Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg

Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg

Diben Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin 2022-2032 yw manylu ar sut yr ydym yn bwriadu cyflawni canlyniadau a thargedau Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system addysg a hyfforddiant sy’n ymateb, mewn modd a gynlluniwyd, i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. Y nod yw hyrwyddo cynnydd yn nifer y bobl o bob oed sy’n medru defnyddio’r Gymraeg gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle. Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin yn gyfrwng allweddol ar gyfer creu system gynllunio well ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.

Bydd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn darparu dull i Lywodraeth Cymru fonitro'r ffordd yr ydym yn ymateb ac yn cyfrannu at weithredu amcanion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Cefndir y Cynllun

Mae Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg 2022-2032 yn ddogfen statudol y mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru ei chynhyrchu. Cymeradwyir y Cynllun gan Lywodraeth Cymru. Cyflwynir adroddiad rheolaidd i'r llywodraeth ar gynnydd yn erbyn y cynllun.

Cynnwys y Cynllun

Rhaid i'r Awdurdod Lleol ddarparu gwybodaeth a thargedau yn erbyn 7 maes dysgu neu ganlyniadau strategol fel a ganlyn:

  • Deilliant 1 - Mwy o blant meithrin/plant 3 oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Deilliant 2 - Mwy o blant dosbarth derbyn/plant 5 oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Deilliant 3 - Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall
  • Deilliant 4 - Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau a asesir yn y Gymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Deilliant 5 - Cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol
  • Deilliant 6 - Cynnydd yn y ddarpariaeth o ran addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • Deilliant 7 - Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032 wedi ei ddatblygu ar sail 7 dyhead i gryfhau'r ddarpariaeth yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg hwn yn cael ei wneud o dan adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ac mae’r cynnwys yn cydymffurfio â Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 20191-2. Rydym wedi rhoi sylw dyledus i'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru wrth bennu ein targedau.

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019
Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020


Ein gweledigaeth deng mlynedd ar gyfer cynyddu a gwella'r cynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ein hardal

Yn ôl Cyfrifiad 2011, Sir Gâr oedd â’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae ein poblogaeth ddwyieithog yn ased unigryw a gwerthfawr.

Mae gennym ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ond rydyn ni hefyd yn frwd dros hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau fod gan ein holl drigolion y cyfle i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd.

Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn iaith fyw yng nghymunedau Sir Gâr. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i ni gydweithio i greu mwy o gyfleoedd i blant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol, yn y gwaith, mewn busnesau ac mewn gweithgareddau hamdden.

Gweledigaeth hirdymor y Cyngor yn ‘Strategaeth Hybu’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin’ yw: Anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir.

Mae 5 prif nod sef-

  1. Cynyddu niferoedd sy’n caffael sgiliau sylfaenol a sgiliau pellach yn y Gymraeg drwy’r system addysg a thrwy drosglwyddo iaith yn y cartref;
  2. Cynyddu hyder siaradwyr Cymraeg ac felly ddefnydd y Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, ac annog a chefnogi sefydliadau’r sir i wneud y Gymraeg yn gynyddol yn gyfrwng naturiol eu gwasanaethau;
  3. Cymryd camau pwrpasol i effeithio’n gadarnhaol ar symudiadau poblogaeth gan geisio denu’n pobl ifanc i sefydlu neu i ail-ymsefydlu yn y sir fel na gollir y cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg a enillir drwy’r drefn addysg. Yn ogystal, gwneud ymdrechion sylweddol i gymathu mewnfudwyr a sicrhau nad ydy datblygiadau cynllunio newydd yn cael effaith andwyol ar hyfywedd y Gymraeg;
  4. Targedu ardaloedd daearyddol penodol o fewn y sir, naill ai am eu bod yn cynnig potensial i ddatblygu neu yn achosi pryder yn ieithyddol, i gynyddu niferoedd sy’n medru ac yn defnyddio’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny;
  5. Marchnata a hyrwyddo’r iaith. Codi statws y Gymraeg gan gynnwys manteision dwyieithrwydd a manteision addysg ddwyieithog. A thrwy godi ymwybyddiaeth o’r manteision hyn, denu mwy o drigolion y sir i gaffael yr iaith.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, yn Sir Gaerfyrddin y gwelwyd y pwynt canran yn disgyn fwyaf yng Nghymru, o 50.3% yn 2001 i 43.9% yn 2011, a oedd yn golygu mai llai na hanner y boblogaeth oedd yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2011. Dyma’r tro cyntaf yn hanes y sir i’r ganran ddisgyn dan yr hanner.

Cyfrifiad 2011: Y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin Adroddiad gan: Dylan Phillips 15 Ionawr 2014

Elfen ddadlennol iawn o ddata’r cyfrifiad yw dosbarthiad y siaradwyr Cymraeg ar draws nifer o grwpiau oedran. O fewn siaradwyr Cymraeg Sir Gaerfyrddin yn 2011, gwelir bod canrannau uwch na’r cyfartaledd sirol o-

  • blant oed ysgol (3-14 oed),
  • pobl ifainc (16-24 oed) a
  • phobl dros oed ymddeol (65 oed a throsodd) yn gallu siarad Cymraeg:

Siaradwyr Cymraeg Sir Gaeryrddin fesul Grŵp Oed,2011

Siaradwyr Cymreag (3 oed a throsodd)  Nifer  Canran (%)
 3-15 15,514 57.7%
 16-24  9,040 46.2%
 25-34  7,073 37.5 %
 35-49  12,881 35.8%
 50-64  14,910 39.15%
 65-74  9,209 45.3%
 75-84  6,472 51.2%
 85+  2,949 56.95%
 CYFANSWM  78,048  43%

 

Yn dilyn Cyfrifiad 2011 cytunodd y Cyngor llawn i sefydlu Gweithgor Tasg a Gorffen i ymchwilio i’r ffactorau a wnaeth arwain at y dirywiad ac i lunio argymhellion er mwyn ymdrin â’r sefyllfa. Ym mis Mawrth, 2014 cyhoeddwyd Adroddiad ‘Y Gymraeg yn Sir Gâr’ gan Weithgor y Cyfrifiad. Cyflwynwyd argymhellion ar gyfer y meysydd canlynol-

  • Cynllunio
  • Addysg
  • Iaith ac Economi
  • Gweithleoedd cyfrwng Cymraeg a gweinyddiaeth y Cyngor
  • Effaith sefydliadau sy’n gweithio er budd y Gymraeg megis y Mentrau Iaith
  • Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng nghymunedau’r sir
  • Trosglwyddiad Iaith yn y teulu
  • Marchnata’r Iaith

O ran y sector Addysg a Phlant roedd 25 o argymhellion a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir- isod mae rhai o’r prif argymhellion. Gellir darllen y rhestr lawn yn Atodiad 1 ar ddiwedd y ddogfen.

Targedau:

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod Sir Gaerfyrddin yn y categori mwyaf heriol gyda’r nod o sicrhau cynnydd o 10-14%+ yn y plant Blwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y strategaeth.

Canran Blwyddyn 1 mewn addysg cyfrwng Cymraeg

Yn Ebrill 2021, roedd 60% (1163 o’n dysgwyr) Blwyddyn 1 yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn gynnydd o 5% ers dechrau’r Cynllun Strategol presennol.

Yn ôl data Llywodraeth Cymru- Cyfanswm y disgyblion a nifer y disgyblion a addysgir Cymraeg fel iaith gyntaf yn ôl grŵp blwyddyn ac awdurdod lleol, 2012 i 2021 mae 56.89% (14,442) o ddysgwyr Sir Gaerfyrddin yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 2017 y canran oedd 50.81% (13,694); gwelwyd cynnydd o 6.08% neu 748 o ddysgwyr yn dilyn y trywydd cyfrwng Cymraeg.

Yn seiliedig ar garfan gyfartalog o 1,964 o ddisgyblion ym Mlwyddyn 1, mae cynnydd o 10%-14% o Flwyddyn 1 mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn golygu rhwng 196 a 275 o ddisgyblion ychwanegol. Hyderwn y bydd ein gweledigaeth ar gyfer addysg drochi ac ail-ddynodi ysgolion yn sicrhau ein bod yn rhagori'n gyfforddus ar y canrannau a'r niferoedd absoliwt hyn.

Erbyn mis Medi 2032, dyhead uchelgeisiol Cyngor Sir Gaerfyrddin yw y bydd 75% o’r holl ddisgyblion Blwyddyn 1 yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd sicrhau sylfaen gadarn o ran addysg Gymraeg yn cynyddu dewis y dysgwyr a rhoi’r hyder iddynt i ddilyn llwybr addysg cwbl ddwyieithog ac yna ymlaen i gyflogaeth ac i’r gymuded ehangach.

Addysg Cyn-Ysgol

  • Bod y Cyngor Sir yn cydweithio’n agos gyda’r Mudiad Meithrin a darparwyr preifat i sicrhau bod addysg cyn ysgol cyfrwng Cymraeg ar gael yn hwylus ym mhob rhan o Sir Gâr.

Y Sector Cynradd

  • Bod y Cyngor Sir yn paratoi cynllun gwaith ac amserlen bendant, mewn cydweithrediad â chyrff llywodraethu ysgolion, er mwyn symud pob ysgol gynradd ar hyd continwwm iaith. Bydd angen datblygu strategaethau ar gyfer yr amrywiol gategorïau ac ardaloedd daearyddol;

Ysgolion Uwchradd

  • Bod y Cyngor Sir yn disgwyl i ysgolion uwchradd adeiladu ar y sylfaen ieithyddol a osodwyd gan yr ysgolion cynradd Cymraeg drwy sicrhau bod pob disgybl yn parhau i astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf ac fel cyfrwng dysgu hyd at CA4;
    Bod y Cyngor Sir yn cynllunio ar gyfer twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector uwchradd.

Marchnata Addysg Gymraeg

  • Bod y Cyngor Sir yn cynnal ymgyrch farchnata barhaus i hyrwyddo addysg Gymraeg gan esbonio manteision bod yn ddwyieithog i rieni a disgyblion;

Cyffredinol

  • Bod y Cyngor Sir yn cydweithio gyda phob corff Llywodraethol i gynnal awdit sgiliau iaith er mwyn ystyried anghenion ieithyddol y gweithlu ar gyfer gallu symud yr ysgol ar hyd y continwwm iaith.

Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid

  • Bod y grŵp gweithredu strategol yn sicrhau ei fod yn datblygu cyfleoedd cymunedol cyfrwng Cymraeg a fydd yn cefnogi ac yn atgyfnerthu’r cwricwlwm addysgol.

Mae’r Cynllun Strategol hwn yn ymateb i’r adroddiadau a’r argymhellion uchod a dyheadau'r Cyngor Sir a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn.

Er gwaetha’r cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i gyfrannu mewn modd ystyrlon i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg Cymru i Filiwn o siaradwyr erbyn 2050 yn unol ag amcan Llywodraeth Cymru.

Wrth ddilyn y nod o gael Sir Gaerfyrddin ddwyieithog, rydym am sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn gadarnle i'r Gymraeg yn ne-orllewin Cymru- Sir lle mae'r Gymraeg yn iaith fyw, ffyniannus a bywiog o fewn cymunedau dwyieithog, cryf a chynaliadwy.

Dymunwn sicrhau twf sylweddol mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg er mwyn cynyddu nifer y bobl o bob oed sy'n dod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac sydd â'r gallu i ddefnyddio eu hieithoedd yn hyderus gyda'u teuluoedd, eu cymdogion ac yn y gweithle.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo'n llwyr i'r strategaeth allweddol hon. Wrth weithredu’r strategaeth yma, fe fyddwn yn ystyrlon o’r ystod barn parthed y strategaeth gan droedio’n sensitif, yn bwyllog ac yn rhesymol ymhob achlysur.

Credwn fod rôl y system addysg yn anhepgor o ran gwireddu'r dyheadau hyn. I gefnogi hyn, byddwn yn adeiladu ar nifer o’r egwyddorion yng nghynllun 2017-22 ac yn eu hehangu:

