrifoldebau'r Awdurdod Lleol mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion a newidiadau a reoleiddir i wneud newidiadau sylweddol.
  • Proses Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir yng Nghymru – canllawiau statudol ar gyfer sefydlu ffederasiynau ysgolion.
  • Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru – mae rhaglen fuddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru yn darparu cyfleoedd cyllido cydweithredol i Awdurdodau Lleol trwy ei phroses cymeradwyo achosion busnes.
  • Rhaglen Gyfalaf – Mae'n amlinellu cyllid Cyfalaf yr Awdurdod Lleol sydd ar gael ar gyfer yr Adran Addysg dros gyfnod o bum mlynedd.
  • Y Broses Ddemocrataidd o Wneud Penderfyniadau – Proses a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir ar gyfer penderfynu ynghylch cynigion trefniadaeth ysgolion. Y Cyngor Sir yw'r corff penderfynu terfynol.

Ymyriadau (Opsiynau ar gyfer Newid)

Defnyddir ymyriadau i hwyluso newid i'r rhwydwaith ysgolion a gellir eu rhannu'n ddau fath, sef Statudol a Pholisi a Buddsoddi mewn Seilwaith.
Defnyddir Ymyriadau Statudol a Pholisi i ddatblygu rhwydwaith strategol a gweithredol effeithiol o ysgolion, sy'n diwallu'r angen am addysg ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Nodir cynigion drwy'r Adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ac maent yn ymateb i anghenion ardaloedd ar adegau penodol. Maent yn cynnwys:

 

Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Derbyn ar gyfer ei holl ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd a gynhelir ac eithrio ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir lle mai Corff Llywodraethu yr ysgol yw'r Awdurdod Derbyn.

Fel arfer, caiff disgyblion eu derbyn yn llawn amser i ysgol gynradd ar ddechrau tymor eu pen-blwydd yn 4 oed.

Mae rhai ysgolion hefyd yn cynnig darpariaeth feithrin ran-amser ac mae disgyblion fel arfer yn cael eu derbyn ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed.

Yn unol â'r gyfraith mae'n rhaid i rieni drefnu bod eu plant yn derbyn addysg amser llawn ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 5 oed.

Mae'n rhaid i ddisgyblion ysgolion cynradd ddechrau'r ysgol uwchradd yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed.

 

Dyddiadau penblwydd Dechrau Meithrin Rhan-amser [Y tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 3 oed] Dechrau Ysgol Amser Llawn [Y tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 4 oed] Oedran Ysgol Gorfodol [Y tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 5 oed] Dechrau yn yr ysgol uwchradd [y mis Medi yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 11 oed]
Pen-blwydd rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr Tymor y Gwanwyn Tymor yr Hydref Tymor y Gwanwyn Tymor yr Hydref
Pen-blwydd rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth Tymor yr Haf Tymor y Gwanwyn Tymor yr Haf Tymor yr Hydref
Pen-blwydd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst Tymor yr Hydref Tymor yr Haf Tymor yr Hydref Tymor yr Hydref

Rhaid i rieni/gwarcheidwaid gyflwyno cais ffurfiol am le rhan-amser ac amser llawn mewn ysgol. Ers 2017/18, mae holl geisiadau derbyn Sir Gaerfyrddin wedi'u cyflwyno ar-lein drwy wefan y Cyngor. Gall rhieni wneud cais am hyd at dair ysgol ac mae'n rhaid iddynt restru eu dewisiadau o ran ysgolion yn ôl y dewis 1af, yr 2il ddewis a’r 3ydd dewis. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiad cau perthnasol. Os na all rhieni/gwarcheidwaid gyflwyno cais ar-lein gartref, gellir gwneud trefniadau eraill i gyflwyno'r cais o ysgol neu o Ganolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor.

Mae gan bob ysgol yn Sir Gaerfyrddin Nifer Derbyn (ND). Mae hyn yn nodi nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i unrhyw grŵp blwyddyn ac mae'n seiliedig ar allu pob ysgol unigol i ddarparu adeiladau a chyfleusterau addas ar gyfer disgyblion. Os yw nifer y ceisiadau sy'n dod i law yn fwy na'r ND, caiff ceisiadau eu blaenoriaethu gan ddefnyddio'r meini prawf goralw a gyhoeddwyd.

