Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg

Deilliant 1 - Mwy o blant meithrin/ tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Ble rydym ni nawr?

O ran darpariaeth ar gyfer plant meithrin/tair oed rydyn ni mewn sefyllfa gadarn a’n bwriad yw adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi ei gyflawni.

  • Ar hyn o bryd, cyflwynir Addysg y Blynyddoedd Cynnar yn Sir Gaerfyrddin drwy gymysgedd o leoliadau a gynhelir gan yr awdurdod lleol, a lleoliadau nas cynhelir a ddarperir gan sefydliadau preifat neu ddielw. Y bwriad yw parhau i gynyddu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ar draws y sir. Yn ystod oes y Cynllun blaenorol rydyn ni wedi gweld cynnydd yn y nifer o leoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael o ran gofal cyn-ysgol a darpariaeth addysg.
  • Yn 2019/20 fe wnaeth 93.1% o’n dysgwyr drosglwyddo o Gylchoedd Meithrin i ysgolion cyfrwng Cymraeg, sy’n gynnydd cyson ers 2015/16 (87.3%). (Gweler deilliant 3 am ddadansoddiad manylach).

Er mwyn sicrhau dewis i rieni, a chynnig cyfle cyfartal, caiff lleoedd eu hariannu o fewn darpariaethau mudiadau gwirfoddol a phreifat, megis Mudiad Meithrin, Cylch Ti a Fi neu Gymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru, yn unol â chanllawiau'r Awdurdod Lleol.

Mae'r awdurdod yn cefnogi 31 o leoliadau nas cynhelir. Mae tua 100 o leoliadau eraill nas cynhelir yn y Sir sy'n cynnig gofal plant ond nid yw'r rhain wedi'u cymeradwyo i ddarparu addysg. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth i bob darparwr gofal plant yn ogystal â rhieni.

Mae'r Awdurdod Lleol yn gweithio gyda darparwyr cyn-ysgol a gofal plant i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg, drwy hyrwyddo manteision dwyieithrwydd. Drwy'r llyfryn 'Gwybodaeth i Rieni', hysbysir rhieni pa ysgolion a lleoliadau sy'n cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Cyfnod Sylfaen.

Hefyd, datblygwyd pamffledi defnyddiol fel ‘Cymraeg gyda'ch Plant- rhowch gynnig arni!’ yn ogystal â ‘Gwaith Cartref Cymraeg- dim problem’, gan hefyd gyfeirio rhieni a gofalwyr at glipiau ffilm yr awdurdod ac adnoddau ar-lein Llywodraeth Cymru.

 

Niferoedd Lleoliadau a Chylchoedd Meithrin

Numbers 2015/2016 2016/2017 2017/2018 2018/2019 2019/2020
Nifer y lleoladau 50 54 49 51 50
Nifer y Cylchoedd Meithrin 57 64 61 60 57
Nifer y plant sy'n mynych'r Cylchoedd Meithrin 1634 1715 1651 1606 1307

 

*Dalier Sylw: Mae newid oedrannau ysgolion wedi dylanwadu ar y niferoedd sy’n mynychu’r cylchoedd meithrin, felly hefyd tyfiant y sector breifat o fewn y Sir.

 

Darparwyr Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg

Math o leoliad

Nifer lleoliadau

2013-2014

Nifer o leoedd

2013-2014

Nifer leoliadau

2016-2017

Nifer o leoedd

2016-2017

Nifer lleoliadau

2021-2022 

Nifer o leoedd

2021-2022

Gofalwyr Plant 29 160 55 295 41 290
Gofal Diwrnod Llawn 10 385 17 630 42 1016
Gofal Sesiynol 54 1076 51 935 25 481
Gofal ar ôl ysgol 23 625 24 653 26 824
CYFANSWM 116 2246 147 2513 134 2611

 