  • Pob disgybl i fod yn ddwyieithog hyderus erbyn ei fod yn 11 oed, hyd eithaf gallu ein hysgolion, fel y cyflawnir gan drefniant presennol dynodiadau ieithyddol ein hysgolion, wrth ystyried eu taith ar hyd y continwwm iaith fel sefydliadau unigol.
  • Cyflawni'r nod hwn yn yr ysgol gynradd drwy ymgorffori egwyddorion addysg drochi yn y blynyddoedd cynnar fel opsiwn a ffafrir ac a argymhellir. Gall hyn sicrhau bod disgyblion yn rhugl yn barod erbyn 7 mlwydd oed, gyda chyflwyno elfennau ar drydedd iaith fydol erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen – wrth ganlyn llythrennedd deuol a thriphlyg, yn enwedig mewn perthynas â llafaredd.
  • Ar ôl y cyfnod trochi, sicrhau bod y manteision cynnar hyn i blant yn cael eu cynnal drwy gadarnhau dilyniant ieithyddol uchelgeisiol priodol yn y blynyddoedd dilynol
  • Pob disgybl i gael ‘dwy iaith gyntaf' erbyn diwedd yr ysgol gynradd, gyda threfniadau pwrpasol ar gyfer symud ymlaen i'r sector uwchradd er mwyn datblygu ac ychwanegu at fanteision bod â mwy nag un iaith er mwyn gallu cymryd pob cyfle mewn bywyd.
  • Cyfarwyddeb i bob arweinydd ysgol a chorff llywodraethu i sicrhau cydymffurfiaeth ag amcanion addysg drochi'r Sir a darpariaethau eraill yn y strategaeth hon.
  • Hyrwyddo a datblygu amlieithrwydd, gan gyflwyno trydedd iaith tua diwedd y Cyfnod Sylfaen fel y gall dysgwyr gael 'dwy iaith a mwy'
  • Hyrwyddo llafaredd, gwrando, darllen ac ysgrifennu mewn ffordd sy'n gyson â chwricwlwm newydd Cymru, gyda'r nod o sicrhau llythrennedd deuol a thriphlyg ein disgyblion
  • Sefydlu system o ddisgwyliadau uchel a chodi'r bar wrth drin y Gymraeg fel un continwwm ieithyddol o hyn ymlaen
  • Symud pob ysgol ar hyd y continwwm iaith, gyda lefel yr her sy'n briodol i'w chyd-destun cychwynnol, ond ar gyfradd ddatblygu sy'n bwrpasol ac yn bendant. Yn gyffredinol, gall hyn olygu symud pob ysgol o fewn eu categorïau newydd, gan anelu hefyd at ymgynghori’n gyhoeddus ar gyfer newid sylweddol i ddarpariaeth o leiaf 10 ysgol o fewn y ddegawd, 4 o rheiny o fewn y 5 mlynedd cyntaf.
  • Ymgorffori ymagwedd ragweithiol tuag at drefn ail-ddynodi ieithyddol yr ysgol, gan symud ysgolion ar ddechrau'r system newydd i ddynodiad a fydd yn briodol heriol i bob un ohonynt wrth i'r Sir symud tuag at wireddu'r weledigaeth addysgol a amlinellir (gweler isod)
  • Trefnu bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob dysgwr o fewn pellter teithio rhesymol i'w cartrefi, ac yn eu dalgylchoedd eu hunain
  • Gweithio gyda gwasanaethau corfforaethol eraill a rhanddeiliaid allweddol i hyrwyddo a datblygu ymhellach ddwyieithrwydd yn Sir Gaerfyrddin.
  • Sicrhau bod dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cyfleoedd ieithyddol cyfartal.
  • Datblygu’r gweithlu (deilliant 7), drwy ymelwa rhagor ar y 200 (13%) o athrawon sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl ond nad ydynt yn ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Yn ogystal, cynnig hyfforddiant i’r gweithlu ar hyd ystod y gwahanol lefelau hyfedredd er mwyn codi sgiliau’n gyffredinol.
  • Sicrhau bod pob disgybl yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu'r iaith yn rhugl erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 yn unol â'u cyfnod datblygu disgwyliedig.
  • Sicrhau cynnydd clir a hwylus o’r ddarpariaeth cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg i addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac ymlaen i fyd gwaith ac addysg bellach ac uwch.
  • Darparu gwasanaethau a fydd yn sicrhau cyfleoedd dysgu o ansawdd da i bob plentyn, person ifanc ac oedolyn yn Sir Gaerfyrddin, gan eu galluogi felly i wireddu eu potensial llawn fel dysgwyr gydol oes yng nghyd-destun natur ddwyieithog unigryw'r Sir.
  • Hyrwyddo datblygiad medrau dwyieithog dysgwyr ar bob cyfle mewn sefyllfaoedd ffurfiol, lled-ffurfiol ac anffurfiol fel bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n naturiol i gyfathrebu.
  • Hyrwyddo manteision gwybyddol, economaidd, cymdeithasol, addysgol, iechyd a chymunedol dwyieithrwydd
  • Hyrwyddo cyfleoedd i rieni a'r teulu ehangach ddatblygu eu sgiliau Cymraeg fel y gallent gefnogi datblygiad iaith eu plant
  • Gweithio mewn partneriaeth â'r holl ddarparwyr i wella safon y Gymraeg o fewn yr amgylchedd dysgu
  • Datblygu a hyrwyddo rhaglenni hyfforddi a fydd yn galluogi gweithlu'r ysgol i ennill y cymhwysedd a'r hyder i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Sicrhau bod hwyrddyfodiaid yn cael eu cefnogi'n llawn i sicrhau y gallent integreiddio'n naturiol i'w hysgol a'u cymuned leol drwy ddefnyddio Canolfannau Iaith y Sir.
  • Cynnal tîm o staff fydd yn sicrhau gweithredu’r strategaeth, gan gynnwys gorolwg o’r strategaeth gan Bennaeth Gwasanaeth yn yr Adran Addysg a Phlant a Rheolwr Datblygu’r iaith Gymraeg yn yr adran honno’n ogystal. Cynnal Fforwm yr Gymraeg mewn Addysg (wedi ei gyfansoddi gan randdeiliaid a phartneriaid allweddol ac aelodau etholedig ar draws ystod y pleidiau gwleidyddol). Byddwn hefyd yn cydweithio gyda Fforwm Sirol y Gymraeg er mwyn dwyn y maen i’r wal.

Ail-ddynodi Ysgolion- bydd y categorïau a fabwysiedir ar gyfer gwahanol ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn adlewyrchu strategaeth CSGA a disgwyliadau rhesymol i symud pob ysgol ar hyd y continwwm iaith. Ar yr adeg briodol, byddwn yn symud ein hysgolion o'u dynodiadau presennol i'r system gategoreiddio newydd:

  • Ar y sail nad yw'n niweidiol i’r ddarpariaeth ddwyieithog bresennol
  • Mewn modd sy'n rhoi taith ddigon heriol a datblygiadol i ysgolion ar hyd y continwwm iaith
  • Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn trafod ac yn cytuno ar y categori newydd a neilltuwyd gyda phob ysgol, cyn i’r categori gael ei gadarnhau gan bob Corff Llywodraethu

Y cwricwlwm i Gymru- Mae rôl y Gymraeg yng nghwricwlwm Cymru yn cael ei nodi'n glir ac yn aml yn y weledigaeth a osodir yn Ddyfodol Llwyddiannus. Rydym wedi ymrwymo, drwy argymell cwricwlwm i Sir Gaerfyrddin, i hyrwyddo'r Gymraeg fel pwnc, fel cyfrwng addysgu, fel cymhwysedd ac fel yr iaith ar gyfer cyfathrebu anffurfiol yn ein hysgolion a'n cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin.

Cafodd Bil Cwricwlwm 2021 Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2021.

Mandadu Ieithoedd - mae'r Gymraeg wedi'i mandadu o 3 oed, tra bo’r Saesneg wedi'i mandadu o 7 mlwydd oed. Mae hyn yn sicrhau:

  • Gall addysg drochi Cymraeg sefydledig barhau heb ei lesteirio
  • Mae'r ysgolion cyfrwng Saesneg presennol dal yn gallu cyflwyno Saesneg o 3 oed
  • Bydd gan ysgolion nad ydynt yn defnyddio addysgeg drochi Cymraeg neu’r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar gyfrifoldeb i gyflwyno'r Gymraeg o 3 oed ymlaen

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015- Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn gymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn diogelu diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg, ac yn annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.

Strategaeth Llywodraeth Cymru - miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 - Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn addysg a sgiliau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan mai dim ond drwy alluogi mwy o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd gwireddu'r uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Byddwn yn canolbwyntio ein strategaeth tymor hwy ar y blynyddoedd cynnar, oherwydd po gynharaf y bydd plentyn yn dod i gysylltiad â'r iaith, y mwyaf o gyfle sydd gan y plentyn i ddod yn rhugl.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Bydd y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a'r Cynllun Cymraeg mewn Addysg yn cael eu halinio. Bydd buddsoddi mewn ysgolion ac adeiladau newydd yn llawn ystyried nodau strategol y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg dros y degawd nesaf.

Defnyddir buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru fel mater o drefn, a fuddsoddwyd er enghraifft wrth sefydlu Canolfan Iaith yn ardal Drefach, y disgwylir iddi agor yn 2021 fel adnodd i gefnogi'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlysoedd Addysg (Cymru)- Blaenoriaeth: Bodloni gofynion ALNET a'r Côd ADY yn y Gymraeg


Deilliant 1 - Mwy o blant meithrin/ tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Ble rydym ni nawr?

O ran darpariaeth ar gyfer plant meithrin/tair oed rydyn ni mewn sefyllfa gadarn a’n bwriad yw adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi ei gyflawni.

  • Ar hyn o bryd, cyflwynir Addysg y Blynyddoedd Cynnar yn Sir Gaerfyrddin drwy gymysgedd o leoliadau a gynhelir gan yr awdurdod lleol, a lleoliadau nas cynhelir a ddarperir gan sefydliadau preifat neu ddielw. Y bwriad yw parhau i gynyddu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ar draws y sir. Yn ystod oes y Cynllun blaenorol rydyn ni wedi gweld cynnydd yn y nifer o leoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael o ran gofal cyn-ysgol a darpariaeth addysg.
  • Yn 2019/20 fe wnaeth 93.1% o’n dysgwyr drosglwyddo o Gylchoedd Meithrin i ysgolion cyfrwng Cymraeg, sy’n gynnydd cyson ers 2015/16 (87.3%). (Gweler deilliant 3 am ddadansoddiad manylach).

Er mwyn sicrhau dewis i rieni, a chynnig cyfle cyfartal, caiff lleoedd eu hariannu o fewn darpariaethau mudiadau gwirfoddol a phreifat, megis Mudiad Meithrin, Cylch Ti a Fi neu Gymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru, yn unol â chanllawiau'r Awdurdod Lleol.

Mae'r awdurdod yn cefnogi 31 o leoliadau nas cynhelir. Mae tua 100 o leoliadau eraill nas cynhelir yn y Sir sy'n cynnig gofal plant ond nid yw'r rhain wedi'u cymeradwyo i ddarparu addysg. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth i bob darparwr gofal plant yn ogystal â rhieni.

Mae'r Awdurdod Lleol yn gweithio gyda darparwyr cyn-ysgol a gofal plant i gynyddu nifer y dysgwyr sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg, drwy hyrwyddo manteision dwyieithrwydd. Drwy'r llyfryn 'Gwybodaeth i Rieni', hysbysir rhieni pa ysgolion a lleoliadau sy'n cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Cyfnod Sylfaen.

Hefyd, datblygwyd pamffledi defnyddiol fel ‘Cymraeg gyda'ch Plant- rhowch gynnig arni!’ yn ogystal â ‘Gwaith Cartref Cymraeg- dim problem’, gan hefyd gyfeirio rhieni a gofalwyr at glipiau ffilm yr awdurdod ac adnoddau ar-lein Llywodraeth Cymru.

 

Niferoedd Lleoliadau a Chylchoedd Meithrin

Numbers 2015/2016 2016/2017 2017/2018 2018/2019 2019/2020
Nifer y lleoladau 50 54 49 51 50
Nifer y Cylchoedd Meithrin 57 64 61 60 57
Nifer y plant sy'n mynych'r Cylchoedd Meithrin 1634 1715 1651 1606 1307

 

*Dalier Sylw: Mae newid oedrannau ysgolion wedi dylanwadu ar y niferoedd sy’n mynychu’r cylchoedd meithrin, felly hefyd tyfiant y sector breifat o fewn y Sir.

 

Darparwyr Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg

Math o leoliad

Nifer lleoliadau

2013-2014

Nifer o leoedd

2013-2014

Nifer leoliadau

2016-2017

Nifer o leoedd

2016-2017

Nifer lleoliadau

2021-2022 

Nifer o leoedd

2021-2022

Gofalwyr Plant 29 160 55 295 41 290
Gofal Diwrnod Llawn 10 385 17 630 42 1016
Gofal Sesiynol 54 1076 51 935 25 481
Gofal ar ôl ysgol 23 625 24 653 26 824
CYFANSWM 116 2246 147 2513 134 2611

 

Nifer y disgyblion oed meithrin Cymraeg iaith gyntaf, 2012 i 2021

Canran y disgyblion oed meithrin Cymraeg iaith gyntaf, 2012 i 2021

Canran y plant dosbarth meithrin/plant 3 oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yw 57.54% (2020). Sir Gâr sydd â‘r nifer uchaf o ddysgwyr oed Meithrin sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan bob dalgylch yn Sir Gaerfyrddin fynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae rhaglen Dechrau'n Deg yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnig gwasanaethau ymyrraeth gynnar a dargedir i deuluoedd â phlant 0-3 oed. O achos natur y rhaglen fel un sydd wedi'i thargedu, cedwir yn llym at y rheol cod post cymwys. Fe'i sefydlwyd yn 2007, a chlustnodwyd wyth o gymunedau yn wreiddiol gan ddefnyddio'r nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim a dangosyddion tlodi eraill fel tystiolaeth o fannau o amddifadedd, sef: Bigyn, y Betws, Carwe, Felin-foel, Penrhos, Llwynhendy a Pharc Waun Dew. Yn 2012/13 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r gwasanaeth yn ehangu a chlustnododd Sir Gaerfyrddin 9 cymuned newydd arall a fyddai'n elwa ar wasanaethau cymorth dwys Dechrau'n Deg, sef: Dafen (Llanelli), Pantyffynon, y Garnant, Glanaman (Rhydaman), Gogledd Tref Caerfyrddin, y Pwll (Llanelli), Trimsaran (Cydweli), Porth Tywyn, a Phen-bre. Caiff gwasanaethau eu darparu o dan bedwar maes gwasanaeth, sef ymweliadau iechyd dwys ar sail anghenion, lleoedd gofal plant a ariennir ar gyfer plant 2-3 oed, gweithgareddau iaith yn y blynyddoedd cynnar ac ystod o raglenni rhianta, sy'n cynnig cymorth ar reoli ymddygiad a rhianta cadarnhaol.

Mae darparu gofal plant o ansawdd da i blant 2-3 oed yn ganolog i'r rhaglen a chan ei bod yn canolbwyntio ar blant sy'n byw mewn cymunedau dan anfantais, ei nod yw cynnig cyfleoedd ysgogol i wella eu deilliannau yn y tymor hir wrth baratoi at yr ysgol.

  • 2026-2027

    Ble rydym yn ceisio bod o fewn 5 mlynedd cyntaf y Cynllun hwn a sut rydym yn bwriadu cyrraedd yno?

    Mae ymrwymiad cryf i addysg drochi yn allweddol i’r strategaeth hon. Mae’r bwriad cenedlaethol i fandadu’r Gymraeg o 3 oed a Saesneg o 7 oed yn hollbwysig o ran cefnogi’r dull hwn. Yn ystod 5 mlynedd cyntaf y Cynllun;

    • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gan dargedu meysydd lle nad oes darpariaeth ar gael ar hyn o bryd.
    • Byddwn yn darparu cymorth ac arweiniad drwy ein tîm Blynyddoedd Cynnar a byddwn yn parhau i rannu deunyddiau gyda rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid mewn perthynas â gwerth dwyieithrwydd er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth a gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ar bob cam trosiannol.
    • Byddwn yn parhau i gynyddu’r ganran sy’n trosglwyddo o’r grwpiau meithrin i'r Cyfnod Sylfaen cyfrwng Cymraeg.