Os na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle amser llawn i'w plentyn yn eu dewis ysgol gynradd neu ysgol uwchradd, bydd ganddynt hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn. Nid oes hawl i apelio yn achos gwrthod mynediad i ddarpariaeth feithrin ran-amser.

Mae rhagor o wybodaeth am brosesau Derbyn ac Apelio Sir Gaerfyrddin ar gael ar y wefan ac yn y llyfryn Gwybodaeth i Rieni. Gellir gweld Polisi Derbyn Ysgolion 2023-24 yn llawn hefyd.

Mae dalgylch yn cyfeirio at ardal ddaearyddol lle mae angen i ddisgyblion fynychu ysgol benodol fel rheol.

Defnyddir dalgylchoedd ysgol i wneud y canlynol:

  • dangos i rieni pa ysgol yw eu hysgol leol nhw.
  • helpu ysgolion i uniaethu â'r cymunedau a wasanaethir ganddynt.
  • blaenoriaethu derbyn disgyblion i ysgolion pan fo mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Byw o fewn y dalgylch yw un o'r meini prawf derbyn yn Sir Gaerfyrddin gan sicrhau bod ysgolion ar gael i wasanaethu plant lleol yn gyntaf.
  • fel cyfrwng cynllunio i alluogi'r Awdurdod i gyflawni ei ddyletswydd o ran rhagweld y galw am addysg mewn ardal ac o ran cynllunio i ddiwallu'r galw hwnnw.
  • fel elfen o'r polisi trafnidiaeth er mwyn hwyluso trefniadau cludiant o'r cartref i'r ysgol a rheoli costau.

Mae pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn gwasanaethu dalgylch dynodedig. Bydd gan blant sy'n byw mewn dalgylch dynodedig ysgol well siawns y bydd eu cais am le yn yr ysgol yn llwyddiannus. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd yn cael lle.

Hefyd bydd gan blant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol well siawns o gael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol.

Gellir gwneud cais i anfon plant i unrhyw ysgol yn y sir ond nid oes sicrwydd y byddant yn cael lle. Ac eithrio lleoedd meithrin ar gyfer plant 3 oed mae gennych hawl i apelio os gwrthodir eich cais.

Pan fydd plentyn yn symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, mae cais am le mewn ysgol a chludiant ysgol am ddim yn seiliedig ar y cyfeiriad cartref ac nid yr ysgol gynradd yr oedd y plentyn yn ei mynychu.

Adolygiad o Ddalgylchoedd

Dechreuwyd yr adolygiad diweddaraf o ddalgylchoedd yn 2008 ac roedd yn cynnwys ymarfer helaeth ynghylch dalgylchoedd presennol y sir. O ganlyniad i'r adolygiad, cymeradwywyd y dalgylchoedd yn Llanelli, Caerfyrddin a Dinefwr gan y Bwrdd Gweithredol yn Chwefror 2010, Ionawr 2011 a Gorffennaf 2010 yn y drefn honno.

Oherwydd hynny, mae angen adolygiad wedi'i ddiweddaru o'r dalgylchoedd presennol bellach i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gydnaws â'r rhwydwaith/ôl troed ysgolion presennol. Mae hyn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Mae’r term ‘ffederasiwn’ yn disgrifio cytundeb ffurfiol a chyfreithiol, lle mae mwy nag un ysgol, ac nid mwy na chwech, yn rhannu trefniadau llywodraethu ac yn cael Corff Llywodraethu sengl.

Fel y nodir yn y Broses Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir yng Nghymru mae ysgolion wedi gallu ffedereiddio ers 2010 gan ddefnyddio'r broses a nodwyd yn Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir ac Amrywiol Newidiadau (Cymru) 2010. Bu i'r broses Ffedereiddio ysgolion a gynhelir yng Nghymru ddisodli Rheoliadau Ffedereiddio 2010 ar 22 Mai 2014, a hefyd roi'r grym i Awdurdodau Lleol ffedereiddio ysgolion. Mae'r canllawiau presennol yn nodi sut gall Awdurdodau Lleol, yn ogystal â chyrff llywodraethu, ffedereiddio ysgolion, a sut gall ffederasiynau gael eu cynnig, eu sefydlu a'u ffurfio.

