Strategaeth Ddraft y Rhaglen Moderneiddio Addysg

Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg

Mae adroddiad diweddaraf Estyn a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023 yn nodi'r canlynol mewn perthynas ag amcanion a strategaeth addysgol yr awdurdod:

  • Mae gan yr awdurdod strategaeth glir ar gyfer moderneiddio ac ad-drefnu’i ysgolion sy’n seiliedig ar egwyddorion ac amcanion cadarn. Mae’r strategaeth yn adlewyrchu dyhead yr awdurdod i greu ystod o ysgolion o ansawdd uchel, sy’n diwallu anghenion eu dysgwyr presennol ac yn y dyfodol. Mae cyswllt priodol rhwng amcanion y strategaeth moderneiddio ysgolion, amcanion llesiant y cyngor a chynllun deng mlynedd y gwasanaeth addysg. Mae hyn yn cynnwys y weledigaeth i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd yn ogystal â gwneud eu cymunedau yn rhai sy’n ddiogel ac yn ffyniannus. Mae gan yr awdurdod gynlluniau penodol ar gyfer darparu cyfleusterau cymunedol i leihau effaith tlodi ar gyflawniad disgyblion a phobl ifanc.
  • Mae ymrwymiad uwch arweinwyr yr awdurdod, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Addysg a Gwasanaethau Plant i wireddu’r strategaeth, yn nodwedd gadarnhaol. Maent yn cydweithio’n effeithiol gyda’r tîm moderneiddio ysgolion a rhanddeiliaid eraill i adolygu’r strategaeth er mwyn sicrhau ei bod yn cydblethu ac yn ymateb i ofynion cyfredol yr awdurdod. Er enghraifft, bu iddynt addasu’r strategaeth i gefnogi Cwricwlwm i Gymru, y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA) 2022-32 ynghyd ag ymateb i heriau fel recriwtio arweinwyr ysgol mewn ardaloedd gwledig y sir.
  • Fodd bynnag, mae oedi o ran gwneud penderfyniadau, gan gynnwys yn dilyn ymgynghoriadau ffurfiol, wedi golygu nad yw’r awdurdod wedi mynd i’r afael yn llawn â’u cynlluniau i ad-drefnu a moderneiddio addysg.

Mae'r strategaeth hon wedi'i datblygu i lywio'r gwaith o roi'r RhMA newydd ar waith yn y dyfodol.

Mae'r RhMA yn cael ei harwain gan gyfres o amcanion strategol:

  • Datblygu rhwydwaith o ysgolion sy'n effeithiol yn addysgol ac sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon ac yn gynaliadwy yn y tymor hir.
  • Datblygu patrwm darpariaeth er mwyn i bob lleoliad dysgu hwyluso addysg o ansawdd uchel ar gyfer ei holl ddysgwyr cofrestredig, a hynny naill ai fel sefydliad unigol neu fel rhan o ffederasiwn neu drefniant cydweithredol gyda lleoliadau neu ddarparwyr eraill.
  • Creu amgylchedd ysgol sy'n caniatáu i bob plentyn ym mhob ysgol gyrchu cwricwlwm a chael profiadau addysgu sy'n eu cymell i gyflawni eu llawn botensial, yn ogystal â hwyluso rhaglen o weithgareddau allgyrsiol sy'n hyrwyddo eu lles corfforol ac emosiynol.
  • Datblygu seilwaith ym mhob ysgol sy'n eu galluogi i ddarparu addysg yn yr 21ain ganrif, gan hwyluso'r gwaith o wireddu'r amcanion craidd ar gyfer codi safonau addysgol a chynnal perfformiad o safon uchel.
  • Gweithio'n strategol o ran darparu buddsoddiadau cyfalaf, ac integreiddio hynny â rhaglen i resymoli'r ddarpariaeth ledled y rhwydwaith ysgolion er mwyn cyflenwi'r galw yn effeithiol.
  • Ailadeiladu, ailfodelu, adnewyddu neu foderneiddio'r holl ysgolion sydd i'w cadw yn y tymor hir, er mwyn iddynt gydymffurfio, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, â'r safonau dylunio a fabwysiadwyd.
  • Cyfrannu at gyflawni amcanion polisi ehangach, er enghraifft, adnewyddu ac adfywio cymunedol, ffyrdd iach o fyw ac ati, trwy ddatblygu seilwaith galluogi priodol.
  • Gwella effeithlonrwydd a dichonoldeb addysgol y sector ysgolion trwy leihau nifer y lleoedd gwag i lefel resymol, a hwyluso, lle bo hynny'n ymarferol, y dewisiadau a fynegir gan rieni ac ymateb yn effeithiol i newidiadau demograffig.
  • Datblygu seilwaith ysgolion sy'n gwbl hygyrch i bawb ac sy'n galluogi pob dysgwr i gyrchu addysg o ansawdd uchel, beth bynnag yw ei anghenion unigol.
  • Datblygu atebion unigol a chydweithredol ar gyfer ysgolion sy'n cyfrannu at y system addysg gyfun ledled y sir.

