Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg
Yn yr adran hon
- Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg
- Ein gweledigaeth deng mlynedd ar gyfer cynyddu a gwella'r cynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ein hardal
- Deilliant 1 - Mwy o blant meithrin/ tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Deilliant 2 - Mwy o blant dosbarth derbyn/pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
- Deilliant 3 - Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod o'u haddysg statudol i un arall
- Deilliant 4 - Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
- Deilliant 5 - Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol
- Deilliant 6 Cynnydd yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”) (yn unol â'r dyletswyddau a bennir gan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018)
- Deilliant 7 Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg
- Sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein gweledigaeth
- Atodiad 1- Adroddiad ‘Y Gymraeg yn Sir Gâr’
Deilliant 4 - Mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
Ble rydym ni nawr?
Canran y dysgwyr sy’n astudio yn y Gymraeg fel iaith gyntaf- Blwyddyn 7-13
2017 | 2018 | 2019 | 2020 | 2021 | |
Blwyddyn 7 | 42% | 41% | 43% | 44% | 45% |
Blwyddyn 8 | 45% | 43% | 43% | 43% | 44% |
Blwyddyn 9 | 41% | 43% | 43% | 42% | 42% |
Blwyddyn 10 | 42% | 40% | 42% | 42% | 42% |
Blwyddyn 11 | 43% | 44% | 41% | 43% | 43% |
Blwyddyn 12 | 60% | 64% | 63% | 64% | 67% |
Blwyddyn 13 | 58% | 61% | 64% | 67% | 64% |
Nifer a chanran y dysgwyr Blwyddyn 11 sydd wedi cael eu cofrestru ar gyfer TGAU yn y Gymraeg (iaith gyntaf neu ail iaith) a'r rhai sydd heb gofrestru ar gyfer y naill a’r llall.
2012-2013 | 2013-2014 | 2014-2015 | 2015-2016 | 2016-2017 | 2017-2018 | 2018-2019 | 2019-2020 | |
Cymraeg - Iaith Gyntaf | 717 / 33% | 687 / 34% | 673 / 34% | 709 / 37% | 765 / 40% | 752 /41% | 726 / 39% | 744 / 40% |
Cymreag - Ail Iaith | 1,215 / 56% | 1,130 /56% | 1088 / 55% | 1002 / 52% | 963 / 51% | 932 / 51% | 1002 / 53% | 957 / 52% |
Heb gofrestru | 242 / 11% | 194 /10% | 211 / 11% | 217 / 11% | 161 / 9% | 143 / 8% | 154 / 8% | 142 / 8% |
Nifer a chanran y cofrestriadau Cymraeg Safon Uwch/Uwch Gyfrannol iaith gyntaf ac ail iaith
Cofrestradau | 2012-2013 | 2013-2014 | 2014-2015 | 2015-2016 | 2016-2017 | 2017-2018 | 2018-2019 | 2019-2020 |
Nifer | 89 | 59 | 61 | 53 | 47 | 51 | 44 | 55 |
Canran | 5.5% | 3.6% | 3.9% | 3.6% | 3.2% | 3.4% | 3.0% | 4.0% |
TGAU | 2019 | 2020 | 2021 |
Cymraeg - Iaith Gyntaf | 724 | 654 | 897 |
Cymreag - Ail Iaith | 1013 | 954 | 992 |
Safon Uwch/ Lefel A | 2019 | 2020 | 2021 |
Cymraeg - Iaith Gyntaf | 19 | 16 | 22 |
Cymreag - Ail Iaith | 7 | 8 | 6 |
Canran disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 3, 4 a 5 yn astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg:
2017/2018
Categori Ysgol | CA3 | CA4 | CA5 |
Ysgol (1) | 100% | 100% | 100% |
Ysgol (2A) | 100% | 100% | 100% |
Ysgol (2A) | 100% | 100% | 100% |
Ysgol (2B) | 50.5% | 59.9% | 61.8% |