     

    Er mwyn cynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael byddwn yn ad-drefnu'r ddarpariaeth bresennol drwy ddatblygu mwy o ddarpariaeth gofal plant/cyn-ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

    • Byddwn yn parhau i weithio gyda darparwyr y blynyddoedd cynnar gan gynnwys Mudiad Meithrin a darpariaeth cyn i’r plentyn droi’n 3 oed, i gryfhau ac ehangu'r ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg.
    • Byddwn yn parhau i gryfhau ein gwaith gyda Dechrau'n Deg a gyda thîm Dysgu Cymraeg Sir Gaerfyrddin. Mae cynllunio strategol eisoes wedi dechrau drwy weithio gyda'r asiantaethau hyn i sicrhau dealltwriaeth syml ac addysgedig o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy rannu taflenni a phosteri ac ati.
    • Byddwn yn defnyddio'r partneriaethau hyn er mwyn eu cyfeirio at lenyddiaeth a chyhoeddiadau Cymraeg a rhannu gwybodaeth am gyfleoedd ar gyfer dysgu oedolion.
    • Mae gweithio gyda'n tîm Cymraeg i Oedolion Dysgu Sir Gâr a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn ein galluogi i estyn allan i'r gymuned nid yn unig drwy rannu gwybodaeth ond hefyd drwy weithio yn y gymuned.
    • Byddwn yn gweithio gyda'r Tîm Derbyniadau i sicrhau bod gwybodaeth glir a chynhwysfawr a diweddar yn cael ei chynnwys yn y llyfryn Gwybodaeth i Rieni sydd ar gael i rieni plant o bob oed. Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael ar wefan y Cyngor Sir.
    • Bydd swyddogion sy'n delio ag ymholiadau yn cael hyfforddiant mewnol bob blwyddyn i sicrhau mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i ateb unrhyw gwestiynau. Hefyd, mae dealltwriaeth dda yn anhepgor er mwyn iddynt allu trafod goblygiadau opsiynau cyfrwng Cymraeg. Gall hyn hefyd fod yn bwynt pwysig lle gellir gofyn cwestiynau manwl. Felly, mae'n bwysig i'r tîm derbyn fod mewn cysylltiad â Rheolwr y Gymraeg mewn Addysg pan fo angen.
    • Wrth adolygu'r broses derbyn ar-lein i'r ysgol, byddwn yn ystyried taith y defnyddwyr. Mae angen i hyn fod yn weladwy iawn ac yn hawdd i'w defnyddio fel bod rhieni a gofalwyr yn gallu ystyried a deall addysg cyfrwng Cymraeg yn well o'r dechrau. Gyda'n gweledigaeth i symud pob ysgol ar hyd y Continwwm Iaith, bydd yr angen am wybodaeth gywir am ddarpariaeth ysgolion unigol yn cael ei hamlygu drwy'r tîm derbyn i ddechrau.
    • Byddwn yn hyrwyddo cyfres o gynnwys gwe Llywodraeth Cymru am addysg cyfrwng Cymraeg sy'n ceisio darparu canllawiau ar sut i greu naratif cadarnhaol o amgylch y Gymraeg.
    • Byddwn yn cynyddu'r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i sicrhau y gall rhieni a gofalwyr wneud penderfyniadau gwybodus ar ddewis ysgol ar gyfer eu plant.

     

    Mae Athrawon Datblygu'r Gymraeg wedi creu clipiau ffilm am Addysg Cyfrwng Cymraeg gyda disgyblion addysg cyfrwng Cymraeg sydd o gymysgedd o gefndiroedd ieithyddol, yn ogystal â rhieni. Mae'r clipiau hyn yn rhoi cipolwg ar deuluoedd go iawn sydd wedi cwestiynu addysg cyfrwng Cymraeg o'r cychwyn ond sy'n huawdl iawn wrth gyfleu sut yr oedd eu diffyg dealltwriaeth o ddwyieithrwydd yn llywio eu penderfyniad. Mae'r rhain yn glipiau pwerus a defnyddiol iawn gan eu bod yn cyfleu llawer o faterion sy'n codi gyda rhieni a gofalwyr gall fod â rhai amheuon am Addysg Cyfrwng Cymraeg. Bydd gwybodaeth am y clipiau ar wefan Llywodraeth Cymru yn cael ei rhannu ynghyd â'r defnydd o'r gyfres o gynnwys ar y we sydd hefyd yn rhoi arweiniad ar sut i greu naratif cadarnhaol ynghylch dwyieithrwydd.

    Bydd ymgyrchoedd marchnata'n cael eu cynnal megis cyfeirio at sianelau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i blant, sy'n cynnwys adnoddau i rieni a phlant fel caneuon, clipiau ffilm a gwybodaeth.

  • 2031-2032

    Ble rydym yn disgwyl bod ar ddiwedd ein Cynllun deng mlynedd?

    Er mwyn cynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael byddwn wedi:-

    • Datblygu mwy o ddarpariaeth gofal plant/cyn-ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg
    • Cefnogi ysgolion dwy ffrwd a throsiannol presennol i ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg
    • Buddsoddi mewn sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg/dwy ffrwd newydd gan ddefnyddio'r lle sydd ar gael.
    • Ystyried ystod oedran ysgolion penodol ac o bosibl creu lle ar gyfer darpariaeth blynyddoedd cynnar iawn cyfrwng Cymraeg
    • Parhau i fonitro'r galw mewn ardaloedd trefol
    • Ail-ddynodi pob ysgol yn fanteisiol iawn i wella'r niferoedd mewn darpariaethau cyn-ysgol a gofal plant.

    Ein nod yw bod yr holl ddarpariaeth cyn-ysgol a gofal plant yn cael ei chyflwyno'n ddwyieithog o fewn y cynllun 10 mlynedd.

  • Data Allweddol

    Data Allweddol

    Niferoedd a % y plant meithrin/tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

    2022-2023 2023 - 2024 2024-2025 2025-2026 2026-2027
    1358 / 58%  1381 / 59% 1404 / 60% 1451 / 62% 1478(+120) /  63%
             
    2027-2028 2028-2029 2029-2030 2030-2031 2031-2032
    1545 / 66% 1615 / 69% 1662 / 71% 1709 / 73% 1756(+398) / 75% 

Deilliant 2 - Mwy o blant dosbarth derbyn/pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Ble rydym ni nawr?

O ran darpariaeth ar gyfer plant derbyn/5 oed rydyn ni mewn sefyllfa gadarn a’n bwriad yw adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi ei gyflawni ar draws y sir. Canran a nifer y plant dosbarth derbyn/plant pum mlwydd oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg (2021)- 62.5%. Sir Gâr yw’r awdurdod lleol sydd a’r nifer uchaf o ddysgwyr Derbyn sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y Sefyllfa Bresennol

Math o Ysgol Nifer Dysgwyr
Meithrin/Cynradd 15,812
Uwchradd 11,498

 

Ysgolion Cynradd - natur ieithyddol

  1. Cyfrwng Cymraeg: Cymraeg yw iaith busnes dydd i ddydd yr ysgol. Defnyddir y Gymraeg fel iaith cyfathrebu â'r disgyblion ac ar gyfer gweinyddiaeth yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  2. Dwy ffrwd: Defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg yng ngwaith beunyddiol yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  3. Drawsnewidiol: Cymraeg yw iaith busnes dydd i ddydd yr ysgol. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu naws Gymreig. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  4. Saesneg gyda Chymraeg arwyddocaol: Cyd-destun ieithyddol yr ysgol sy'n pennu iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd. Defnyddir y ddwy iaith fel ieithoedd cyfathrebu â'r disgyblion, rhieni ac ar gyfer gweinyddiaeth yr ysgol.
  5. Cyfrwng Saesneg: Saesneg yw iaith busnes dydd i ddydd yr ysgol, ond defnyddir peth Cymraeg hefyd fel iaith cyfathrebu â’r disgyblion. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni naill ai yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.

 

Rydyn ni wedi sicrhau cynnydd yn y nifer o leoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael o ran darpariaeth addysg. Mae hynny wedi digwydd wrth i ni weithio gyda Llywodraethwyr a chymunedau ysgolion i’w symud ar hyd y continwwm ieithyddol gan newid categori iaith ysgolion drwy ymgynghoriadau cyhoeddus. Yn ystod cyfnod Cynllun 2017-2022 fe newidiwyd categorïau iaith 7 o ysgolion cynradd gan greu o gwmpas 210 o leoedd newydd cyfrwng Cymraeg ar gyfer y Derbyn.

Canran y disgyblion Derbyn Cymraeg iaith gyntaf, 2012 i 2021

Gweledigaeth Sir Gaerfyrddin yw symud pob ysgol ar hyd y continwwm iaith ac ymgorffori dull trochi yn y Cyfnod Sylfaen dros amser gan gynyddu cyfleoedd i bob dysgwr ar draws y sir o bob cefndir ieithyddol gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

Bydd newidiadau arfaethedig i ddynodiadau ysgolion yn ôl eu darpariaeth Gymraeg yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sir. Bydd gweithio o fewn amserlen o 7-10 mlynedd yn sicrhau nad yw’r un ysgol yn sefyll yn ei hunfan. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn amlygu'r angen enfawr am hyfforddiant iaith dwys i'r holl staff ar draws pob cyfnod allweddol yn ogystal â hyfforddiant sgiliau iaith pwnc yn y sector uwchradd yn arbennig.

Mae swyddogion wedi dechrau gweithredu hyfforddiant yn y sector Cynradd ac Uwchradd ac mae cynllun strategol ar waith o ran targedu ysgolion penodol wrth symud ar hyd y continwwm iaith- mae pump ohonynt wedi llwyddo i wneud hynny yn ystod 2019/2020.

Mae’r ddarpariaeth i hwyrddyfodiaid yn hollbwysig o ran cyrraedd y nodau hyn. Rydym wedi buddsoddi mewn Canolfan Iaith newydd a fydd yn darparu gwersi i hwyrddyfodiaid o'r sector Cynradd ac Uwchradd. Bydd hwn yn adeilad pwrpasol lle gall disgyblion o bob oed ddysgu Cymraeg mewn amgylchedd arloesol uwch-dechnoleg fodern.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r tîm Cymraeg i Oedolion ar hyfforddiant ac arweiniad ar ddysgu cyfrwng Cymraeg, addysgeg a defnydd iaith yn yr ystafell ddosbarth. Mae tiwtoriaid Athrawon Datblygu'r Gymraeg a'r tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion wedi cydweithio i greu continwwm dysgu ar gyfer staff addysgu yn seiliedig ar iaith berthnasol yn yr ystafell ddosbarth.

Gyda daearyddiaeth mor eang o fewn y sir, bydd Microsoft Teams/Zoom a Google Classrooms hefyd yn cael eu defnyddio er mwyn cyrraedd pob disgybl. Bydd hyn yn barhad o'r gwaith a gynlluniwyd ac a wnaed yn ystod Covid-19 yn 2020/2021.

 

  • 2026-2027

    Ble rydym yn ceisio bod o fewn 5 mlynedd cyntaf y Cynllun hwn a sut rydym yn bwriadu cyrraedd yno?

    Yn ystod oes y Cynllun hwn, er mwyn diwallu dyhead Sir Gaerfyrddin a tharged Llywodraeth Cymru, byddwn yn newid natur ieithyddol nifer o ysgolion. Ein dyhead yw cyrraedd y targed o gynnydd o 14+% yn y nifer o ddysgwyr Blwyddyn 1 sy’n dilyn llwybr addysg cyfrwng Cymraeg. O safbwynt penderfynu pa ysgolion fydd yn ffurfiol newid eu darpariaeth a’u natur ieithyddol, byddwn yn ystyried ffactorau megis parodrwydd rhieni a’r gymuned i gefnogi’r newid, sicrhau fod gennym weithlu digonol gyda’r sgiliau angenrheidiol, bod corff llywodraethu’r ysgol yn gefnogol a bo’r pennaeth a’r arweinyddiaeth hŷn yn bleidiol ac yn barod i gynorthwyo i yrru’r esblygiad dan sylw yn ei flaen.

    Er mwyn gwneud hynny bydd angen-

    • Cynorthwyo ein hysgolion Trosiannol i symud i fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
    • Cynorthwyo rhai o’n hysgolion dwy ffrwd i symud i fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
    • Cynorthwyo rhai o’n hysgolion Cyfrwng Saesneg i fod yn ysgolion dwy ffrwd neu ddwy iaith.
    • Cynorthwyo ein hysgolion uwchradd/arbennig i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gan ystyried dynodiad ieithyddol.

     

    Sefyllfa Bresennol ysgolion cynradd

      Cyfrwng Cymraeg Dwy Ffrwd Trawsneidiol Saesneg gyda defnydd sylweddol o Gymraeg Cyfrwng Saesneg
    Math o ysgol 56 9 2 3 24
    Nifer o leoedd 7409 2685 295 683 4653

     

    Targed erbyn diwedd y Cynllun

    Newid Categori a darpariaeth ieithyddol 10 ysgol gynradd (drwy ymgynghoriad cyhoeddus) er mwyn sicrhau cynnydd o 300+ o ddysgwyr Blwyddyn 1 mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

    Blwyddyn 2022 -2027 2028-2032
    Targed 4 6

     

    Er mwyn cefnogi’r ysgolion i gynyddu nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael byddwn yn:

    • Datblygu mwy o ddarpariaeth gofal plant/cyn-ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • Cefnogi ein hysgolion dwy ffrwd a throsiannol presennol i ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y tymor byr.
    • Bydd Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Moderneiddio Ysgolion) y Cyngor Sir yn anelu at sicrhau cynnydd mewn lleoedd cyfrwng Cymraeg.
    • Cefnogi ysgolion cyfrwng Saesneg i ddatblygu darpariaeth y Cyfnod Sylfaen Cymraeg.
    • Ymestyn ystod oedran ysgolion penodol a chreu lle ar gyfer darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.
    • Monitro'r galw yn ein hardaloedd trefol yn barhaus ac yn hyrwyddo ac yn ehangu'r ddarpariaeth yn ôl y gofyn.
    • Byddwn yn rhoi cymorth ac arweiniad i ysgolion drwy ein tîm Athrawon Datblygu'r Gymraeg ar sut i ymateb i ymholiadau gan rieni.
    • Byddwn yn rhannu deunyddiau gyda rhieni/gofalwyr/gwarcheidwaid mewn perthynas â gwerth dwyieithrwydd er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth a gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ar bob cam trosiannol.
    • Byddwn yn cynyddu'r pontio rhwng y grwpiau meithrin a'r Cyfnod Sylfaen cyfrwng Cymraeg.
    • Byddwn yn sicrhau bod rhieni, drwy ein llyfryn ‘Gwybodaeth i Rieni’ yn gwybod pa ysgolion sy'n cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2-5. Bydd y wybodaeth am natur ieithyddol pob ysgol, yn unol â dynodiadau ysgol newydd Llywodraeth Cymru Rhagfyr 2020, hefyd ar gael ar wefan y Cyngor Sir.
    • Byddwn yn cyflwyno ceisiadau am arian grant gan Weinidogion Cymru o ran cyrraedd a disodli ein targedau penodol i gynyddu nifer y plant Blwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y cynllun yn bennaf ar gyfer hyfforddiant Iaith.

    Yn ogystal a newid ffurfiol mewn darpariaeth a chategori, y disgwyl yw y bydd pob ysgol yn symud a datblygu o fewn i’w chategori yn unol â nodau yn eu Cynlluniau Datblygu Ysgol.

    Datblygu ein Canolfannau Iaith

    Nod prosiect datblygu Canolfannau Iaith Sir Gâr yw adeiladu ar brofiad blaenorol ac adborth cadarnhaol a gafwyd hyd yma yn y maes hwn o ddarparu gwasanaethau ac i gyd fynd â'r ddarpariaeth yn ardal San Clêr a Llandeilo bydd angen sicrhau ymarferoldeb y canolfannau iaith i alluogi addysg drochi i ddysgwyr ar draws y sir gyfan. Bydd gan y ganolfan iaith sawl diben gan gynnwys bod yn gymorth allweddol wrth ddatblygu addysgeg ar gyfer cyflwyno'r Gymraeg fel un continwwm.