Mae'r broses y byddai awdurdod lleol yn ei defnyddio i ffedereiddio ysgolion bron yn union yr un fath â'r broses a ddilynid gan gyrff llywodraethu. Os yw awdurdod lleol yn ystyried ffedereiddio ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol sefydledig, dylai yn gyntaf gysylltu â'r Comisiwn Elusennau i drafod y cynigion. Rhaid iddo hefyd gael cydsyniad yr awdurdod esgobaethol neu'r ymddiriedolwyr perthnasol neu'r personau sy'n gyfrifol am benodi'r llywodraethwyr sefydledig.

Er mwyn i ffederasiwn lwyddo, rhaid i bob ysgol ymrwymo amser ac adnoddau. Bydd arweinyddiaeth glir a strwythurau rheoli ynghyd â gweledigaeth a rennir a nod cyffredin yn galluogi'r disgyblion i fanteisio ar gwricwlwm ehangach i gyfoethogi eu profiadau a darparu addysg o safon uchel i helpu i wella eu cyrhaeddiad.

Bydd y pŵer a roddir i Awdurdodau Lleol ffedereiddio yn darparu dull gwerthfawr ychwanegol i'r Rhaglen Moderneiddio Addysg wrth ystyried darpariaeth ar gyfer ardaloedd ledled Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.

Mae Ffedereiddio Anffurfiol wedi cael ei ddefnyddio fel ymyriad i sicrhau arweinyddiaeth yn rhai o'n hysgolion lle mae'n heriol recriwtio arweinwyr cynaliadwy oherwydd pwysau ar y gyllideb/niferoedd y disgyblion/natur wledig yr ysgol.

Mae Ffedereiddio Ffurfiol wedi cael ei ddefnyddio gan ysgolion yn ogystal â'r Awdurdod Lleol i:

  • Sicrhau arweinyddiaeth gynaliadwy.
  • Gwella cynaliadwyedd ysgolion yn y dyfodol.
  • Gwella profiadau disgyblion.
  • Gwella'r sefyllfa ynghylch y gyllideb.
  • Ffurfioli trefniadau gweithio ar y cyd.

Fodd bynnag, yn fwyaf diweddar, mae ffedereiddio fel ymyriad yn cael ei herio. Mae dod o hyd i arweinyddiaeth gynaliadwy ar gyfer ffederasiynau ffurfiol yn dod yn fwyfwy anodd oherwydd y cyfrifoldeb sy'n gysylltiedig â rheoli mwy nag un ysgol. Gall y pwysau gwaith ychwanegol sy'n gysylltiedig â rheoli Ffederasiwn gael effaith negyddol ar lesiant Pennaeth. Yn ogystal, oherwydd y cynnydd mewn costau tanwydd, mae rhai Penaethiaid yn cwestiynu hyfywedd rôl y Pennaeth Gweithredol oherwydd y teithio ychwanegol.

Cyn 2020, nid oedd gan yr Awdurdod Lleol broses gymeradwy ar waith ar gyfer penderfynu ar gynigion ffedereiddio, yn wahanol i'r broses o wneud penderfyniadau a oedd ar waith ar gyfer penderfynu ar gynigion ad-drefnu ysgolion. Fodd bynnag, ym mis Chwefror 2020, cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol broses o wneud penderfyniadau ar gyfer cynigion ffedereiddio a arweinir gan Awdurdod Lleol, lle byddai'r Aelod Cabinet dros Addysg yn gwneud y penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi cynnig ffedereiddio ar waith ai peidio.

Yn ogystal â hyn, mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynigion i:

  • sefydlu neu gau ysgolion cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir neu wneud newid a reoleiddir iddynt (gweler 3.3 o’r Cod);
  • cau ysgol wirfoddol neu sefydledig;
  • cynyddu neu leihau capasiti ysgol sefydledig neu wirfoddol heb gymeriad crefyddol.

