Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg

Deilliant 7 Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) a thrwy gyfrwng y Gymraeg

Ble rydym ni nawr?

  • 2026-2027

    O fewn 5 mlynedd cyntaf y Cynllun hwn, ein nod yw bod ar y trywydd iawn o ran cyflawni ein hamcanion. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar recriwtio, datblygu a hyfforddi gweithlu'r ysgolion yn y dyfodol er mwyn gallu cyflawni'r Cynllun hwn a dyhead Llywodraeth Cymru i gael 'Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050'.

    Er mwyn cyflawni'n dyheadau o ran uwchsgilio staff byddwn yn:

    • Parhau i ddefnyddio awdit sgiliau iaith pob dwy flynedd i nodi lefelau sgiliau Cymraeg yr holl staff er mwyn cynnig sail dystiolaeth gadarn ar gyfer y math o hyfforddiant pellach fydd ei angen i gynyddu’r nifer o staff sy’n gallu gweithio a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • Pob ysgol i ymateb i awdit Sgiliau Iaith Gymraeg gweithlu'r ysgol gan ddadansoddi'r data sy’n nodi'r ddarpariaeth bresennol a meysydd i'w datblygu ymhellach. Bydd angen i bob ysgol adlewyrchu hyn yn nogfennau hunanwerthuso a chynlluniau datblygu’r ysgol. Bydd yn ofynnol i ysgolion ddefnyddio eu hadnoddau i ddarparu cyfleoedd i staff fanteisio ar gyfleoedd datblygu.
    • Bydd dadansoddiad pellach gan yr Awdurdod Lleol o ddata'r gweithlu yn ein hysbysu o fylchau yn y ddarpariaeth ac anghenion/cynnwys rhaglenni hyfforddi yn y dyfodol. Bydd angen i’r Adran adolygu a chyhoeddi’r rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus sydd ar gael i ddiwallu’n hyblyg anghenion hyfforddi a adnabyddir, wrth gefnogi gweithredu’r CSGA
    • Gweithio gyda phartneriaid (Partneriaeth, Y Ganolfan Genedlaethol, Dysgu Cymraeg, Cyrsiau Sabothol Prifysgol y Drindod Dewi Sant) i gyflwyno rhaglenni hyfforddi gan ganolbwyntio'n benodol ar addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • Hybu staff i gymryd mantais o hyfforddiant sabothol Llywodraeth Cymru drwy Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
    • Byddwn yn cynnig hyfforddiant staff i wella darllen, ysgrifennu a siarad yn Gymraeg, ac i fireinio sgiliau Cymraeg y rhai sydd eisoes yn rhugl. Byddwn yn defnyddio Fframwaith Sgiliau Iaith y Cyngor Sir fel sail ar gyfer y gwaith hwn.
    • Yn ogystal, bwriadwn ddatblygu sgiliau a hyder athrawon i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac i uwch-sgilio staff cynorthwyol i roi cymorth i ddisgyblion drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • At hynny, byddwn yn uwch-sgilio staff i sicrhau bod addysgeg briodol yn cael ei mabwysiadu, er mwyn sicrhau y caiff safonau eu cynnal a'u codi wrth addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
    • Byddwn yn gweithredu'r Safonau Proffesiynol newydd i Athrawon, cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc a gweithio'n effeithiol mewn lleoliadau dwyieithog, manteisio ar lwybrau amgen i addysgu, cael mynediad at systemau cynllunio'r gweithlu cenedlaethol a'r dull Cymru gyfan o ymdrin ag ysgolion bach a gwledig.

    Recriwtio staff/arweinwyr

    • Gall recriwtio staff addysg sy’n siarad Cymraeg i weithio yn ein hysgolion fod yn heriol a byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffyrdd i ddelio â’r her hon gan gynnwys arweinwyr ysgol cymorth ieithyddol. Bydd hyn yn cynnwys lansio ymgyrch leol o ran recriwtio staff dwyieithog i arwain a gweithio yn ysgolion Sir Gâr.
    • Mae heriau recriwtio arweinwyr ysgolion Cymraeg eu hiaith yn parhau, a byddwn yn sefydlu a ffurfioli ffederasiynau ysgolion i gynorthwyo gyda'r sefyllfa. Byddwn yn darparu arweiniad a hyfforddiant ac yn cefnogi'r rôl arwain newydd hon drwy gynnig hyfforddiant neilltuol a hwyluso cymorth o ysgol i ysgol.
    • Byddwn yn cynnig hyfforddiant iaith ac arweinyddiaeth benodol i arweinwyr ysgol.

    Cefnogaeth i Lywodraethwyr Ysgol

    • Bydd yr Awdurdod Lleol yn rhoi cymorth a her i Lywodraethwyr ac arweinwyr ysgolion wrth benodi staff â chymwysterau addas er mwyn iddynt allu mynd i'r afael â gofynion y Cynllun hwn a pharhau i wella safonau addysgol.
    • Parhau i gefnogi a rhoi cyngor i Lywodraethwyr ac arweinwyr ysgolion ar ddatblygu gallu ieithyddol staff.

    Cyffredinol

    • Byddwn yn sicrhau bod Gwasanaeth Athrawon Datblygu’r Gymraeg yn cael ei gynnal wrth iddynt weithio'n ddiflino i ddarparu pob agwedd ar gymorth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.
    • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid e.e. tîm Cymraeg i Oedolion, Dysgu Sir Gâr, Partneriaeth, cholegau addysg bellach, Llywodraeth Cymru, yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, ar ddatblygu arweinyddiaeth a sicrhau bod gennym weithlu ysgolion â'r sgiliau dwyieithog addas.
    • Gall Arweinwyr Dysgu a Chymunedau Dysgu Proffesiynol gefnogi'r gwaith yma er mwyn sicrhau cymorth ymarferol i ymarferwyr sy'n addysgu fwyfwy drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig mewn perthynas ag adnoddau ystafell ddosbarth. Gall hyn wedyn arwain at weithio gyda chyhoeddwyr deunyddiau addysgol (e.e. CAA, Peniarth, Telesgop, Theatr mewn Addysg ac asiantaethau allanol) i ddatblygu adnoddau addysgu, apîau ac ati a gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau adnoddau ariannol i ddatblygu'r agwedd hon.
  • 2031-2032

    • Drwy gynllunio strategol byddwn yn cynnig hyfforddiant i'r holl staff ar draws y sector cynradd ac uwchradd ar bob lefel ieithyddol. Mae hyn yn hollbwysig o ran cyflawni ein nodau.
    • Byddwn yn gweithio law yn llaw â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i ddarparu'r cyrsiau Sabothol gan gyfrannu at a chynnig ôl ofalaeth ieithyddol.
    • Bydd y gwasanaeth Cymraeg i Oedolion yn parhau i ddarparu cyrsiau iaith ar bob lefel a bydd y gwasanaeth Athrawon Datblygu’r Gymraeg yn parhau i greu adnoddau i wella addysgu yn y sector cynradd ac uwchradd.
    • Byddwn yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith a manteision addysg Gymraeg /dwyieithrwydd i weithwyr rheng-flaen y Cyngor (adran Derbyniadau Ysgol, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, rhaglenni megis Dechrau’n Deg) ac i weithio gyda’r Bwrdd Iechyd er mwyn darparu’r un hyfforddiant i Fydwragedd ac ymwelwyr iechyd