    Mae gan y prosiect 5 prif amcan:

    1. Sicrhau bod pob disgybl sy'n hwyrddyfodiaid i Sir Gaerfyrddin yn dod yn ddwyieithog drwy ddarparu addysg drochi ar lefel gynradd ac uwchradd
    2. Cynnig gloywi iaith i hwyrddyfodiaid a dysgwyr brodorol ar adegau pontio hanfodol megis diwedd y Cyfnod Sylfaen ac ar ryngwyneb Cyfnod Allweddol 2/3, a bod cyllid ar gael ar gyfer cludiant iddynt.
    3. Cyflwyno rhaglenni ‘dal i fyny’ ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 6/7 lle mae angen gwella sgiliau iaith er mwyn sicrhau pontio hwylus i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.
    4. Darparu datblygiad proffesiynol i wella sgiliau athrawon a chefnogi staff yr ysgol i'w galluogi i addysgu'n ddwyieithog yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi. Hefyd, gwella sgiliau Cymraeg staff, yn enwedig y rhai ar daith continwwm iaith. Bydd hyn yn adeiladu ar brosiect peilot arloesol ardal Llanelli lle mae staff o ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg wedi cymryd rhan mewn dull deublyg o ymdrin â chymorth iaith Gymraeg.
    5. Sicrhau profiadau cadarnhaol o ddysgu iaith i rieni a gwarcheidwaid i'w galluogi i gefnogi eu plant i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol ac i helpu i atgyfnerthu eu dysgu gartref.
  • 2031-2032

    Ble rydym yn disgwyl bod ar ddiwedd ein Cynllun deng mlynedd?

    Bydd y strategaethau uchod yn ein galluogi i fod mewn sefyllfa lle bydd newid parhaus mewn meddylfryd ar draws y sir yn cael ei annog. Mae hyfforddiant yn hollbwysig a byddwn yn ymdrechu i weithio gyda phob asiantaeth allanol ac yn bennaf gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid hirdymor.

    Byddwn yn sicrhau bod gan rieni a gofalwyr ddealltwriaeth dda o addysg cyfrwng Cymraeg drwy gysylltiadau cyfathrebu da a rhannu gwybodaeth yn barhaus drwy wefannau ysgolion a chyfryngau cymdeithasol.

    Ein nod yw integreiddio rhieni a gofalwyr i fywyd bob dydd yn yr ysgol drwy gynnig Cyrsiau dysgu iaith ochr yn ochr sy'n seiliedig ar ein gwasanaethau Cymraeg i'r Teulu lle mae rhieni a gofalwyr yn dysgu caneuon, rhigymau a geirfa a brawddegau ystafell ddosbarth o ddydd i ddydd yn ogystal â chwrs Cymraeg yn y Cartref. Y nod yma yw bod rhieni/gofalwyr yn cychwyn sgyrsiau syml yn y cartref yn ogystal â gallu canu gyda'u plant. Anogir rhieni hefyd i gynnal eu dysgu drwy ymuno â chyrsiau prif ffrwd Cymraeg i Oedolion.

    Bydd hyn, ar y cyd â'r polisi dynodi ysgolion newydd, yn ein galluogi i gyflymu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Bydd egwyddorion trochi o fewn holl leoliadau'r Cyfnod Sylfaen yn gwneud y daith iaith yn llawer mwy ymarferol.

    Rydym eisoes yn gweithio gydag ysgolion ac yn mynd drwy'r broses ymgynghori er mwyn dechrau taith trochi iaith ym mhob ysgol waeth beth fo’u chategori neu ei dynodiad.

  • Data Allweddol

    Data Allweddol

    Niferoedd a % y plant 5 oed sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

     

    2022-2023 2023-2024 2024-2025 2025-2026 2026-2027
    1169 / 62.5% 1229(+60) / 65.7% 1244 / 66.5% 163 / 67.5% 1269(+60) / 68.9%
             
    2027-2028 2028-2029 2029-2030 2030-2031 2031-2032
    1327 / 71% 1356 / 72.5% 1379(+60) / 73.7% 1430 / 76.5% 1469(+60) / 78.5%

Deilliant 3 - Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall

Ble rydym ni nawr?

Gweledigaeth Awdurdod Addysg Sir Gaerfyrddin yw bod pob disgybl yn parhau i wella ei sgiliau iaith wrth drosglwyddo o un cyfnod o'i addysg statudol i un arall.

Yn 2019/20 fe wnaeth 93.1% o’n dysgwyr drosglwyddo o Gylchoedd Meithrin i ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Blwyddyn ysgol Nifer lleoliadau Nifer o Gylchoedd Meithrin Nifer wedi myychu'r Cylchoedd  Meithrin  Nifer wedi trawsglwyddo o'r   cylch i ysgol

 Ysgol Gymraeg

%
2015-2016 50 57 1634  722  630 87.3%
2016-2017 54 64 1715  789  704 89.2%
2017-2018 49 61 1651  766  709 92.6%
2018-2019 51 50 1606  700  661 94.4%
2019-2020 50 57 1307  677  630 93.1%

 

*Blwyddyn gyntaf COVID - cylchoedd meithrin ar gau am dros dymor ysgol gyfan (Mawrth 2020 tan Fedi 2020) yn ystod y cyfnod clo cyntaf, collwyd data unrhyw blant byddai wedi cychwyn yn y cylchoedd unrhyw bryd yn ystod y cyfnod.

 

Mae ffigyrau trosglwyddo o un cyfnod allweddol i’r cam nesaf yn ystod blynyddoedd blaenorol fel a ganlyn:

Trosglwyddo Cyfnod Allweddol 2016-2017 (Nifer a %) 2017 -2018 (Nifer a %) 2018-2019 (Nifer a %)
Cyfnod Sylfaen i CA2 1022 (93.1%) 1103 (94.2%) 1133 (95.2%)
CA2 i CA3 798 (92.9%) 825 (85.9%) 827 (87.5%)
CA3 i CA4 805 (98.6%) 725 (91.2%) 747 (96.3%)

 

O ran y disgyblion sy'n trosglwyddo o CA2 (PLASC 2019) i CA3 (PLASC 2020) fe wnaeth 931 o’r garfan neu 81.5% drosglwyddo i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg. Dengys y ffigyrau bod angen sylw penodol ar y niferoedd sy’n trosglwyddo i addysg Gymraeg rhwng y cynradd a’r uwchradd. Dengys hyn a’r tabl felly fod angen canolbwyntio’n benodol ar drosglwyddo cynradd i’r uwchradd.

Ein disgwyliad yw y bydd dysgwyr sydd wedi dilyn y rhaglen Cymraeg iaith gyntaf yn yr ysgol gynradd yn parhau â'r rhaglen hon wrth drosglwyddo i'r cyfnod uwchradd. Mae angen atgyfnerthu’r neges yma gyda disgyblion a rhieni, a thrwy gynyddu nifer yr ysgolion sy’n cynnig ffrydiau Cymraeg ac ystod o bynciau Cymraeg yng Nghyfnod Allweddol 3.

Ein disgwyliad yw y bydd pob disgybl sydd wedi mynychu ysgol gynradd ac yn trosglwyddo i ysgolion uwchradd a ddiffinnir fel rhai dwyieithog, yn astudio o leiaf 3 (i ddechrau) maes cwricwlaidd drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghyfnod Allweddol 3 er mwyn ymgorffori a datblygu eu cymhwysedd ieithyddol ymhellach.

 

  • 2026-2027

    Ble rydym yn ceisio bod o fewn 5 mlynedd cyntaf y Cynllun hwn a sut rydym yn bwriadu cyrraedd yno?

    Byddwn yn gweithio gyda'n hysgolion i'w gosod mewn dynodiad ieithyddol sy'n briodol o heriol, fel y'u harweinir gan y trefniadau cenedlaethol newydd. Bydd hyn yn weithredol o 2022. O 2026, bydd pontio rhwng cyfnodau allweddol a ddiffinnir ar hyn o bryd yn dechrau cael effaith llawnach h.y.:

    • Trosglwyddo rhwng Cylchoedd Meithrin a’r ysgolion cynradd; mae’r trosglwyddiad hwn yn hanfodol i sicrhau bod dilyniant o’r un i’r llall yn 100%.
    • Cynradd: Cyn-ysgol i'r Cyfnod Sylfaen; Cyfnod Sylfaen i CA2
    • Uwchradd: CA3 i CA4; CA4 i CA5 (ysgolion 11-16; ysgolion 11-18 a'r sector AB)

     

    Bydd materion pontio yn cael eu harwain gan gyfuniad o:

    • canllaw CSGA lleol fel y disgrifir yn neilliant 3
    • lleoliad priodol sy'n gyson â doniau a gallu'r dysgwr, sef:
      • Yn ddigon heriol at ddibenion dilyniant ieithyddol
      • Wedi'i gymhwyso ar sail dim niwed ieithyddol.

     

    Gan weithio gyda'r dynodiadau ieithyddol newydd, bydd rhieni'n cael gwybod am fframwaith pontio eang. Caiff hyn ei gyflyru drwy drosglwyddo disgyblion yn addas rhwng ysgolion yn y fframwaith pontio newydd, fel y cyflawnir pontio ieithyddol statudol.

    Bydd y broses bontio yn cael ei chefnogi gan:

    • Trochi cynnar (Cyfnod Sylfaen)
    • Trochi diweddarach (CA2), yn ôl yr hyn a ystyrir yn angenrheidiol
    • Gloywi (Blwyddyn 7), fel y bernir bod angen
    • Hwyrddyfodiaid– cymorth trochi wrth ddod i Sir Gaerfyrddin, fel y darperir gan ein
      canolfannau iaith

     

    I gyflawni ein gweledigaeth sef bod pob disgybl yn parhau i wella ei sgiliau iaith wrth drosglwyddo o un cyfnod o'i addysg statudol i un arall byddwn yn parhau i:

    • Hyrwyddo manteision dwyieithrwydd- cyfathrebu’n glir i’r holl rhanddeiliaid y disgwyliad y bydd dysgwyr sydd wedi dilyn y rhaglen Cymraeg iaith gyntaf yn yr ysgol gynradd yn parhau â'r rhaglen hon wrth drosglwyddo i'r cyfnod uwchradd. Byddwn yn rhannu hyn gyda rhieni fel rhan o drefniadau’r cyngor fel rhan annatod o’r broses derbyn disgyblion i ysgolion.
    • Sicrhau dilyniant ieithyddol o sector y blynyddoedd cynnar i CA2 ac i'r sector uwchradd.
    • Cynyddu'r ddarpariaeth pwnc o addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector
      uwchradd yn unol â dynodiadau'r ysgol newydd.
    • Glynu wrth y protocol dilyniant clir i gynyddu nifer y disgyblion sy'n parhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob cyfnod allweddol a sicrhau bod hyn yn cael ei gyfleu'n glir i'r holl rhanddeiliaid.
    • Cryfhau’r ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd penodol yn y sir (gweler deilliant 4).
    • Byddwn yn sicrhau bod pob disgybl yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu'r iaith yn rhugl erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 i'w lefelau disgwyliedig.
    • Bydd hefyd yn hyrwyddo ein disgwyliad y bydd pob disgybl sydd wedi mynychu ysgol gynradd ac yn trosglwyddo i ysgolion uwchradd a ddiffinnir fel rhai dwyieithog, yn astudio o leiaf 3 (i ddechrau) maes cwricwlaidd drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghyfnod Allweddol 3 er mwyn ymgorffori a datblygu eu cymhwysedd ieithyddol ymhellach. Cyflawnir hyn drwy dargedu hyfforddiant a chymorth i staff sy'n addysgu CA3 yn yr ysgolion dan sylw.
    • Bydd angen i ysgolion weithio mewn partneriaeth i hyrwyddo dilyniant ieithyddol drwy brosiectau pontio a chyfathrebu da rhwng y sector cynradd ac uwchradd. Ni fydd hyn yn cael ei adael tan flynyddoedd 6 a 7 ond bydd yn digwydd ymhellach i lawr yr ysgol gynradd er mwyn sicrhau dealltwriaeth dda o addysg cyfrwng Cymraeg o'r dechrau. Yna gellir mynd i'r afael ag amheuon cyn y camau pontio.
    • Byddwn yn edrych ar y dulliau o fonitro dilyniant ieithyddol ac yn sicrhau bod gan yr holl rhanddeiliaid ddealltwriaeth dda o'n protocol. Lle ceir dewis ieithyddol, byddwn yn parhau i gynnal ein gweledigaeth drwy sicrhau gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd cynnal addysg ddwyieithog drwyddi draw.
    • Byddwn yn parhau i wrando ar sylwadau rhieni ac ymateb iddynt megis 'Ni allwn helpu gyda gwaith cartref’, yn enwedig yn CA3 a CA4 drwy greu canllawiau, neu bamffled yn yr achos hwn, sy'n rhoi atebion clir. Mae clipiau ffilm o rieni sy'n disgrifio taith eu plant drwy addysg cyfrwng Cymraeg yn werthfawr iawn a byddwn yn creu mwy o glipiau ffilm i helpu rhieni i gael gwell dealltwriaeth o addysg ddwyieithog. Bydd y rhain nid yn unig yn cwmpasu rhinweddau dwyieithrwydd, ond hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag unrhyw amheuon a chamsyniadau sy'n codi wrth fynd i'r afael ag anawsterau y gallai disgyblion ddod ar eu traws mewn rhai meysydd pwnc. Mae'n bwysig sicrhau nad yw addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn dod yn rhagosodiad awtomatig a bod y darlun cefndir cyfan bob amser yn cael ei ystyried.
    • O ran dilyniant rhwng meithrin a'r Cyfnod Sylfaen, nid yw'r newid yn gymaint o bryder gan y byddwn yn gosod targedau heriol ar gyfer pob ysgol yn lefelau addysg cyfrwng Cymraeg/dwyieithog a addysgir ym mhob ysgol. Gyda newid meddylfryd cenedlaethol, bydd hyn o fudd i ni symud ymlaen.
    • Byddwn yn sicrhau y gall ysgolion cynradd ac uwchradd weithio'n agosach o lawer mewn partneriaeth er mwyn hyrwyddo dilyniant ieithyddol i rieni a gofalwyr. Unwaith eto, mae'r gwaith amlochrog a wneir ar hyrwyddo ymwybyddiaeth ddwyieithog yn lleol ac yn genedlaethol, yn dod i rym yma.

     

    Mae cynlluniau’r presennol a’r dyfodol o dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg yn adlewyrchu'n llawn y targedau a nodir yn y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

  • 2031-2032

    Ble rydym yn disgwyl bod ar ddiwedd ein Cynllun deng mlynedd?

    Bydd Sir Gaerfyrddin yn gobeithio rhagori ar darged 2031/32 ar gyfer disgyblion Blwyddyn 1 o 10%, gan gyrraedd pen uchaf yr ystod cynnydd o 14+ pwynt canran yn y cynllun 10 mlynedd.

    Cyflawnir hyn drwy effaith symud pob ysgol ar hyd y continwwm iaith.