Gall cyrff llywodraethu ysgolion sefydledig neu wirfoddol wneud cynigion i:

  • gau eu hysgol;
  • gwneud newid a reoleiddir i’w hysgol.

Gall unrhyw un wneud cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol newydd. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol gydweithio â’r corff crefyddol perthnasol pan mai cynnig i sefydlu ysgol wirfoddol o natur grefyddol sydd dan sylw.

Ni cheir sefydlu ysgol sefydledig nac ysgol arbennig sefydledig newydd yng Nghymru.

Gall awdurdodau lleol hefyd wneud cynigion i ychwanegu neu ddileu chweched dosbarth mewn ysgolion uwchradd gwirfoddol a sefydledig, ond dim ond os ydynt wedi cael caniatâd Gweinidogion Cymru i wneud hynny. Rhaid ceisio caniatâd drwy gais ysgrifenedig sy’n nodi rhesymeg yr awdurdod lleol dros y cynnig yn glir.

Yn ogystal â hyn, mae Deddf 2013 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynigion i:

  1. unioni darpariaeth ormodol neu annigonol o leoedd mewn ysgolion (lle maent eisoes wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu i’r perwyl hwnnw) (adran 59);
  2. sicrhau darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig (lle maent eisoes wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i awdurdod lleol/awdurdodau lleol/cyrff llywodraethu i’r perwyl hwnnw) (adran 68), ac
  3. ychwanegu neu ddileu chweched dosbarth mewn ysgol (adran 71).


Mae ymyriadau cynigion y Cod Trefniadaeth Ysgolion a nodir uchod yn cael eu hwyluso gan y broses ddemocrataidd fewnol o wneud penderfyniadau (gweler Atodiad 1). Cafodd y broses a gymeradwywyd ei diwygio'n fwyaf diweddar ym mis Ionawr 2021 ac mae wedi'i hen sefydlu. Yn hanfodol, gwneir y penderfyniad terfynol gan y Cyngor Sir ynghylch a ddylid rhoi cynigion ad-drefnu ysgolion ar waith ai peidio.

Cyflawnir prosiectau drwy Ymyriadau Buddsoddi mewn Seilwaith (Opsiynau ar gyfer Datblygu) megis:

Estyniadau - yn cyfeirio at y broses o helaethu adeilad neu strwythur presennol i greu lle neu ystafelloedd ychwanegol. Mae'n cynnwys adeiladu rhannau newydd sydd wedi'u hintegreiddio â'r adeilad gwreiddiol, gan gynyddu ei faint cyffredinol a'i ymarferoldeb. Gellir ychwanegu estyniadau i wahanol rannau o adeilad, megis ychwanegu ystafelloedd ychwanegol, ehangu cegin, creu adain newydd, neu helaethu'r lloriau uchaf. Pwrpas estyniad yw diwallu anghenion newidiol y defnyddwyr, darparu lle ar gyfer twf, neu wella gwerth ac ymarferoldeb yr eiddo.

Mae adeiladau newydd yn cyfeirio at y broses o greu adeilad neu strwythur cwbl newydd o'r dechrau. Yn y math hwn o adeiladu, nid oes strwythur sy'n bodoli eisoes, ac mae'r prosiect fel arfer yn cynnwys clirio'r safle, gosod y sylfaen, ac adeiladu pob elfen o'r adeilad, gan gynnwys waliau, lloriau, toeau a chyfleustodau. Mae adeiladau newydd yn gyffredin ar gyfer safleoedd tir glas (tir heb ei ddatblygu) neu pan fo strwythur presennol y tu hwnt i gael ei atgyweirio neu nad yw'n addas i'w adnewyddu.