Ysgol (2B) | 60% | 60.8% | 62.2% |
2018/2019
Categori Ysgol | CA3 | CA4 | CA5 |
Ysgol (1) | 100% | 100% | 100% |
Ysgol (2A) | 100% | 100% | 100% |
Ysgol (2A) | 100% | 100% | 100% |
Ysgol (2B) | 50.4% | 46.9% | I’w gadarnhau |
Ysgol (2B) | 62.4% | 61.8% | I’w gadarnhau |
O safbwynt pynciau a ddysgir trwy’r Gymraeg ar draws ystod lawn ysgolion Sir Gâr, mae’r tabl isod yn amlygu faint o bynciau a ddysgir trwy’r Gymraeg yng nghyfnodau Allweddol 3, 4 a 5 (2021-22):
Categori Ysgol | Nifer Pynciau CA3 | Nifer Pynciau CA4 | Nifer pynciau CA5 |
Cyfartaledd | Amrediad | Cyfartaledd | Amrediad | Cyfartaledd | Amrediad |
1 (1 ysgol) | Cwricwlwm cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg, ag eithrio Saesneg fel pwnc a defnydd cynyddol o’r iaith darged mewn ieithoedd modern |
2A (2 ysgol) | Cwricwlwm cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg, ag eithrio Saesneg fel pwnc a defnydd cynyddol o’r iaith darged mewn ieithoedd modern, gyda dosbarthiadau Saesneg cyfochrog mewn Mathemateg a/neu Gwyddoniaeth ym mlynyddoedd 9-11 |
2B (2 ysgol) | 14/15 | 1 | 14 | 17-10 | 3/4 | 5-1 |
EW (3 ysgol) | 10 | 11-5 | 0 | 0 | 0 | 0 |
EM (4 ysgol) | 4 | 7-0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
KEY
1 | Cyfrwng Cymraeg |
2A | Dwyieithog |
2B | Dwyieithog |
EW | Ysgol Saesneg gyda defnydd sylweddol o’ Gymraeg |
EM | Ysgol cyfrwng Saesneg |
Mae potensial gan bob ysgol 2B, EW ac EM i ddatblygu darpariaeth – yn enwedig yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 (lle bo hynny’n berthnasol). Bydd cefnogaeth i gynyddu darpariaeth yr ysgolion yma. Byddwn yn nodi categori ysgol cyfredol a chategori newydd i anelu ati dros ddegawd y strategaeth ar gyfer pob ysgol. Bydd cyflymder ac ystod y datblygiad pynciol yn ddarostyngedig i amodau lleol, nid lleiaf hyfedredd staff a thwf yn y galw am addysg Gymraeg yn nalgylchoedd yr ysgolion. Er hynny, mae modd cynnig brasamcanion fel a ganlyn o ran nifer y pynciau y gobeithir eu datblygu:
Model Mewnbwn (cynyddu nifer y pynciau) - trosodd
Cynnydd Nifer y Pynciau (5 mlynedd) | Cynnydd Nifer y Pynciau (10 mlynedd) |
School | CA3 | CA4 | CA5 | CA3 | CA4 | CA5 |
2B |
14>20 N=6 |
4/5>8/9 N=5 |
20>25 N=5 |
7/8>12/13 N=5 |
||
EW |
6>14 N=8 |
0>5 N=5 |
5>10 N=5 |
0>3 N=3 |
||
EM |
0>4 N=4 6/7>10 N=3 |
0>3 N=3
|
6>10 N=4 10>14 |
0>3 N=3 3>8 N=5 |
Model Allbwn - Sicrhau cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n ennill cymwysterau cydnabyddedig:
Mae’n fwriad gennym i anelu at gynyddu nifer y dysgwyr sy’n dilyn rhan o’u cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion EM ac EW. Wrth adeiladu ar drafodaethau blaenorol, gall hyn ddigwydd drwy sefydlu o leiaf un ffrwd CA3 yn ein hysgolion EM erbyn 2027 (Cynnydd net o 210 disgybl fel gwaelodlin). Byddai rhai ysgolion EM mewn sefyllfa erbyn 2032 i ddechrau datblygu rhai llwybrau cyfrwng Cymraeg yn CA4.
Yn ein hysgolion EW, gallwn ystyried anelu at un neu ddau ddosbarth cyfrwng Cymraeg cyfwerth yn CA3 (Cynnydd net o 273 disgybl), gyda llwybrau i CA4 ar gyfer y disgyblion hynny erbyn 2032.