  • Data Allweddol

    Data Allweddol

    Niferoedd a % y dysgwyr sy’n parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o’u haddysg statudol i un arall

      2022-2023 2023-2024 2024-2025 2025-2026 2026-2027
    Meithrin-CS 661/94.4%       650/965
    CS-CA2 1133/95.2%       1154/97%
    CA2-CA3 931/81.5%       1005/88%
    CA3-CA4 747/96.3%       752/97%
    Cyfanswm 3441       3561 (+120)
               
      2027-2028 2028-2029 2029-2030 2030-2031 2031-2032
    Meithrin-CS         670/99%
    CS-CA2         1178/99%
    CA2-CA3         1085/95%
    CA3-CA4         768/99%
    Cyfanswm         3701 (+260)

     


Deilliant 4 - Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg

Ble rydym ni nawr? 

Canran y dysgwyr sy’n astudio yn y Gymraeg fel iaith gyntaf- Blwyddyn 7-13

  2017  2018 2019 2020 2021
Blwyddyn 7 42% 41% 43% 44% 45%
Blwyddyn 8 45% 43% 43% 43% 44%
Blwyddyn 9 41% 43% 43% 42% 42%
Blwyddyn 10 42% 40% 42% 42% 42%
Blwyddyn 11 43% 44% 41% 43% 43%
Blwyddyn 12 60% 64% 63% 64% 67%
Blwyddyn 13 58% 61% 64% 67% 64%

 

Nifer a chanran y dysgwyr Blwyddyn 11 sydd wedi cael eu cofrestru ar gyfer TGAU yn y Gymraeg (iaith gyntaf neu ail iaith) a'r rhai sydd heb gofrestru ar gyfer y naill a’r llall.

  2012-2013 2013-2014 2014-2015 2015-2016 2016-2017 2017-2018 2018-2019 2019-2020
Cymraeg - Iaith Gyntaf 717 / 33%  687 / 34% 673 / 34% 709 / 37% 765 / 40% 752 /41% 726 / 39% 744 / 40%
Cymreag - Ail Iaith 1,215 / 56% 1,130 /56% 1088 / 55% 1002 / 52% 963 / 51% 932 / 51% 1002 / 53% 957 / 52%
Heb gofrestru 242 / 11% 194 /10% 211 / 11% 217 / 11% 161 / 9% 143 / 8% 154 / 8% 142 / 8%

 

Nifer a chanran y cofrestriadau Cymraeg Safon Uwch/Uwch Gyfrannol iaith gyntaf ac ail iaith

Cofrestradau 2012-2013 2013-2014 2014-2015 2015-2016 2016-2017 2017-2018 2018-2019 2019-2020
Nifer 89 59 61 53 47 51 44 55
Canran 5.5% 3.6% 3.9% 3.6% 3.2% 3.4% 3.0% 4.0%

 

TGAU 2019 2020 2021
Cymraeg - Iaith Gyntaf 724 654 897
Cymreag - Ail Iaith 1013 954 992

 

Safon Uwch/ Lefel A 2019 2020 2021
Cymraeg - Iaith Gyntaf 19 16 22
Cymreag - Ail Iaith 7 8 6

 

Canran disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 3, 4 a 5 yn astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg:

2017/2018

Categori Ysgol CA3 CA4 CA5
Ysgol (1) 100% 100% 100%
Ysgol (2A) 100% 100% 100%
Ysgol (2A) 100% 100% 100%
Ysgol (2B) 50.5% 59.9%  61.8%
Ysgol (2B) 60%  60.8% 62.2%

 

2018/2019

Categori Ysgol CA3  CA4 CA5
Ysgol (1) 100% 100% 100%
Ysgol (2A) 100% 100% 100%
Ysgol (2A) 100% 100% 100%
Ysgol (2B) 50.4% 46.9% I’w gadarnhau
Ysgol (2B) 62.4% 61.8% I’w gadarnhau

 

O safbwynt pynciau a ddysgir trwy’r Gymraeg ar draws ystod lawn ysgolion Sir Gâr, mae’r tabl isod yn amlygu faint o bynciau a ddysgir trwy’r Gymraeg yng nghyfnodau Allweddol 3, 4 a 5 (2021-22):

Categori Ysgol Nifer Pynciau CA3 Nifer Pynciau CA4 Nifer pynciau CA5
  Cyfartaledd Amrediad Cyfartaledd Amrediad Cyfartaledd Amrediad
1 (1 ysgol)    Cwricwlwm cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg, ag eithrio Saesneg fel pwnc a defnydd cynyddol o’r iaith darged mewn ieithoedd modern
2A (2 ysgol) Cwricwlwm cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg, ag eithrio Saesneg fel pwnc a defnydd cynyddol o’r iaith darged mewn ieithoedd modern, gyda dosbarthiadau Saesneg cyfochrog mewn Mathemateg a/neu Gwyddoniaeth ym mlynyddoedd 9-11
2B (2 ysgol) 14/15 1 14 17-10 3/4 5-1
EW (3 ysgol) 10 11-5 0 0 0 0
EM (4 ysgol) 4 7-0 0 0 0 0

KEY

1 Cyfrwng Cymraeg
2A Dwyieithog
2B Dwyieithog
EW Ysgol Saesneg gyda defnydd sylweddol o’ Gymraeg
EM Ysgol cyfrwng Saesneg

 

Mae potensial gan bob ysgol 2B, EW ac EM i ddatblygu darpariaeth – yn enwedig yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 (lle bo hynny’n berthnasol). Bydd cefnogaeth i gynyddu darpariaeth yr ysgolion yma. Byddwn yn nodi categori ysgol cyfredol a chategori newydd i anelu ati dros ddegawd y strategaeth ar gyfer pob ysgol. Bydd cyflymder ac ystod y datblygiad pynciol yn ddarostyngedig i amodau lleol, nid lleiaf hyfedredd staff a thwf yn y galw am addysg Gymraeg yn nalgylchoedd yr ysgolion. Er hynny, mae modd cynnig brasamcanion fel a ganlyn o ran nifer y pynciau y gobeithir eu datblygu:

 

Model Mewnbwn (cynyddu nifer y pynciau) - trosodd

  Cynnydd Nifer y Pynciau (5 mlynedd) Cynnydd Nifer y Pynciau (10 mlynedd)
School  CA3 CA4  CA5  CA3  CA4  CA5 
2B  

 

14>20

N=6

 

4/5>8/9

N=5

 

 

20>25

N=5

 

7/8>12/13

N=5

EW

 

6>14

N=8

 

0>5

N=5

   

 

5>10

N=5

 

0>3

N=3

EM

 

 

0>4

N=4

6/7>10

N=3

 

0>3

N=3

 

 

 

6>10

N=4

10>14

 

 

0>3

N=3

3>8

N=5

 

 

Model Allbwn - Sicrhau cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n ennill cymwysterau cydnabyddedig:

Mae’n fwriad gennym i anelu at gynyddu nifer y dysgwyr sy’n dilyn rhan o’u cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion EM ac EW. Wrth adeiladu ar drafodaethau blaenorol, gall hyn ddigwydd drwy sefydlu o leiaf un ffrwd CA3 yn ein hysgolion EM erbyn 2027 (Cynnydd net o 210 disgybl fel gwaelodlin). Byddai rhai ysgolion EM mewn sefyllfa erbyn 2032 i ddechrau datblygu rhai llwybrau cyfrwng Cymraeg yn CA4.
Yn ein hysgolion EW, gallwn ystyried anelu at un neu ddau ddosbarth cyfrwng Cymraeg cyfwerth yn CA3 (Cynnydd net o 273 disgybl), gyda llwybrau i CA4 ar gyfer y disgyblion hynny erbyn 2032.

Y nod mewn ysgolion 2B fyddai sicrhau fod o leiaf 40% o ddisgyblion yr ysgolion yn ymgymryd ag o leiaf 70% o’u gweithgareddau trwy gyfrwng yn Gymraeg yn CA3 erbyn 2027, gan godi’r ganran i o leiaf 60% o’r disgyblion erbyn 2032. Bydd tyfiant naturiol yn CA3 yn cael traweffaith gadarnhaol ar y niferoedd fydd yn astudio pynciau trwy’r Gymraeg yn CA4 yn ystod oes y strategaeth yn yr ysgolion yma.

Mae ein Partneriaeth Addysg Gymraeg (PAG) wedi esblygu fel partneriaeth rymus, yn bennaf rhwng ein hysgolion categori 1 a 2A ôl-16. Mae'r bartneriaeth yn cynnig dwsin o gyrsiau ym mlwyddyn 12 a dwsin ym mlwyddyn 13 (2022/23) drwy fodel cydweithredu arloesol, sy'n seiliedig ar ddarparu dysgu cyfunol, sydd wedi profi’n fodel llwyddiannus dros ben.

Mae ystod y pynciau yn cynnwys:

Maes Cwricwlaidd Nifer Pynciau

Galwedigaethol (Busnes, Gofal Plant, Twristiaeth)

3

Gwyddor Cymdeithasol (Gwasanaethau Cyhoeddus, Gwleidyddiaeth, Troseddeg, Seicoleg)

4
Iaith Fodern (Ffrangeg, Sbaeneg) 2
Gwyddoniaeth/Technoleg (Amaethyddiaeth, Electroneg, Gwyddor Bwyd a Maeth, Peirianneg) 5

*Bu trafodaethau hefyd o ran Mathemateg Ychwanegol Uwch Gyfrannol a Chwaraeon BTEC

 

Maint cyfartalog dosbarth yw 14, gydag amrediad rhwng 1 a 39. Mae cyfuno dosbarthiadau ar draws dwy neu dair ysgol yn sicrhau fod mas critigol o fyfyrwyr ar gael er cynnal y pynciau. Heb y cydweithredu, buasai 9 pwnc gyda 5 neu lai o fyfyrwyr ym mlwyddyn 12 ac 11 pwnc gyda llai na 5 myfyriwr yn mlwyddyn 13 mewn perygl o beidio rhedeg ar draws y 3 ysgol:

Cynigia hyn gryn dipyn o lwybrau dysgu fuasai’n anghynaladwy heb y bartneriaeth. Y nod felly yw ceisio cynnig cymaint o ddewis â phosibl i fyfyrwyr, ond gwneud hyn mewn modd ariannol hyfyw a chynaliadwy.

O ran cyfanswm y myfyrwyr sy’n ymelwa o’r bartneriaeth, mae’r tabl isod yn dangos sefyllfa iach:

 Ysgol  Cyfanswm Myfyrwyr Blwyddyn 12  Blwyddyn 13 
 Ysgol 1 152 79  73 
 Ysgol 2A 135  81  54 
 Ysgol 2A 51  35  16 
 CYFANSWM 338  195  143 

 

O safbwynt gweinyddu’r bartneriaeth mae un neu fwy o ysgolion yn arwain ar bwnc arbennig, gan gynnig eu staff yn ôl y galw. Cynigia rhwydwaith 14-19 y Sir gyllid i gefnogi’r bartneriaeth, a daw llif arian drwy arian y pen Llywodraeth Cymru, dyrchafiad ar gyfer yr iaith Gymraeg a dyraniadau penodol o ymron £92,000 a ddyfernir yn lleol wrth frigdorri’r grant ôl-16, er ysgogi cydweithio ar draws darparwyr.

Mae Sir Gaerfyrddin yn gweithio ochr yn ochr â Cheredigion a Phowys wrth gynnig prosiect E-sgol. Mae E-sgol yn defnyddio technoleg mewn ffordd arloesol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fyfyrwyr mewn ardaloedd gwledig drwy gynyddu'r pynciau sydd ar gael iddynt ac ehangu eu hopsiynau gyrfa ar ôl ysgol. Mae yna 1 pwnc (Troseddeg) yn rhedeg ar hyn o bryd a dyfernir fod y rhif isel yn ganlyniad i’r ffaith fod PAG mor llwyddiannus, gyda rhywfaint o heriau wedyn o safbwynt harmoneiddio amserlenni ysgolion eraill y tu fas i’r PAG. Yn ddibynnol ar sut fydd E-sgol yn datblygu, erys potensial i ymestyn yr arlwy i’r ystod oedran 14-16. Petai hyn yn bosibl, mae’n cynnig cyfleoedd i ymestyn llwybrau dysgu cyfrwng Cymraeg ar draws rhagor o ysgolion uwchradd y Sir. Gallwn frasamcan y byddai 3-5 pwnc E-sgol ychwanegol yn rhedeg yn ein hysgolion erbyn 2027 a 8-10 erbyn 2032.

  • 2026-2027

    Ble rydym yn ceisio bod o fewn 5 mlynedd cyntaf y Cynllun hwn a sut rydym yn bwriadu cyrraedd yno?

    Er mwyn cyflawni’r datblygiadau uchod, byddwn yn symud pob ysgol ar hyd y continwwm iaith drwy:

    • Weithio gyda’r ysgolion i ddatblygu'r cwricwlwm i roi cyfleoedd i fwy o ddysgwyr gael mynediad at addysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
    • Mabwysiadu dull strategol o ymdrin â'r pwnc a gynigir
    • Cynyddu nifer y dysgwyr sy'n dilyn opsiynau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac, yn y pen draw, mwy o gynnydd i ddilyn cymwysterau yn 16 oed

     

    Bydd hyn yn sicrhau y bydd mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau asesedig, ac yn eu cwblhau, ar oedran gadael ysgol statudol a thu hwnt, tra'n cael eu hasesu'n fewnol hefyd gan ysgolion ar adegau allweddol yn eu taith ddysgu (fel 5,7,11 a 14 oed).

    Gellir mynd ar drywydd y strategaeth i wireddu'r canlyniad hwn drwy'r fframwaith canlynol:

    • Datblygu'r Cwricwlwm: dull strategol o gynyddu cyfran y ddarpariaeth o ran pynciau a gynigir drwy gyfrwng y Gymraeg gan ein holl ysgolion.
    • Model Ysgol Uwchradd (gweler tabl uchod) : cynyddu nifer y pynciau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gan arwain at ganran gynyddol o'r cwricwlwm ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, tra hefyd yn cynyddu cyfran y dysgwyr sy'n dewis hyfforddiant pwnc cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog
    • Model Ysgol Gynradd: modelu cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr un modd.
    • Ehangu ein defnydd o E-sgol tua’r dyfodol, gan gynnwys sut y gallwn ddatblygu ein harlwy cwricwlaidd ôl 16 cyfrwng Cymraeg yn ein ysgolion 2B.
    • Ymestyn syniadaeth PAG, a’r egwyddorion gweithredu, i gynnwys ysgolion a darparwyr eraill, fyddai’n golygu cynnal nifer cyffelyb o bynciau ar draws ystod ein hysgolion. O wireddu hyn, rhagwelir twf arwyddocaol yn narpariaeth ôl-16 Cyfrwng Cymraeg y Sir.