Nifer y disgyblion oed meithrin Cymraeg iaith gyntaf, 2012 i 2021

Canran y disgyblion oed meithrin Cymraeg iaith gyntaf, 2012 i 2021

Canran y plant dosbarth meithrin/plant 3 oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yw 57.54% (2020). Sir Gâr sydd â‘r nifer uchaf o ddysgwyr oed Meithrin sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan bob dalgylch yn Sir Gaerfyrddin fynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae rhaglen Dechrau'n Deg yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnig gwasanaethau ymyrraeth gynnar a dargedir i deuluoedd â phlant 0-3 oed. O achos natur y rhaglen fel un sydd wedi'i thargedu, cedwir yn llym at y rheol cod post cymwys. Fe'i sefydlwyd yn 2007, a chlustnodwyd wyth o gymunedau yn wreiddiol gan ddefnyddio'r nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim a dangosyddion tlodi eraill fel tystiolaeth o fannau o amddifadedd, sef: Bigyn, y Betws, Carwe, Felin-foel, Penrhos, Llwynhendy a Pharc Waun Dew. Yn 2012/13 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r gwasanaeth yn ehangu a chlustnododd Sir Gaerfyrddin 9 cymuned newydd arall a fyddai'n elwa ar wasanaethau cymorth dwys Dechrau'n Deg, sef: Dafen (Llanelli), Pantyffynon, y Garnant, Glanaman (Rhydaman), Gogledd Tref Caerfyrddin, y Pwll (Llanelli), Trimsaran (Cydweli), Porth Tywyn, a Phen-bre. Caiff gwasanaethau eu darparu o dan bedwar maes gwasanaeth, sef ymweliadau iechyd dwys ar sail anghenion, lleoedd gofal plant a ariennir ar gyfer plant 2-3 oed, gweithgareddau iaith yn y blynyddoedd cynnar ac ystod o raglenni rhianta, sy'n cynnig cymorth ar reoli ymddygiad a rhianta cadarnhaol.

Mae darparu gofal plant o ansawdd da i blant 2-3 oed yn ganolog i'r rhaglen a chan ei bod yn canolbwyntio ar blant sy'n byw mewn cymunedau dan anfantais, ei nod yw cynnig cyfleoedd ysgogol i wella eu deilliannau yn y tymor hir wrth baratoi at yr ysgol.

  • 2026-2027

    Mae ymrwymiad cryf i addysg drochi yn allweddol i’r strategaeth hon. Mae’r bwriad cenedlaethol i fandadu’r Gymraeg o 3 oed a Saesneg o 7 oed yn hollbwysig o ran cefnogi’r dull hwn. Yn ystod 5 mlynedd cyntaf y Cynllun;

    • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gan dargedu meysydd lle nad oes darpariaeth ar gael ar hyn o bryd.
    • Byddwn yn darparu cymorth ac arweiniad drwy ein tîm Blynyddoedd Cynnar a byddwn yn parhau i rannu deunyddiau gyda rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid mewn perthynas â gwerth dwyieithrwydd er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth a gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ar bob cam trosiannol.
    • Byddwn yn parhau i gynyddu’r ganran sy’n trosglwyddo o’r grwpiau meithrin i'r Cyfnod Sylfaen cyfrwng Cymraeg.

     

    Er mwyn cynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael byddwn yn ad-drefnu'r ddarpariaeth bresennol drwy ddatblygu mwy o ddarpariaeth gofal plant/cyn-ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

    • Byddwn yn parhau i weithio gyda darparwyr y blynyddoedd cynnar gan gynnwys Mudiad Meithrin a darpariaeth cyn i’r plentyn droi’n 3 oed, i gryfhau ac ehangu'r ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg.
    • Byddwn yn parhau i gryfhau ein gwaith gyda Dechrau'n Deg a gyda thîm Dysgu Cymraeg Sir Gaerfyrddin. Mae cynllunio strategol eisoes wedi dechrau drwy weithio gyda'r asiantaethau hyn i sicrhau dealltwriaeth syml ac addysgedig o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy rannu taflenni a phosteri ac ati.
    • Byddwn yn defnyddio'r partneriaethau hyn er mwyn eu cyfeirio at lenyddiaeth a chyhoeddiadau Cymraeg a rhannu gwybodaeth am gyfleoedd ar gyfer dysgu oedolion.
    • Mae gweithio gyda'n tîm Cymraeg i Oedolion Dysgu Sir Gâr a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn ein galluogi i estyn allan i'r gymuned nid yn unig drwy rannu gwybodaeth ond hefyd drwy weithio yn y gymuned.
    • Byddwn yn gweithio gyda'r Tîm Derbyniadau i sicrhau bod gwybodaeth glir a chynhwysfawr a diweddar yn cael ei chynnwys yn y llyfryn Gwybodaeth i Rieni sydd ar gael i rieni plant o bob oed. Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael ar wefan y Cyngor Sir.
    • Bydd swyddogion sy'n delio ag ymholiadau yn cael hyfforddiant mewnol bob blwyddyn i sicrhau mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i ateb unrhyw gwestiynau. Hefyd, mae dealltwriaeth dda yn anhepgor er mwyn iddynt allu trafod goblygiadau opsiynau cyfrwng Cymraeg. Gall hyn hefyd fod yn bwynt pwysig lle gellir gofyn cwestiynau manwl. Felly, mae'n bwysig i'r tîm derbyn fod mewn cysylltiad â Rheolwr y Gymraeg mewn Addysg pan fo angen.
    • Wrth adolygu'r broses derbyn ar-lein i'r ysgol, byddwn yn ystyried taith y defnyddwyr. Mae angen i hyn fod yn weladwy iawn ac yn hawdd i'w defnyddio fel bod rhieni a gofalwyr yn gallu ystyried a deall addysg cyfrwng Cymraeg yn well o'r dechrau. Gyda'n gweledigaeth i symud pob ysgol ar hyd y Continwwm Iaith, bydd yr angen am wybodaeth gywir am ddarpariaeth ysgolion unigol yn cael ei hamlygu drwy'r tîm derbyn i ddechrau.
    • Byddwn yn hyrwyddo cyfres o gynnwys gwe Llywodraeth Cymru am addysg cyfrwng Cymraeg sy'n ceisio darparu canllawiau ar sut i greu naratif cadarnhaol o amgylch y Gymraeg.
    • Byddwn yn cynyddu'r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i sicrhau y gall rhieni a gofalwyr wneud penderfyniadau gwybodus ar ddewis ysgol ar gyfer eu plant.