Y nod mewn ysgolion 2B fyddai sicrhau fod o leiaf 40% o ddisgyblion yr ysgolion yn ymgymryd ag o leiaf 70% o’u gweithgareddau trwy gyfrwng yn Gymraeg yn CA3 erbyn 2027, gan godi’r ganran i o leiaf 60% o’r disgyblion erbyn 2032. Bydd tyfiant naturiol yn CA3 yn cael traweffaith gadarnhaol ar y niferoedd fydd yn astudio pynciau trwy’r Gymraeg yn CA4 yn ystod oes y strategaeth yn yr ysgolion yma.
Mae ein Partneriaeth Addysg Gymraeg (PAG) wedi esblygu fel partneriaeth rymus, yn bennaf rhwng ein hysgolion categori 1 a 2A ôl-16. Mae'r bartneriaeth yn cynnig dwsin o gyrsiau ym mlwyddyn 12 a dwsin ym mlwyddyn 13 (2022/23) drwy fodel cydweithredu arloesol, sy'n seiliedig ar ddarparu dysgu cyfunol, sydd wedi profi’n fodel llwyddiannus dros ben.
Mae ystod y pynciau yn cynnwys:
Maes Cwricwlaidd | Nifer Pynciau |
Galwedigaethol (Busnes, Gofal Plant, Twristiaeth) |
3 |
Gwyddor Cymdeithasol (Gwasanaethau Cyhoeddus, Gwleidyddiaeth, Troseddeg, Seicoleg) |
4 |
Iaith Fodern (Ffrangeg, Sbaeneg) | 2 |
Gwyddoniaeth/Technoleg (Amaethyddiaeth, Electroneg, Gwyddor Bwyd a Maeth, Peirianneg) | 5 |
*Bu trafodaethau hefyd o ran Mathemateg Ychwanegol Uwch Gyfrannol a Chwaraeon BTEC
Maint cyfartalog dosbarth yw 14, gydag amrediad rhwng 1 a 39. Mae cyfuno dosbarthiadau ar draws dwy neu dair ysgol yn sicrhau fod mas critigol o fyfyrwyr ar gael er cynnal y pynciau. Heb y cydweithredu, buasai 9 pwnc gyda 5 neu lai o fyfyrwyr ym mlwyddyn 12 ac 11 pwnc gyda llai na 5 myfyriwr yn mlwyddyn 13 mewn perygl o beidio rhedeg ar draws y 3 ysgol:
Cynigia hyn gryn dipyn o lwybrau dysgu fuasai’n anghynaladwy heb y bartneriaeth. Y nod felly yw ceisio cynnig cymaint o ddewis â phosibl i fyfyrwyr, ond gwneud hyn mewn modd ariannol hyfyw a chynaliadwy.
O ran cyfanswm y myfyrwyr sy’n ymelwa o’r bartneriaeth, mae’r tabl isod yn dangos sefyllfa iach:
Ysgol | Cyfanswm Myfyrwyr | Blwyddyn 12 | Blwyddyn 13 |
Ysgol 1 | 152 | 79 | 73 |
Ysgol 2A | 135 | 81 | 54 |
Ysgol 2A | 51 | 35 | 16 |
CYFANSWM | 338 | 195 | 143 |
O safbwynt gweinyddu’r bartneriaeth mae un neu fwy o ysgolion yn arwain ar bwnc arbennig, gan gynnig eu staff yn ôl y galw. Cynigia rhwydwaith 14-19 y Sir gyllid i gefnogi’r bartneriaeth, a daw llif arian drwy arian y pen Llywodraeth Cymru, dyrchafiad ar gyfer yr iaith Gymraeg a dyraniadau penodol o ymron £92,000 a ddyfernir yn lleol wrth frigdorri’r grant ôl-16, er ysgogi cydweithio ar draws darparwyr.
Mae Sir Gaerfyrddin yn gweithio ochr yn ochr â Cheredigion a Phowys wrth gynnig prosiect E-sgol. Mae E-sgol yn defnyddio technoleg mewn ffordd arloesol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fyfyrwyr mewn ardaloedd gwledig drwy gynyddu'r pynciau sydd ar gael iddynt ac ehangu eu hopsiynau gyrfa ar ôl ysgol. Mae yna 1 pwnc (Troseddeg) yn rhedeg ar hyn o bryd a dyfernir fod y rhif isel yn ganlyniad i’r ffaith fod PAG mor llwyddiannus, gyda rhywfaint o heriau wedyn o safbwynt harmoneiddio amserlenni ysgolion eraill y tu fas i’r PAG. Yn ddibynnol ar sut fydd E-sgol yn datblygu, erys potensial i ymestyn yr arlwy i’r ystod oedran 14-16. Petai hyn yn bosibl, mae’n cynnig cyfleoedd i ymestyn llwybrau dysgu cyfrwng Cymraeg ar draws rhagor o ysgolion uwchradd y Sir. Gallwn frasamcan y byddai 3-5 pwnc E-sgol ychwanegol yn rhedeg yn ein hysgolion erbyn 2027 a 8-10 erbyn 2032.