     

    Dull Strategol o gynyddu'r Cynnig Pwnc cyfrwng Cymraeg

    Gellir cynyddu nifer y pynciau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg:

    • Mewn modd ymarferol, gellir cynyddu pynciau oherwydd cyfleoedd sy'n bodoli o fewn y garfan staffio bresennol, fel athro sydd eisoes yn gallu darparu cynnwys pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • Mewn dull cynlluniedig, drwy:
      • Mapio sut y gellir annog mwy o staff i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy eu cefnogi gyda datblygiad proffesiynol pwrpasol. (Noder: bydd pob aelod o staff yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu dwyieithrwydd, os oes angen, a'n dyletswydd ni o dan y polisi hwn yw cynnig y cymorth hwnnw)
      • Gwneud apwyntiadau staff sy'n helpu i symud yr ysgol ar hyd y continwwm iaith
      • Mewn modd strategol, wrth ystyried sut y gall gwahanol feysydd pwnc gefnogi ysgolion ar wahanol gamau o'u taith ieithyddol.

    Tua'r tymor canolig a thu hwnt, ein nod yw cynnig mewnbwn cadarnhaol wrth ddatblygu Cymraeg fel un continwwm, gan gynnwys opsiynau yn y tymor canolig i gofrestru disgyblion ar lefel TGAU yn yr ysgolion perthnasol. Yn ogystal, hoffem:

    • datblygu a hyrwyddo'r cyfraniad y gall myfyrwyr hŷn mewn ysgolion 11-18 ei wneud fel modelau rôl a mentoriaid
    • ymestyn hyfedredd y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid, yn enwedig mewn ysgolion er mwyn hyrwyddo defnydd anffurfiol o'r Gymraeg a datblygu deunydd hyrwyddo sy'n dangos y gwerth a osodir ar ddwyieithrwydd gan gyflogwyr.

     

    Yn ogystal byddwn yn-

    • Gweithio gyda chyflogwyr a’r sector addysg uwch i hyrwyddo dwyieithrwydd fel sgil allweddol ar gyfer addysg bellach a byd gwaith.
    • Hyrwyddo gwell sgiliau ar gyfer defnydd gydol oes o'r Gymraeg (ymchwilio i fodiwl Cymraeg Proffesiynol a'i ddatblygu ar gyfer myfyrwyr ôl-16 e.e. drwy Fagloriaeth Cymru)
    • Bwriadwn ddatblygu strategaeth i recriwtio mwy o bobl ifanc i astudio Safon Uwch/Safon Uwch Atodol Cymraeg, yn enwedig bechgyn. Mae angen mynd i'r afael yn llawn â newidiadau yn y papurau arholiad er mwyn helpu i newid. Mae hon yn her genedlaethol, gyda chwymp o 24% yn nifer y myfyrwyr iaith gyntaf Safon Uwch yng Nghymru rhwng 2008/9 a 2020/21, gyda chwymp o 60% mewn niferoedd Cymraeg Ail Iaith dros yr un cyfnod. O ganlyniad i hyn, bydd angen gweithio ochr yn ochr â CBAC ac athrawon pwnc oddi mewn a thu allan i’r Sir er mwyn dwyn y maen i’r wal. Bydd olrhain barn myfyrwyr a darpar fyfyrwyr yn bwysig iawn er mwyn deall y rhesymau dros y cwymp a sut i fynd ati i wyrdroi’r sefyllfa.
    • Rydym hefyd am gydweithio er mwyn datblygu cwrs uwch mewn Cymraeg Proffesiynol. Mae'r cwrs hwn i'w gynnig fel cwrs Safon Uwch/UG ynddo'i hun drwy elfennau modiwlaidd annibynnol y gall myfyrwyr anelu atynt, p'un a ydynt yn astudio Cymraeg i Safon Uwch ai peidio e.e. Cymraeg yn y gweithle a chyfieithu.
    • Datblygu Tystysgrif/achrediad ôl 16 Cymraeg i Wyddonwyr- bydd hyn yn golygu ymchwilio i bosibiliadau pellach o fewn Bagloriaeth Cymru drwy annog myfyrwyr nad ydynt ar lwybrau Cymreig academaidd i fireinio eu sgiliau e.e. tuag at hyfedredd o ran ein fframwaith sgiliau.
    • Byddwn yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i annog pobl ifanc i ystyried y Gymraeg ar Lefel Uwch drwy gyfeirio myfyrwyr at y sianel YouTube/Cymraeg yn ogystal â thrwy'r sianelau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg.
  • 2031-2032

    Ble rydym yn disgwyl bod ar ddiwedd ein Cynllun deng mlynedd?

    Erbyn diwedd y cynllun byddwn wedi cynyddu nifer y dysgwyr sy'n astudio ar gyfer cymwysterau asesedig yn y Gymraeg fel pwnc ac yn gallu cynnig pob pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.

    Byddwn hefyd yn ymdrechu i sicrhau dewis ieithyddol yn ein hysgolion Saesneg sydd yn cefnogi cynnydd dwyieithrwydd disgyblion (gweler tabl uchod).

  • Data Allweddol

    Data Allweddol

    Mae’r tabl yn cynnwys cynnydd yn y niferoedd a’r % sydd/fydd yn astudio pynciau trwy’r Gymraeg ym mlwyddyn 11. Rhaid cofio bod deilliant 4 yn ymwneud hefyd â disgyblion ym mlynyddoedd 10,12,13. Felly, bydd niferoedd gwirioneddol yn uwch.

    Niferoedd a % y dysgwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg

    2022-2023 2023-2024 2024-2025 2025-2026 2026-2027
    1350 (Blwyddyn 11 only)  / 72%       1465 (Blwyddyn 11 (+115))  /  78%
             
    2027-2028 2028-2029 2029-2030 2030-2031 2031-2032
            1581 (B;wyddyn 11 (+231))  / 84%

Deilliant 5 - Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol

Ble rydym ni nawr?

Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i ddysgwyr Sir Gaerfyrddin. Mae ein gweledigaeth fel a ganlyn:- 'Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i gyflawni ei botensial mewn amgylchedd dwyieithog sy'n parchu ac yn gwerthfawrogi pob diwylliant a thraddodiad.’

Mae datblygu defnydd anffurfiol o’r Gymraeg yn flaenoriaeth i’r Cyngor Sir fel y nodir yn ‘Strategaeth Hybu’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin’ gyda’r bwriad o ‘Anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir.’ Mae’n dra amlwg fod gan addysg ran greiddiol i’w chwarae wrth hybu’r nod y Strategaeth Hybu ac mae Rheolwr Iaith Gymraeg yr Adran Addysg a Phlant yn ddolen bwysig gyda’r Fforwm Iaith Sirol wrth sicrhau fod gweithredu’r CSGA yn alino gyda’r Strategaeth Hybu ac yn ei chefnogi.

Mae nod penodol yn y strategaeth 5 mlynedd sef ‘Cynyddu hyder siaradwyr Cymraeg ac felly defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, ac annog a chefnogi sefydliadau’r sir i wneud y Gymraeg yn gynyddol yn gyfrwng naturiol eu gwasanaethau’.

Mae ein hamcanion ar gyfer 5 mlynedd cyntaf y Cynllun hwn yn mynd i’r afael â’r her o sicrhau ystod o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol a thu allan i’r ysgol.

O ran natur ieithyddol ysgolion Sir Gaerfyrddin mae nifer uchel ohonynt yn gweithredu’n ddwyieithog yn barod.

 

Ysgolion Sir Gaerfyrddin (pob sector)

 

  1. Cyfrwng Cymraeg: Cymraeg yw iaith busnes dydd i ddydd yr ysgol. Defnyddir y Gymraeg fel iaith cyfathrebu â'r disgyblion ac ar gyfer gweinyddiaeth yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  2. Dwy ffrwd: Defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg yng ngwaith beunyddiol yr ysgol. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  3. Trosiannol: Cymraeg yw iaith busnes dydd i ddydd yr ysgol. Rhoddir blaenoriaeth uchel i greu naws Gymreig. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith.
  4. Dwyieithog Math A: Addysgir o leiaf 80% o'r pynciau ar wahân i'r Gymraeg a'r Saesneg yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgybl. Addysgir un neu ddau o bynciau i rai disgyblion yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.
  5. Dwyieithog Math B: Addysgir o leiaf 80% o’r pynciau (ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg) drwy gyfrwng y Gymraeg ond hefyd cânt eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.
  6. Saesneg gyda Chymraeg arwyddocaol: Cyd-destun ieithyddol yr ysgol sy'n pennu iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd. Defnyddir y ddwy iaith fel ieithoedd cyfathrebu â'r disgyblion, rhieni ac ar gyfer gweinyddiaeth yr ysgol.
  7. Cyfrwng Saesneg: Saesneg yw iaith busnes dydd i ddydd yr ysgol, ond defnyddir peth Cymraeg hefyd fel iaith cyfathrebu â’r disgyblion. Mae'r ysgol yn cyfathrebu â rhieni naill ai yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.
  8. Amherthnasol (Ysgolion Meithrin ac Arbennig)

Mae Siarter Gymraeg wedi bod yn weithredol yn Sir Gaerfyrddin ym mhob ysgol gynradd ers lansio 'Codi Caerau' yn 2016 fel siarter Cymraeg 1af ac Ail Iaith. Mae'r Siarter Iaith yn pwysleisio manteision cryfhau meddu’r Gymraeg drwy ddefnyddio ac ymarfer yr iaith mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.

Rydym wedi treialu y Siarter Iaith Uwchradd mewn 2 ysgol a'n bwriad yw cyflwyno hyn ar draws pob Ysgol Uwchradd. Rhoddir adroddiadau llawn wrth i ysgolion weithio tuag at ennill eu gwobrau Efydd, Arian ac Aur. Rydym yn gweithio mewn cydweithrediad â'n cydweithwyr Partneriaeth i gynllunio a rhannu adnoddau.

 

O ran y Siarter cynradd rydyn wedi sicrhau’r canlynol (2022) –

Cyfrwng Cymraeg Gweithio tuag at Wedi cyflawni
Gwobr Efydd -------- 100%
Gwobr Arian 62% 37%
Gwobr Aur 37% 7.5%

 

Cyfrwng Ail Iaith Gweithio Tuag at Wedi cyflawni
Gwobr Efydd 25% 75%
Gwobr Arian 75% 22%
Gwobr Aur 100% ----

 

Ar hyn o bryd, mae nifer helaeth o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol, gan gynnwys:

  • Gweithgareddau’r Urdd,
  • Clybiau ar ôl ysgol cyfrwng Cymraeg drwy weithio gyda’r Mentrau Iaith,
  • Gweithdai radio
  • Ffilmio syniadau am wersi i hyrwyddo’r celfyddydau mynegiannol i gyd fynd gyda’r gwaith ym mhecyn Sir Gâr
  • Sachau Siarter Iaith ar gyfer diwrnod dilysu
  • Creu phecyn rhythm a dawns - hyrwyddo y celfyddydau mynegiannol-drama cerddoriaeth, celf ,dawns i gyd fynd gyda chwedlau’r sir a hanes lleol a’u ffilmio
  • Gemau ee, Cymru ar fap x 66 i gyd fynd gyda adnoddau’r tîm datblygu’r Gymraeg
  • Cydweithio ar becyn o syniadau a gweithgareddau gyda chwmni Sgiliau- ar gyfer Iaith gyntaf ond yn bennaf ail iaith yn gyflwyno patrymau ieithyddol i gyd fynd â sgiliau chwaraeon
  • Sgriptio a pherfformio monologau addas i ddisgyblion ail iaith ar gyfer Pecyn Sir Gâr
  • Cefnogi gemau geiriol yn yr ardal allanol CS
  • Gemau bwrdd amser chwarae gwlyb fel y gallwn baratoi cyfarwyddiadau Cymraeg ar Screen Castify ( ail iaith).
  • Sesiynau rhithiol gyda darparwyr amryw allanol

 

  • 2026-2027

    Ble rydym yn ceisio bod o fewn 5 mlynedd cyntaf y Cynllun hwn a sut rydym yn bwriadu cyrraedd yno?

    • Byddwn yn cefnogi ysgolion ac yn gweithio gyda phartneriaid i fapio a datblygu cyfleoedd pellach i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol.
    • Byddwn yn canolbwyntio ar ein 34 ysgol Saesneg / Saesneg gyda defnydd arwyddocaol o Gymraeg
    • Ymestyn Siarter Iaith Ysgolion Uwchradd i bob ysgol uwchradd gan anelu at 9 ysgol yn cyrraedd y wobr Efydd erbyn 2027 a 5 ysgol yn cyflawni Arian/Aur o fewn yr un cyfnod
    • Byddwn yn gweithio gyda cholegau Addysg Bellach i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg ar draws pob maes dysgu yn cael ei rhoi gan gynnwys prentisiaethau.
    • Byddwn yn parhau i weithio gyda chyflogwyr ac addysg uwch i hyrwyddo dwyieithrwydd fel sgil allweddol ar gyfer addysg bellach a'r byd gwaith.
    • Datblygu cyfleoedd ymhellach i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gweithgareddau anffurfiol (e.e. gwirfoddoli, Dug Caeredin, Clybiau Ieuenctid).
    • Byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i gyfraniad chweched dosbarth, colegau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau at lwyddiant y Cynllun Strategol, lle bo hynny’n berthnasol
    • Hyrwyddo gwell sgiliau ar gyfer defnydd gydol oes o'r Gymraeg.
    • Gan weithio gyda'r gwasanaethau cymorth Ieuenctid, yr Urdd, Mentrau Iaith a CFfI byddwn yn mapio'r cyfleoedd presennol sydd ar gael i blant oedran ysgol ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
    • Byddwn yn cefnogi gweithgareddau Menter Iaith y Sir a sicrhau fod gweithgareddau trefol/cymunedol yn ddwyieithog a bod y Cyngor yn cefnogi hyn ac yn cynorthwyo busnesau/grwpiau er mwyn sicrhau hyn.
    • Mae’r CSGA’n plethu mewn i Strategaeth Hybu Sir Gaerfyrddin. Gweledigaeth hirdymor y Strategaeth Hybu yw anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir.

     

    Yn Ebrill 2016, daeth Safonau Iaith Cyngor Sir Caerfyrddin i rym. Ar ôl cyfnod o ymgynghori ac o baratoadau, cyflwynwyd 174 o Safonau gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a fyddai bellach yn cael ei reoleiddio gan y Comisiynydd. Disodlwyd Cynllun Iaith y Cyngor felly a derbyniwyd y Safonau yn fframwaith newydd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y pum maes gwaith isod: 1) cyflenwi gwasanaethau Cymraeg, 2) llunio polisi mewn modd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg, 3) gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, 4) cadw cofnodion ynglŷn â’r Gymraeg ac yn olaf 5) hybu’r Gymraeg.