Mae ailfodelu yn golygu gwneud newidiadau neu welliannau sylweddol i strwythur, cynllun neu ddyluniad adeilad presennol. Yn wahanol i estyniad, sy'n ychwanegu lle newydd, mae ailfodelu'n canolbwyntio ar adnewyddu a newid y lle presennol i fodloni anghenion y defnyddwyr yn well neu i ddiweddaru golwg ac ymarferoldeb yr adeilad. Gall prosiectau ailfodelu gynnwys adnewyddu ystafelloedd ymolchi, ceginau, neu ystafelloedd eraill, newid y cynllun mewnol, uwchraddio systemau trydanol neu blymio, neu ychwanegu nodweddion mewnol newydd.

Mae adnewyddu yn cyfeirio at y broses o adnewyddu, atgyweirio neu ddiweddaru adeilad neu strwythur sy'n bodoli eisoes, gyda'r nod o adfer ei gyflwr a'i ymarferoldeb i gyflwr gwell. Yn wahanol i ailfodelu, mae adnewyddu fel arfer yn golygu newidiadau llai helaeth ac mae'n canolbwyntio ar wella estheteg, ymarferoldeb a chyflwr cyffredinol yr adeilad. Gall hyn gynnwys atgyweirio elfennau sydd wedi torri neu wedi treulio, ailbaentio, gosod gosodiadau a ffitiadau newydd, ac uwchraddio systemau i sicrhau bod yr adeilad yn cyrraedd safonau modern.

Mae adeiladu modiwlaidd neu symudol yn cyfeirio at ddull o adeiladu strwythurau lle mae'r cydrannau neu'r modiwlau yn cael eu hadeiladu oddi ar y safle mewn ffatri neu amgylchedd rheoledig ac yna'n cael eu cludo i'r lleoliad terfynol i'w cydosod. Mae'r modiwlau hyn wedi'u paratoi o flaen llaw, sy'n golygu eu bod yn cael eu cynhyrchu mewn meintiau a dyluniadau safonol, ac felly'n gallu cael eu cludo'n hawdd a'u cydosod yn gyflym ar y safle.

Mae'r ymyriadau buddsoddi yn cael eu llywodraethu'n gorfforaethol yn ogystal â thrwy Fyrddau Prosiect a Rhaglen Moderneiddio Addysg a Chymunedau (gweler Atodiad 2).

 

 

Opsiynau Ymyriad drwy Fuddsoddi Disgrifiad
Dim angen buddsoddiad cyfalaf Dim angen buddsoddiad
Adeiladau Ychwanegol Estyniad / Modiwlaidd Byddai buddsoddi yn golygu helaethu ysgol i ddarparu adeiladau/darpariaeth ychwanegol
Adnewyddu/Ailgyflunio Byddai buddsoddi yn golygu adnewyddu/ailgyflunio ysgol ar ei safle presennol
Ardal 3-11 newydd Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu un ysgol 3-11 newydd i gymryd lle mwy nag un ysgol mewn ardal
Ysgol 3-11 newydd yn lle'r un bresennol Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol 3-11 newydd i gymryd lle ysgol bresennol ar ei safle presennol neu ar safle newydd
Ysgol 3-11 newydd Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol 3-11 newydd
Ysgol 11-16 newydd yn lle'r un bresennol Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol 11-16 newydd i gymryd lle ysgol bresennol ar ei safle presennol neu ar safle newydd
Ysgol 11-16 newydd Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol 11-16 newydd
Ysgol 11-19 newydd yn lle'r un bresennol Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol 11-19 newydd i gymryd lle ysgol bresennol ar ei safle presennol neu ar safle newydd
Ysgol 11-19 newydd Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol 11-19 newydd
Sefydlu ysgol 3-16 Byddai buddsoddi yn golygu sefydlu ysgol 3-16 i gymryd lle'r ddarpariaeth gynradd/uwchradd bresennol
Sefydlu ysgol 3-19 Byddai buddsoddi yn golygu sefydlu ysgol 3-19 i gymryd lle'r ddarpariaeth gynradd/uwchradd bresennol
Ysgol Arbennig Newydd Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol arbennig newydd i gymryd lle ysgol arbennig bresennol ar ei safle presennol neu ar safle newydd
Darpariaeth ADY newydd Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu darpariaeth ADY newydd
Uned ADY Byddai buddsoddi yn golygu sefydlu darpariaeth ADY integredig ar safleoedd ysgolion
Darpariaeth ymddygiad newydd Byddai buddsoddiad yn golygu adeiladu darpariaeth ymddygiad newydd
Uned Ymddygiad Byddai buddsoddi yn golygu sefydlu darpariaeth ymddygiad integredig ar safleoedd ysgolion