     

    Mae Athrawon Datblygu'r Gymraeg wedi creu clipiau ffilm am Addysg Cyfrwng Cymraeg gyda disgyblion addysg cyfrwng Cymraeg sydd o gymysgedd o gefndiroedd ieithyddol, yn ogystal â rhieni. Mae'r clipiau hyn yn rhoi cipolwg ar deuluoedd go iawn sydd wedi cwestiynu addysg cyfrwng Cymraeg o'r cychwyn ond sy'n huawdl iawn wrth gyfleu sut yr oedd eu diffyg dealltwriaeth o ddwyieithrwydd yn llywio eu penderfyniad. Mae'r rhain yn glipiau pwerus a defnyddiol iawn gan eu bod yn cyfleu llawer o faterion sy'n codi gyda rhieni a gofalwyr gall fod â rhai amheuon am Addysg Cyfrwng Cymraeg. Bydd gwybodaeth am y clipiau ar wefan Llywodraeth Cymru yn cael ei rhannu ynghyd â'r defnydd o'r gyfres o gynnwys ar y we sydd hefyd yn rhoi arweiniad ar sut i greu naratif cadarnhaol ynghylch dwyieithrwydd.

    Bydd ymgyrchoedd marchnata'n cael eu cynnal megis cyfeirio at sianelau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i blant, sy'n cynnwys adnoddau i rieni a phlant fel caneuon, clipiau ffilm a gwybodaeth.

  • 2031-2032

    Er mwyn cynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael byddwn wedi:-

    • Datblygu mwy o ddarpariaeth gofal plant/cyn-ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg
    • Cefnogi ysgolion dwy ffrwd a throsiannol presennol i ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg
    • Buddsoddi mewn sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg/dwy ffrwd newydd gan ddefnyddio'r lle sydd ar gael.
    • Ystyried ystod oedran ysgolion penodol ac o bosibl creu lle ar gyfer darpariaeth blynyddoedd cynnar iawn cyfrwng Cymraeg
    • Parhau i fonitro'r galw mewn ardaloedd trefol
    • Ail-ddynodi pob ysgol yn fanteisiol iawn i wella'r niferoedd mewn darpariaethau cyn-ysgol a gofal plant.

    Ein nod yw bod yr holl ddarpariaeth cyn-ysgol a gofal plant yn cael ei chyflwyno'n ddwyieithog o fewn y cynllun 10 mlynedd.

  • Data Allweddol

    Niferoedd a % y plant meithrin/tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

    2022-2023 2023 - 2024 2024-2025 2025-2026 2026-2027
    1358 / 58%  1381 / 59% 1404 / 60% 1451 / 62% 1478(+120) /  63%
             
    2027-2028 2028-2029 2029-2030 2030-2031 2031-2032
    1545 / 66% 1615 / 69% 1662 / 71% 1709 / 73% 1756(+398) / 75%