    Mae’r strategaeth hybu yn adnodd gwerthfawr i’n cynorthwyo i gydgynllunio, i gydweithio ac i dargedu adnoddau er mwyn cyrraedd y 5 amcan isod:

    1. Cynyddu niferoedd sy’n caffael sgiliau sylfaenol a sgiliau pellach yn y Gymraeg drwy’r system addysg a thrwy drosglwyddo iaith yn y cartref;
    2. Cynyddu hyder siaradwyr Cymraeg ac felly ddefnydd y Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, ac annog a chefnogi sefydliadau’r sir i wneud y Gymraeg yn gynyddol yn gyfrwng naturiol eu gwasanaethau;
    3. Cymryd camau pwrpasol i effeithio’n gadarnhaol ar symudiadau poblogaeth gan geisio denu’n pobl ifanc i sefydlu neu i ail-ymsefydlu yn y sir fel na gollir y cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg a enillir drwy’r drefn addysg. Yn ogystal, gwneud ymdrechion sylweddol i gymathu mewnfudwyr a sicrhau nad ydy datblygiadau cynllunio newydd yn cael effaith andwyol ar hyfywedd y Gymraeg;
    4. Targedu ardaloedd daearyddol penodol o fewn y sir, naill ai am eu bod yn cynnig potensial i ddatblygu neu yn achosi pryder yn ieithyddol, i gynyddu niferoedd sy’n medru ac yn defnyddio’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny;
    5. Marchnata a hyrwyddo’r iaith. Codi statws y Gymraeg gan gynnwys manteision dwyieithrwydd a manteision addysg ddwyieithog. A thrwy godi ymwybyddiaeth o’r manteision hyn, denu mwy o drigolion y sir i gaffael yr iaith
      Strategaeth Hybu’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin 2016- 2021
    • Hyrwyddo diwrnodau iaith sy'n benodol i'r farchnad e.e. Diwrnod Shwmae? ynghyd â thynnu sylw at ddarparwyr allanol sy'n cynnig sbectrwm o syniadau gwahanol h.y. Awduron, Cynllun Beirdd Plant a'r Platfform AM.
    • Annog ysgolion i ddefnyddio Cymraeg Bob Dydd- rhaglen sy'n cynnig cyfleoedd i ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg/ Dwyieithog ymestyn eu defnydd o'r Gymraeg. Mae'r Urdd yn gweithredu'r rhaglen ac yn trefnu gweithgareddau er mwyn meithrin hyder disgyblion yn y Gymraeg, cynyddu eu defnydd o'r iaith, a'u hannog i barhau i astudio'r Gymraeg fel pwnc Safon UG a Safon Uwch.
    • Ar hyn o bryd mae 18 (27%) o staff Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn gweithredu ar Lefel Uwch/Hyfedredd Byddwn yn ymestyn hyfedredd iaith gweithwyr o fewn y gwasanaeth hwn, yn enwedig mewn ysgolion (35% Uwch/Hyfedredd) er mwyn hyrwyddo defnydd anffurfiol o'r Gymraeg
    • parhau i ddatblygu deunydd hyrwyddo sy'n dangos y gwerth a roddir ar ddwyieithrwydd gan gyflogwyr.
  • 2031-2032

    Ble rydym yn disgwyl bod ar ddiwedd ein Cynllun deng mlynedd?

    • Bydd y Siarter Iaith wedi ei ymgorffori ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd gan arwain at gynyddu’r ethos Cymraeg yn yr holl ysgolion.
    • Bydd ysgolion uwchradd wedi cynyddu'r defnydd o Gymraeg achlysurol i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio y tu allan i'r ystafelloedd dosbarth.
    • Gyda hyder dysgwyr yn cynyddu a’u diddordeb yn y Gymraeg bydd mwy o bynciau'n cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • Bydd gwell dealltwriaeth o hanes lleol, hanes Cymru a diwylliant Cymru yn dod i'r amlwg drwy'r cwricwlwm newydd.
    • Byddwn wedi cyflawni ein nod o godi statws y Gymraeg a gwneud disgyblion yn falch o gael eu hiaith eu hunain ac felly eu hunaniaeth yn y byd.
  • Data Allweddol

    Data Allweddol

    Disgyblion fydd yn manteisio ar weithgareddau o dan adain y Siartr Iaith – lefel Efydd fel gwaelodlin

    Cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol

    2022-2023 2026-2027 2031-2032
    Cynradd 14077 89% Cynradd 14944 94.5% Cynradd 15812 100%
    Uwchradd 4790 42% Uwchradd 8623 75% Uwchradd 11498 100%

Deilliant 6 Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”) (yn unol â'r dyletswyddau a bennir gan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018)

Ble rydym ni nawr?

Mae ein gweledigaeth fel a ganlyn:- 'Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i gyflawni ei botensial mewn amgylchedd dwyieithog sy'n parchu ac yn gwerthfawrogi pob diwylliant a thraddodiad.'

Fe gyflwynwyd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET) ym mis Ionawr 2018 sy’n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol i gadw’r trefniadau ar gyfer cefnogi dysgwyr rhwng 0 a 25 oed gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol o dan adolygiad ac ystyried a yw’r trefniadau hyn yn ddigonol. Mae’n cynnwys gofyniad statudol i gymryd camau rhesymol i greu system o gefnogaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i ddysgwyr gydag ADY.

Rydyn yn ymrwymedig i gynhwysiant ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gallu darparu gwasanaethau dwyieithog i’n dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Bwriad yr Adran Gynhwysiant yw parhau i ddarparu gwasanaethau a darpariaethau o ansawdd uchel yn ddwyieithog er mwyn bodloni anghenion teuluoedd a phobl ifanc h.y. os mai'r dewis yw i wasanaethau a darpariaethau gael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, mae gan yr adran y gallu i gyflawni hyn i safon uchel.

Nodau Strategol:

  • Sicrhau bod darpariaeth gyflawn ar gael i bob dysgwr ag ADY ym mhob lleoliad a gwasanaeth.
  • Sicrhau, drwy drefniadau partneriaeth effeithiol, bod angen y dysgwr am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar lefel ranbarthol a lleol yn cael ei ddiwallu.
  • Sicrhau bod pob dysgwr ag ADY yn gallu cael mynediad i ddarpariaeth yn eu dewis iaith, wrth gefnogi eu taith tuag at ddwyieithrwydd.
  • Parhau i ddatblygu system ddwyieithog i ymateb i'r agenda diwygio ADY
  • Gweithio gyda'n Tîm Cymorth Ymddygiad ac Ysgolion/Unedau Arbennig i ddatblygu darpariaeth ddwyieithog ymhellach.
  • Datblygu sgiliau ein Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol ymhellach i gefnogi dysgwyr.

Yn Sir Gâr rydym yn gallu diwallu anghenion ein dysgwyr mewn amryw o ffyrdd-

  • Bydd y mwyafrif o’n dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi’n ein hysgolion prif ffrwd.
  • Bydd yr ysgolion yn penodi staff addas i gefnogi dysgwyr unigol o fewn eu dosbarthiadau a bydd y Cydlynwyr Anghenion Ychwanegol yn sicrhau ymyrraeth briodol.
  • I’r dysgwyr ag anghenion mwy dwys/cymhleth mae gennym ystod o Unedau sydd wedi eu lleoli yn ein hysgolion prif ffrwd.
  • Mae gennym Uned Gyfeirio Disgyblion ac Ysgol Arbennig sef Heol Goffa.
  • Bydd y Tîm Cynhwysiant yn cefnogi ysgolion ac unedau arbennig er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr.

Yng nghyfnod y cynllun blaenorol mae Cyngor Sir Gâr wedi:

  • Cynyddu’r nifer o staff ymgynghorol sy’n gallu cefnogi drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Sicrhau bod gennym weithlu yn gynyddol yn gallu darparu cyngor, cymorth a gwasanaethau ehangach drwy gyfrwng y Gymraeg. Hyrwyddir hyn gan gynllun
  • corfforaethol i uwch-sgilio staff yr adran yn ieithyddol, ynghyd â chynllun arall i ddatblygu defnydd o’r Gymraeg o fewn yr adran.
  • Galluogi rhieni i gael cymaint neu gyn lleied o fewnbwn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ddarpariaeth, y gwasanaeth a'r cymorth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Darparu hyfforddiant dwyieithog i holl staff perthnasol o ran y diwygiadau ADY sydd ar waith.

 

Y sefyllfa gyfredol

Canran o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (Sir gyfan)

Data Medi  2021 Datganiadau Gweithredu Ysgol Gweithredu Ysgol +  Cyfanswm
Cynhradd 1.8% 16.8%  9.7% 23.3% 
Uwchradd 3% 17.2%  8.8% 29% 

 

Nifer o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol

Data Medi  2021 Datganiadau Gweithredu Ysgol Gweithredu Ysgol + Cyfanswm
Sir Gâr 719 4079  2360  7158 

 

Nifer o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg

Data Medi  2021 Datganiadau Gweithredu Ysgol Gweithredu Ysgol + Cyfanswm
Ysgolion Cymraeg 315 2120  1120  3555 
Ysgolion saesneg 300 1955  1195  3450 

 

O ran dyraniad anghenion ar draws ysgolion maent yn eithaf cytbwys o ran y nifer sydd yn y sector Gymraeg a’r sector Saesneg.

Ar gyfer hyfedredd staff yr Adran Gynhwysiant ac Adran Seicolegwyr Addysg - gweler deilliant 7.

 

Targedau

  • Er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr ag anghenion ychwanegol, cynnal a datblygu ymhellach gweithlu canolog anghenion dysgu ychwanegol sy’n gallu cefnogi a gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg- cynnydd o nawr 7 (34%) uwch/hyfedr i 13 (63%).
  • Yn yr un modd byddwn yn gweithio gyda’n Hysgolion/Unedau i gynyddu’r nifer o staff sy’n gallu cefnogi drwy gyfrwng y Gymraeg. (Gweler deilliant 7).
  • Nid oes gan ein Hunedau/Ysgol Heol Goffa ddynodiad ieithyddol a byddwn yn anelu i sicrhau y bydd dysgwyr sy’n mynychu’r gwasanaethau yma yn derbyn cymorth ieithyddol priodol.The allocation of needs across schools are quite balanced in terms of the number in the Welsh and English sectors.

 

  • 2026-2027

    Ble rydym yn ceisio bod o fewn 5 mlynedd cyntaf y Cynllun hwn a sut rydym yn bwriadu cyrraedd yno?

    Byddwn yn gweithio i weithredu agweddau ar y CSGA yn unol â Chynllun Strategol Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol Sir Gaerfyrddin. Mae dwyieithrwydd bellach yn thema gyffredinol ar draws y cynllun cyfan. Mae’r datganiadau canlynol yn berthnasol i’r deilliant hwn-

    • Gan fod cyfran uchel o'n hysgolion yn ddwyieithog gallwn fodloni ceisiadau am ddarpariaeth addysg brif ffrwd yn amserol.
    • Mae'r holl wasanaethau cymorth a phrosesau statudol ar gael yn ddwyieithog ac rydym yn darparu hyfforddiant a chymorth i Gydlynwyr ADY er mwyn iddynt allu diwallu anghenion pob dysgwr.
    • Mae pob ymyriad ar gael yn ddwyieithog ac rydym yn ymrwymo i sicrhau bod yr holl adnoddau a ddatblygir yn Sir Gaerfyrddin ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
    • Byddwn yn parhau i fonitro ceisiadau am gymorth arbenigol ac yn gweithio gydag arweinwyr ysgolion, Cydlynwyr ADY a swyddogion cynhwysiant i nodi meysydd i’w datblygu ac ymgorffori'r datblygiadau hyn yn ein cynllun moderneiddio ysgolion.
    • Byddwn yn adlewyrchu'r ffordd newydd o weithio a chefnogi dysgwyr ag ADY gan sicrhau bod y dull ar gael yn ddwyieithog.
    • Rydym yn darparu darpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg a Saesneg drwy unedau arbenigol sy'n gysylltiedig ag ysgolion prif ffrwd i sicrhau bod gofynion iaith Dysgwyr ADY cymhleth yn cael eu bodloni.
    • Mae pob lleoliad ADY yn gweithio tuag at Dargedau Iaith y Siarter Iaith gyda chymorth Tîm Athrawon Datblygu'r Gymraeg.

     

    Roedd gweithgaredd map a bwlch a gwblhawyd yn ddiweddar ar lefel dwyieithrwydd ar draws y gwasanaeth yn ymarfer cadarnhaol. Yn deillio o hyn-

    • Byddwn yn gweld gofyniad ystod o asesiadau safonedig yn y Gymraeg yn flaenoriaeth i sefydlu llinell sylfaen iaith yn effeithiol.
    • Gallem ychwanegu at y ffaith ein bod wedi datblygu ein hasesiadau ein hunain sy'n seiliedig ar asesiadau athrawon Chat sydd yn cael eu defnyddio gan yr ysgol i gefnogi a sgaffaldio datblygiad y Gymraeg i bob plentyn.
    • Lle nodir anghenion iaith penodol, mae angen cymorth yn y famiaith i fynd i'r afael â'r angen a chefnogi datblygiad yr iaith ychwanegol yn y dyfodol.
  • 2031-2032

    Ble rydym yn disgwyl bod ar ddiwedd ein Cynllun deng mlynedd?

    • Cyn dyddiad gorffen ein cynllun 10 mlynedd byddwn mewn sefyllfa i allu darparu cydraddoldeb darpariaeth Gymraeg a gwasanaeth gwirioneddol ddwyieithog i bob disgybl yn Sir Gaerfyrddin.
    • Byddwn yn darparu hyfforddiant i Gydlynwyr ADY a swyddogion Anghenion Amgen er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o'r iaith.
    • Byddwn yn parhau i ymchwilio i'r effeithiau ar addysg ddwyieithog i ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg sydd ag anghenion dysgu.
    • Byddwn yn parhau i sicrhau bod lefelau staffio dwyieithog yn galluogi'r sir i gefnogi'r twf disgwyliedig mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

Deilliant 7 Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg

Ble rydym ni nawr?

 

  • 2026-2027

    Ble rydym yn ceisio bod o fewn 5 mlynedd cyntaf y Cynllun hwn a sut rydym yn bwriadu cyrraedd yno?

    O fewn 5 mlynedd cyntaf y Cynllun hwn, ein nod yw bod ar y trywydd iawn o ran cyflawni ein hamcanion. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar recriwtio, datblygu a hyfforddi gweithlu'r ysgolion yn y dyfodol er mwyn gallu cyflawni'r Cynllun hwn a dyhead Llywodraeth Cymru i gael 'Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050'.

