Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg

Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg

Diben Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin 2022-2032 yw manylu ar sut yr ydym yn bwriadu cyflawni canlyniadau a thargedau Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system addysg a hyfforddiant sy’n ymateb, mewn modd a gynlluniwyd, i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. Y nod yw hyrwyddo cynnydd yn nifer y bobl o bob oed sy’n medru defnyddio’r Gymraeg gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle. Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin yn gyfrwng allweddol ar gyfer creu system gynllunio well ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.

Bydd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn darparu dull i Lywodraeth Cymru fonitro'r ffordd yr ydym yn ymateb ac yn cyfrannu at weithredu amcanion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Cefndir y Cynllun

Mae Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg 2022-2032 yn ddogfen statudol y mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru ei chynhyrchu. Cymeradwyir y Cynllun gan Lywodraeth Cymru. Cyflwynir adroddiad rheolaidd i'r llywodraeth ar gynnydd yn erbyn y cynllun.

Cynnwys y Cynllun

Rhaid i'r Awdurdod Lleol ddarparu gwybodaeth a thargedau yn erbyn 7 maes dysgu neu ganlyniadau strategol fel a ganlyn:

  • Deilliant 1 - Mwy o blant meithrin/plant 3 oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Deilliant 2 - Mwy o blant dosbarth derbyn/plant 5 oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Deilliant 3 - Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall
  • Deilliant 4 - Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau a asesir yn y Gymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Deilliant 5 - Cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol
  • Deilliant 6 - Cynnydd yn y ddarpariaeth o ran addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • Deilliant 7 - Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032 wedi ei ddatblygu ar sail 7 dyhead i gryfhau'r ddarpariaeth yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg hwn yn cael ei wneud o dan adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac mae’r cynnwys yn cydymffurfio â Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 20191-2. Rydym wedi rhoi sylw dyledus i'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru wrth bennu ein targedau.

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019
Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020