Egwyddorion Isafswm Buddsoddiad

  • Bydd angen i unrhyw ysgol newydd sy'n cynnwys darpariaeth gynradd gyfrannu at gyflawni uchelgeisiau Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin.
  • Bydd pob ysgol yn cael ei hadeiladu i ddarparu lle ar gyfer Addysg Blynyddoedd Cynnar 3 oed.
  • Bydd pob ysgol yn cael ei hadeiladu ar ôl ystyried yr angen am ddarpariaeth gofal plant cofleidiol o 2 oed (yn seiliedig ar ddadansoddiad o fylchau).
  • Bydd pob ysgol yn cael ei hadeiladu ar ôl ystyried yr angen am leoedd i'w defnyddio gan y gymuned.
  • Bydd pob ysgol yn cael ei hadeiladu ar ôl ystyried yr angen am ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • Bydd pob ysgol yn cael ei hadeiladu ar ôl ystyried y gofynion hamdden/chwaraeon yn yr ardal.

Ers cyflwyno'r RhMA yn 2001 a hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2022/2023, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi buddsoddi £325m yn ei ysgolion.

Hyd yn hyn, bu modd rhoi'r RhMA ar waith drwy sefydlu strategaeth gyllido arloesol ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf sydd wedi manteisio ar amrywiaeth o ffynonellau cyllido a'u hintegreiddio, sef:

  • Grantiau Llywodraeth Cymru – Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (a elwid gynt yn Grant Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif), Grant Gwella Adeiladau Ysgolion, Grant Systemau Chwistrellu Tân, Grant Cyfalaf Dechrau'n Deg, ac ati.
  • Derbyniadau Cyfalaf – a grëwyd drwy waredu asedau ysgol sy'n ddiangen yn weithredol (os nad ydynt yn cael eu defnyddio gan y gymuned ac ati). Yn dilyn penderfyniad blaenorol gan y Cyngor Sir, caiff yr holl dderbyniadau a grewyd drwy werthu hen safleoedd ysgolion eu neilltuo i'w hailfuddsoddi yn y rhaglen moderneiddio ysgolion.
  • Benthyca Darbodus –cyfraniadau o refeniw a grëir drwy enillion effeithlonrwydd sy'n deillio o resymoli'r rhwydwaith ysgolion a thrwy addasiad yn y gyllideb ddirprwyedig ysgolion.
  • Cyfalaf Cyffredinol – cyfraniadau o ddyraniad cyfalaf cyffredinol y Cyngor. (Wedi'u neilltuo) Cytundebau Adran 106 – cyfraniadau gan ddatblygwyr eiddo preswyl.
  • Cyfraniadau Ysgolion – cyfraniadau o gyllidebau refeniw ysgolion.

Mae'r dull arloesol o gyllido'r gwaith o foderneiddio ysgolion a ddefnyddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin wedi caniatáu i'r Awdurdod wneud cynnydd sylweddol o ran gwella ansawdd y cyfleusterau mewn nifer o ysgolion. I ddechrau, cafodd y Cyngor gyllid drwy fenthyca darbodus o gyllidebau ysgolion gweithredol, ond mae hyn wedi dod i ben ers hynny gan nad oes fawr ddim lle ar gyfer cyfraniadau refeniw.

Yn fwyaf diweddar, mae'r Awdurdod Lleol wedi llwyddo i gael grantiau i gyllido 100% o brosiectau amrywiol sy'n canolbwyntio'n benodol ar: Anghenion Dysgu Ychwanegol, Ysgolion Bro, Ardaloedd Hybiau Cymunedol a Chyfrwng Cymraeg.

Rhaglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy | LLYW.CYMRU

Mae rhaglen fuddsoddi dreigl yn cael ei rhoi ar waith er mwyn bod yn fwy effeithlon a gwella’r ddarpariaeth ar gyfer partneriaid (awdurdodau lleol, colegau ac ati) a Llywodraeth Cymru. Bydd y rhaglen dreigl yn cryfhau un o nodweddion allweddol y Rhaglen, sef datblygu prosiectau yn ôl amserlen a blaenoriaethau’r partneriaid cyflawni, gan wneud i ffwrdd â’r ‘optimistiaeth ormodol’, neu'r angen i bartneriaid cyflawni gyflwyno cynigion rhy uchelgeisiol ar gyfer cyfnod sy’n dynn iawn fel arfer.

Rhaglen Dreigl Gyfalaf 9 Mlynedd

 

Blynyddoedd Disgwyliadau
1, 2 a 3 Disgwyl i brosiectau gyrraedd achos busnes llawn o fewn y 3 blynedd
4, 5 a 6 Prosiectau'n cael eu datblygu ac yn mynd drwy ymgynghoriad statudol
7,8 a 9 Prosiectau hirdymor sydd mewn golwg

Mae'n rhaid cyflwyno rhaglen gyfalaf 9 mlynedd i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys bras ragolwg cyllid ar gyfer y 9 mlynedd, er mwyn ystyried rhoi ymrwymiad a chymorth ar gyfer y 3 blynedd gyntaf a chymorth mewn egwyddor ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6. Bydd blynyddoedd 7 i 9 yn adlewyrchu’r prosiectau hirdymor sydd mewn golwg. Os yw'n briodol, gellir cynnwys prosiectau Band B ar ddechrau'r rhaglen gyfalaf 9 mlynedd.

Rhaid i bartneriaid cyflawni adolygu ac ailgyflwyno eu Rhaglen erbyn Mawrth 2024 fan bellaf.

Mae pwysau sylweddol eraill ar y rhaglen gyfalaf Addysg a Phlant nad ydynt wedi cael eu nodi ar hyn o bryd.

O angenrheidrwydd mae'r pwysau hyn ‘wedi'u cyllido o gyfalaf y RhMA fel a ganlyn:

  • Deddf Cydraddoldeb 2010 - mae'n ofyniad cyfreithiol i'r Awdurdod Lleol wneud addasiadau rhesymol i safleoedd ysgolion. Mae £1.5M wedi cael ei wario yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.
  • Pwysau o ran adeiladau - Mae £590K wedi cael ei wario ar adeiladau dros dro yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Mae'r tueddiadau presennol yn awgrymu y bydd gofyniad cynyddol i ymateb i gynnydd tymor byr i ganolig yn nifer y disgyblion mewn rhannau o'r sir.
  • Gwariant Brys - Mae sefyllfaoedd brys yn codi ac mae'n ofynnol defnyddio rhaglen gyfalaf yr Adran Addysg i ddiwallu anghenion brys. Mae £1.5M wedi cael ei wario yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.

Yn ogystal, mae'r cronfeydd cyfalaf sydd ar gael ar gyfer cynnal a chadw adeiladau mewn ysgolion o dan bwysau difrifol. Ers blwyddyn ariannol 2018/19, mae'r Awdurdod wedi derbyn grant o £11.65M ar gyfer gwaith cynnal a chadw adeiladau wedi'i gyfalafu i ysgolion. Mae'r cyllid grant a ddarperir ar ben y gyllideb gorfforaethol tua £1.3M y flwyddyn sy'n cyfateb i £5.2M dros yr un cyfnod. Hyd yn oed gyda'r grant ychwanegol mae'r gyllideb yn parhau i fod dan bwysau difrifol i ymdopi â'r galw am waith brys mewn ysgolion. Mae cyfanswm y gwaith cynnal a chadw cyfalaf (a gymeradwywyd/sydd ar y gweill ac yn aros am gymeradwyaeth) sydd ei angen dros y 3 blynedd nesaf (23/24, 24/25 a 25/26) yn cyfateb i £22.8m, o'i gymharu â chyllideb flynyddol o tua £1.3m ynghyd ag unrhyw grant gan Lywodraeth Cymru.

Llwythwch mwy