    Er mwyn cyflawni'n dyheadau o ran uwchsgilio staff byddwn yn:

    • Parhau i ddefnyddio awdit sgiliau iaith pob dwy flynedd i nodi lefelau sgiliau Cymraeg yr holl staff er mwyn cynnig sail dystiolaeth gadarn ar gyfer y math o hyfforddiant pellach fydd ei angen i gynyddu’r nifer o staff sy’n gallu gweithio a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • Pob ysgol i ymateb i awdit Sgiliau Iaith Gymraeg gweithlu'r ysgol gan ddadansoddi'r data sy’n nodi'r ddarpariaeth bresennol a meysydd i'w datblygu ymhellach. Bydd angen i bob ysgol adlewyrchu hyn yn nogfennau hunanwerthuso a chynlluniau datblygu’r ysgol. Bydd yn ofynnol i ysgolion ddefnyddio eu hadnoddau i ddarparu cyfleoedd i staff fanteisio ar gyfleoedd datblygu.
    • Bydd dadansoddiad pellach gan yr Awdurdod Lleol o ddata'r gweithlu yn ein hysbysu o fylchau yn y ddarpariaeth ac anghenion/cynnwys rhaglenni hyfforddi yn y dyfodol. Bydd angen i’r Adran adolygu a chyhoeddi’r rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus sydd ar gael i ddiwallu’n hyblyg anghenion hyfforddi a adnabyddir, wrth gefnogi gweithredu’r CSGA
    • Gweithio gyda phartneriaid (Partneriaeth, Y Ganolfan Genedlaethol, Dysgu Cymraeg, Cyrsiau Sabothol Prifysgol y Drindod Dewi Sant) i gyflwyno rhaglenni hyfforddi gan ganolbwyntio'n benodol ar addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • Hybu staff i gymryd mantais o hyfforddiant sabothol Llywodraeth Cymru drwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
    • Byddwn yn cynnig hyfforddiant staff i wella darllen, ysgrifennu a siarad yn Gymraeg, ac i fireinio sgiliau Cymraeg y rhai sydd eisoes yn rhugl. Byddwn yn defnyddio Fframwaith Sgiliau Iaith y Cyngor Sir fel sail ar gyfer y gwaith hwn.
    • Yn ogystal, bwriadwn ddatblygu sgiliau a hyder athrawon i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac i uwch-sgilio staff cynorthwyol i roi cymorth i ddisgyblion drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • At hynny, byddwn yn uwch-sgilio staff i sicrhau bod addysgeg briodol yn cael ei mabwysiadu, er mwyn sicrhau y caiff safonau eu cynnal a'u codi wrth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • Byddwn yn gweithredu'r Safonau Proffesiynol newydd i Athrawon, cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc a gweithio'n effeithiol mewn lleoliadau dwyieithog, manteisio ar lwybrau amgen i addysgu, cael mynediad at systemau cynllunio'r gweithlu cenedlaethol a'r dull Cymru gyfan o ymdrin ag ysgolion bach a gwledig.

    Recriwtio staff/arweinwyr

    • Gall recriwtio staff addysg sy’n siarad Cymraeg i weithio yn ein hysgolion fod yn heriol a byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffyrdd i ddelio â’r her hon gan gynnwys arweinwyr ysgol cymorth ieithyddol. Bydd hyn yn cynnwys lansio ymgyrch leol o ran recriwtio staff dwyieithog i arwain a gweithio yn ysgolion Sir Gâr.
    • Mae heriau recriwtio arweinwyr ysgolion Cymraeg eu hiaith yn parhau, a byddwn yn sefydlu a ffurfioli ffederasiynau ysgolion i gynorthwyo gyda'r sefyllfa. Byddwn yn darparu arweiniad a hyfforddiant ac yn cefnogi'r rôl arwain newydd hon drwy gynnig hyfforddiant neilltuol a hwyluso cymorth o ysgol i ysgol.
    • Byddwn yn cynnig hyfforddiant iaith ac arweinyddiaeth benodol i arweinwyr ysgol.

    Cefnogaeth i Lywodraethwyr Ysgol

    • Bydd yr Awdurdod Lleol yn rhoi cymorth a her i Lywodraethwyr ac arweinwyr ysgolion wrth benodi staff â chymwysterau addas er mwyn iddynt allu mynd i'r afael â gofynion y Cynllun hwn a pharhau i wella safonau addysgol.
    • Parhau i gefnogi a rhoi cyngor i Lywodraethwyr ac arweinwyr ysgolion ar ddatblygu gallu ieithyddol staff.

    Cyffredinol

    • Byddwn yn sicrhau bod Gwasanaeth Athrawon Datblygu’r Gymraeg yn cael ei gynnal wrth iddynt weithio'n ddiflino i ddarparu pob agwedd ar gymorth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
    • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid e.e. tîm Cymraeg i Oedolion, Dysgu Sir Gâr, Partneriaeth, cholegau addysg bellach, Llywodraeth Cymru, yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, ar ddatblygu arweinyddiaeth a sicrhau bod gennym weithlu ysgolion â'r sgiliau dwyieithog addas.
    • Gall Arweinwyr Dysgu a Chymunedau Dysgu Proffesiynol gefnogi'r gwaith yma er mwyn sicrhau cymorth ymarferol i ymarferwyr sy'n addysgu fwyfwy drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig mewn perthynas ag adnoddau ystafell ddosbarth. Gall hyn wedyn arwain at weithio gyda chyhoeddwyr deunyddiau addysgol (e.e. CAA, Peniarth, Telesgop, Theatr mewn Addysg ac asiantaethau allanol) i ddatblygu adnoddau addysgu, apîau ac ati a gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau adnoddau ariannol i ddatblygu'r agwedd hon.
  • 2031-2032

    Ble rydym yn disgwyl bod ar ddiwedd ein Cynllun deng mlynedd?

    • Drwy gynllunio strategol byddwn yn cynnig hyfforddiant i'r holl staff ar draws y sector cynradd ac uwchradd ar bob lefel ieithyddol. Mae hyn yn hollbwysig o ran cyflawni ein nodau.
    • Byddwn yn gweithio law yn llaw â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddarparu'r cyrsiau Sabothol gan gyfrannu at a chynnig ôl ofalaeth ieithyddol.
    • Bydd y gwasanaeth Cymraeg i Oedolion yn parhau i ddarparu cyrsiau iaith ar bob lefel a bydd y gwasanaeth Athrawon Datblygu’r Gymraeg yn parhau i greu adnoddau i wella addysgu yn y sector cynradd ac uwchradd.
    • Byddwn yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith a manteision addysg Gymraeg /dwyieithrwydd i weithwyr rheng-flaen y Cyngor (adran Derbyniadau Ysgol, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, rhaglenni megis Dechrau’n Deg) ac i weithio gyda’r Bwrdd Iechyd er mwyn darparu’r un hyfforddiant i Fydwragedd ac ymwelwyr iechyd

Sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein gweledigaeth

Mae Fforwm Cymraeg mewn Addysg Sir Gâr yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Mudiad Meithrin, yr Urdd, Mentrau Iaith, Cynghorwyr Sir sy'n gyfrifol am addysg a'r iaith Gymraeg, arweinwyr ysgolion cynradd ac uwchradd, swyddog Polisi Iaith Gymraeg, Colegau Addysg bellach yn ogystal â'r Cyfarwyddwr Addysg ac uwch-swyddogion addysg sydd â'r cyfrifoldeb am Ddwyieithrwydd a phennaeth Gwasanaeth Athrawon Datblygu'r Gymraeg.

Mae'r Fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd lle trafodir yr holl faterion sy'n cyd-fynd â dogfen CSGA. Wrth baratoi'r cynllun, byddwn yn ymgynghori â'n partneriaid statudol a rhanddeiliaid eraill.

Yn ogystal, mae Fforwm Iaith Gymraeg y Sir, sydd yn fforwm aml-asiantaethol, yn rhan o gefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth hon.

Mae swyddogion ar draws yr adran addysg yn cael eu briffio gydag amcanion y CSGA. Rydym yn gweithio'n agos gyda swyddogion i gyflwyno'r cwricwlwm newydd i gydgordio’r CSGA gyda delfrydau agenda Dyfodol Llwyddiannus.

Cynhelir sesiynau ymgynghori a gweithdai gyda Phenaethiaid a Llywodraethwyr ar draws pob ysgol.

Bydd proses ymgynghori gorfforaethol gadarn yn sicrhau bod y strategaeth yn cael ei llywio drwy'r broses ddemocrataidd.


Atodiad 1- Adroddiad ‘Y Gymraeg yn Sir Gâr’

Atodiad 1- Adroddiad ‘Y Gymraeg yn Sir Gâr

NOD: Cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gâr a sicrhau dilyniant ieithyddol o’r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i’r sector uwchradd fel y daw pob disgybl yn rhugl ac yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Addysg Cyn-Ysgol

  1. Bod y Cyngor Sir yn cydweithio’n agos gyda’r Mudiad Meithrin a darparwyr preifat i sicrhau bod addysg cyn ysgol cyfrwng Cymraeg ar gael yn hwylus ym mhob rhan o Sir Gâr.

Y Sector Cynradd

  1. Bod y Cyngor Sir yn paratoi cynllun gwaith ac amserlen bendant, mewn cydweithrediad â chyrff llywodraethu ysgolion, er mwyn symud pob ysgol gynradd ar hyd continwwm iaith. Bydd angen datblygu strategaethau ar gyfer yr amrywiol gategorïau ac ardaloedd daearyddol;
  2. Bod y Cyngor Sir yn cydweithio’n agos gyda staff a chyrff llywodraethol ysgolion trawsnewidiol Sir Gâr (sef ysgolion cyfrwng Cymraeg ond â defnydd sylweddol o’r Saesneg) er mwyn eu troi yn ysgolion Cymraeg;
  3. Bod y Cyngor Sir yn cydweithio’n agos gyda staff a chyrff llywodraethol ysgolion dwy ffrwd Sir Gâr er mwyn eu troi yn ysgolion Cymraeg;
  4. Bod y Cyngor Sir yn cytuno ar yr egwyddor y dylai pob ysgol gynradd Saesneg dros gyfnod o amser gyflwyno’r cwricwlwm yn y Cyfnod Sylfaen yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg fel man cychwyn gan ystyried opsiynau gwahanol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 (CA2);
  5. Bod y Cyngor Sir yn dechrau’r broses o adnabod ysgolion cyfrwng Saesneg fyddai’n barod i gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg yn weddol o fuan gyda’r nod yn CA2 i gynnig dewis rhwng ffrwd Gymraeg neu ffrwd ddwyieithog (25-50% cyfrwng Cymraeg);
  6. Bod y Cyngor Sir yn rhoi ystyriaeth fanwl i fodel presennol canolfannau iaith/hwyrddyfodiaid Sir Gâr yn y sector cynradd ac i ddatblygu’r ddarpariaeth ar sail model Cynghorau Gwynedd a Cheredigion;
  7. Bod y Cyngor Sir yn mabwysiadu Siartr Iaith Gymraeg Cyngor Gwynedd (sy’n annog plant i siarad Cymraeg yn yr ysgol ac yn gymunedol) a’i addasu at ofynion Sir Gaerfyrddin;
  8. Bod y Cyngor Sir yn ailedrych a sicrhau bod ysgolion cynradd Cymraeg yn rhan o deulu ysgol uwchradd sy’n gallu darparu continwwm ieithyddol addas o’r sector cynradd ymlaen i CA3 a CA4 a chynnal gweithgareddau pontio sy’n adlewyrchu natur ieithyddol yr ysgolion cynradd sy’n eu bwydo;
  9. Bod y Cyngor Sir yn cynnwys disgwyliadau o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o gytundeb gydag ysgolion, ochr yn ochr â disgwyliadau o ran disgyblaeth, cyrhaeddiad a phresenoldeb;
  10. Bod y Cyngor Sir, pe gwireddir yr argymhellion uchod, yn ymwybodol o’r angen i gynllunio ar gyfer twf mewn addysg Gymraeg yn y sector uwchradd.

Ysgolion Uwchradd

  1. Bod y Cyngor Sir yn disgwyl i ysgolion uwchradd adeiladu ar y sylfaen ieithyddol a osodwyd gan yr ysgolion cynradd Cymraeg drwy sicrhau bod pob disgybl yn parhau i astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf ac fel cyfrwng dysgu hyd at CA4;
  2. Bod y Cyngor Sir yn mabwysiadu protocol dilyniant clir gyda phob ysgol gynradd ac uwchradd Gymraeg (neu ddwyieithog), gyda hyfforddiant priodol lle bo angen, er mwyn cynyddu’r nifer o ddisgyblion sy’n parhau i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob cyfnod allweddol:
  3. Bod y Cyngor Sir yn ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu cynllun ail-gyfle yn y cyfnod pontio rhwng y sector cynradd a’r uwchradd gan fabwysiadu’r Cynllun Trochi sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ledled Cymru;
  4. Bod y Cyngor Sir yn cytuno ar amserlen a chynllun i gefnogi ysgolion 2A, 2B a 3 i symud ar hyd y continwwm iaith dros gyfnod o amser a rhoi arweiniad i sicrhau bod pob ysgol uwchradd arall yn symud ar hyd y continwwm iaith a chreu ethos sy’n annog parch tuag at y Gymraeg;
  5. Bod y Cyngor Sir yn cynllunio ar gyfer twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector uwchradd.

Marchnata Addysg Gymraeg

  1. Bod y Cyngor Sir yn cynnal ymgyrch farchnata barhaus i hyrwyddo addysg Gymraeg gan esbonio manteision bod yn ddwyieithog i rieni a disgyblion;
  2. Bod y Cyngor Sir yn darparu hyfforddiant i lywodraethwyr cynradd ac uwchradd ar fanteision addysg Gymraeg a’r rhesymau addysgiadol, economaidd a chymunedol pam y dylid ehangu’r ddarpariaeth ar draws y sir.

Cyffredinol

  1. Bod y Cyngor Sir yn cynnal asesiad o’r galw am addysg Gymraeg mewn ardaloedd lle ystyrir bod angen;
  2. Bod y Cyngor Sir yn cydweithio gyda phob corff Llywodraethol i gynnal awdit sgiliau iaith er mwyn ystyried anghenion ieithyddol y gweithlu ar gyfer gallu symud yr ysgol ar hyd y continwwm iaith.
  3. Bod y Cyngor Sir yn sicrhau cefnogaeth ac adnoddau priodol i ddatblygu ac arwain strategaeth i hyrwyddo ac ehangu addysg Gymraeg yn Sir Gâr.

 

NOD: I gynyddu ystod y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein cymunedau, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn atgyfnerthu’r iaith y tu allan i furiau’r ysgol.

Gwasanaethau Ieuenctid

  1. Bod y Cyngor Sir yn cydlynu grŵp gweithredu strategol fyddai’n cynnwys ysgolion uwchradd, mudiadau ieuenctid y sir, y sector addysg bellach ac uwch a’r sector hamdden i gynllunio a chysylltu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau y gwneir y defnydd gorau posib o’r adnoddau sydd ar gael o fewn y Sir, i dargedu adnoddau yn ôl y gofyn ac i adnabod unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth.
  2. Bod y grŵp gweithredu strategol yn sicrhau ei fod yn datblygu cyfleoedd cymunedol cyfrwng Cymraeg a fydd yn cefnogi ac yn atgyfnerthu’r cwricwlwm addysgol.
  3. Bod y Cyngor Sir yn cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn ei wasanaeth ieuenctid ac yn cefnogi staff o fewn y gwasanaeth i ddatblygu eu sgiliau i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
  4. Yn unol ag argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Glybiau Ieuenctid (Ionawr 2014) blaenoriaethu cynyddu darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’r ymagwedd strategol newydd drwy gomisiynu rhai sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth ieuenctid agored trwy gyfrwng y Gymraeg.