-
2026-2027
Er mwyn cyflawni’r datblygiadau uchod, byddwn yn symud pob ysgol ar hyd y continwwm iaith drwy:
- Weithio gyda’r ysgolion i ddatblygu'r cwricwlwm i roi cyfleoedd i fwy o ddysgwyr gael mynediad at addysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
- Mabwysiadu dull strategol o ymdrin â'r pwnc a gynigir
- Cynyddu nifer y dysgwyr sy'n dilyn opsiynau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ac, yn y pen draw, mwy o gynnydd i ddilyn cymwysterau yn 16 oed
Bydd hyn yn sicrhau y bydd mwy o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau asesedig, ac yn eu cwblhau, ar oedran gadael ysgol statudol a thu hwnt, tra'n cael eu hasesu'n fewnol hefyd gan ysgolion ar adegau allweddol yn eu taith ddysgu (fel 5,7,11 a 14 oed).
Gellir mynd ar drywydd y strategaeth i wireddu'r canlyniad hwn drwy'r fframwaith canlynol:
- Datblygu'r Cwricwlwm: dull strategol o gynyddu cyfran y ddarpariaeth o ran pynciau a gynigir drwy gyfrwng y Gymraeg gan ein holl ysgolion.
- Model Ysgol Uwchradd (gweler tabl uchod) : cynyddu nifer y pynciau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, gan arwain at ganran gynyddol o'r cwricwlwm ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, tra hefyd yn cynyddu cyfran y dysgwyr sy'n dewis hyfforddiant pwnc cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog
- Model Ysgol Gynradd: modelu cynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr un modd.
- Ehangu ein defnydd o E-sgol tua’r dyfodol, gan gynnwys sut y gallwn ddatblygu ein harlwy cwricwlaidd ôl 16 cyfrwng Cymraeg yn ein ysgolion 2B.
- Ymestyn syniadaeth PAG, a’r egwyddorion gweithredu, i gynnwys ysgolion a darparwyr eraill, fyddai’n golygu cynnal nifer cyffelyb o bynciau ar draws ystod ein hysgolion. O wireddu hyn, rhagwelir twf arwyddocaol yn narpariaeth ôl-16 Cyfrwng Cymraeg y Sir.
Dull Strategol o gynyddu'r Cynnig Pwnc cyfrwng Cymraeg
Gellir cynyddu nifer y pynciau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg:
- Mewn modd ymarferol, gellir cynyddu pynciau oherwydd cyfleoedd sy'n bodoli o fewn y garfan staffio bresennol, fel athro sydd eisoes yn gallu darparu cynnwys pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mewn dull cynlluniedig, drwy:
- Mapio sut y gellir annog mwy o staff i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy eu cefnogi gyda datblygiad proffesiynol pwrpasol. (Noder: bydd pob aelod o staff yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu dwyieithrwydd, os oes angen, a'n dyletswydd ni o dan y polisi hwn yw cynnig y cymorth hwnnw)
- Gwneud apwyntiadau staff sy'n helpu i symud yr ysgol ar hyd y continwwm iaith
- Mewn modd strategol, wrth ystyried sut y gall gwahanol feysydd pwnc gefnogi ysgolion ar wahanol gamau o'u taith ieithyddol.
Tua'r tymor canolig a thu hwnt, ein nod yw cynnig mewnbwn cadarnhaol wrth ddatblygu Cymraeg fel un continwwm, gan gynnwys opsiynau yn y tymor canolig i gofrestru disgyblion ar lefel TGAU yn yr ysgolion perthnasol. Yn ogystal, hoffem:
- datblygu a hyrwyddo'r cyfraniad y gall myfyrwyr hŷn mewn ysgolion 11-18 ei wneud fel modelau rôl a mentoriaid
- ymestyn hyfedredd y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid, yn enwedig mewn ysgolion er mwyn hyrwyddo defnydd anffurfiol o'r Gymraeg a datblygu deunydd hyrwyddo sy'n dangos y gwerth a osodir ar ddwyieithrwydd gan gyflogwyr.
Yn ogystal byddwn yn-
- Gweithio gyda chyflogwyr a’r sector addysg uwch i hyrwyddo dwyieithrwydd fel sgil allweddol ar gyfer addysg bellach a byd gwaith.
- Hyrwyddo gwell sgiliau ar gyfer defnydd gydol oes o'r Gymraeg (ymchwilio i fodiwl Cymraeg Proffesiynol a'i ddatblygu ar gyfer myfyrwyr ôl-16 e.e. drwy Fagloriaeth Cymru)
- Bwriadwn ddatblygu strategaeth i recriwtio mwy o bobl ifanc i astudio Safon Uwch/Safon Uwch Atodol Cymraeg, yn enwedig bechgyn. Mae angen mynd i'r afael yn llawn â newidiadau yn y papurau arholiad er mwyn helpu i newid. Mae hon yn her genedlaethol, gyda chwymp o 24% yn nifer y myfyrwyr iaith gyntaf Safon Uwch yng Nghymru rhwng 2008/9 a 2020/21, gyda chwymp o 60% mewn niferoedd Cymraeg Ail Iaith dros yr un cyfnod. O ganlyniad i hyn, bydd angen gweithio ochr yn ochr â CBAC ac athrawon pwnc oddi mewn a thu allan i’r Sir er mwyn dwyn y maen i’r wal. Bydd olrhain barn myfyrwyr a darpar fyfyrwyr yn bwysig iawn er mwyn deall y rhesymau dros y cwymp a sut i fynd ati i wyrdroi’r sefyllfa.
- Rydym hefyd am gydweithio er mwyn datblygu cwrs uwch mewn Cymraeg Proffesiynol. Mae'r cwrs hwn i'w gynnig fel cwrs Safon Uwch/UG ynddo'i hun drwy elfennau modiwlaidd annibynnol y gall myfyrwyr anelu atynt, p'un a ydynt yn astudio Cymraeg i Safon Uwch ai peidio e.e. Cymraeg yn y gweithle a chyfieithu.
- Datblygu Tystysgrif/achrediad ôl 16 Cymraeg i Wyddonwyr- bydd hyn yn golygu ymchwilio i bosibiliadau pellach o fewn Bagloriaeth Cymru drwy annog myfyrwyr nad ydynt ar lwybrau Cymreig academaidd i fireinio eu sgiliau e.e. tuag at hyfedredd o ran ein fframwaith sgiliau.
- Byddwn yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i annog pobl ifanc i ystyried y Gymraeg ar Lefel Uwch drwy gyfeirio myfyrwyr at y sianel YouTube/Cymraeg yn ogystal â thrwy'r sianelau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg.
-
2031-2032
Erbyn diwedd y cynllun byddwn wedi cynyddu nifer y dysgwyr sy'n astudio ar gyfer cymwysterau asesedig yn y Gymraeg fel pwnc ac yn gallu cynnig pob pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Byddwn hefyd yn ymdrechu i sicrhau dewis ieithyddol yn ein hysgolion Saesneg sydd yn cefnogi cynnydd dwyieithrwydd disgyblion (gweler tabl uchod).
-
Data Allweddol
Mae’r tabl yn cynnwys cynnydd yn y niferoedd a’r % sydd/fydd yn astudio pynciau trwy’r Gymraeg ym mlwyddyn 11. Rhaid cofio bod deilliant 4 yn ymwneud hefyd â disgyblion ym mlynyddoedd 10,12,13. Felly, bydd niferoedd gwirioneddol yn uwch.
Niferoedd a % y dysgwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau Cymraeg (fel pwnc) a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg
2022-2023 2023-2024 2024-2025 2025-2026 2026-2027 1350 (Blwyddyn 11 only) / 72% 1465 (Blwyddyn 11 (+115)) / 78% 2027-2028 2028-2029 2029-2030 2030-2031 2031-2032 1581 (B;wyddyn 11 (+231)) / 84%