I hwyluso'r gwaith o drawsnewid y rhwydwaith ysgolion yn y dyfodol, mae cyfres o egwyddorion wedi'u datblygu a fydd yn feincnod ar gyfer yr hyn y dylai fod gan bob ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin, fel gofyniad sylfaenol.

 

Egwyddorion Addysg Gynradd Sir Gaerfyrddin

  • Bydd arweinyddiaeth gynaliadwy, gydag arweinwyr sy'n rhydd i arwain a rheoli, heb unrhyw ymrwymiad addysgu parhaol.
  • Ni fydd mwy na 2 grŵp blwyddyn ym mhob dosbarth addysgu
  • Bydd digon o ddisgyblion i gynnal y trefniadau strwythurol uchod.
  • Bydd ysgolion yn hyfyw yn ariannol o dan fframwaith ariannu Rheoli Ysgolion yn Lleol ac yn gallu gweithredu yn y tymor hir heb ddiffyg cyllidebol.
  • Bydd mynediad at gyfleusterau addysgu awyr agored addas i wella dysgu a chefnogi lles corfforol ar draws yr ysgol.
  • Byddant yn gwbl gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.
  • Bydd ganddynt gyfleusterau modern sy'n cefnogi dysgu digidol.
  • Bydd ganddynt amgylchedd dysgu o safon uchel i gefnogi llesiant yr holl ddysgwyr a gwella cynnydd a chyflawniadau'r dysgwyr ar draws ystod eang o sgiliau a meysydd cwricwlwm.

Rhaid nodi:

  • Fel rhan o unrhyw adolygiad, byddwn yn ystyried sut y gallwn wireddu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a gwella addysg cyfrwng Cymraeg.
  • Os penderfynir cau ysgol cyfrwng Cymraeg, byddwn yn hwyluso ac yn cefnogi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg arall.

Mae nodau strategol ac amcanion/buddion y RhMA wedi'u cynllunio i hyrwyddo ac ategu amrywiaeth o ddisgwyliadau, ochr yn ochr â'r Egwyddorion Addysgol, ac maent yn seiliedig ar chwe thema allweddol:

 

 

Thema Amcan/Buddion
Hyfywedd Datblygu rhwydwaith o ysgolion sy'n gynaliadwy yn addysgol ac sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon yn y tymor hir yn unol ag egwyddorion addysgol Sir Gaerfyrddin.
Strategol Darparu dull strategol o ran buddsoddiadau cyfalaf, ac integreiddio hynny â rhaglen i resymoli'r ddarpariaeth ledled y rhwydwaith ysgolion er mwyn cyflenwi'r galw yn effeithiol drwy ad-drefnu neu ffedereiddio ysgolio.
Modern

Darparu seilwaith a chyfleusterau ar gyfer yr 21ain ganrif ym mhob ysgol mewn amgylcheddau dysgu gwell sydd â:

  • Cyfleusterau wedi'u huwchraddio
  • Gwell diogelwch
  • Seilwaith hygyrch
  • Datblygiadau technolegol

Bydd y rhain yn cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion craidd ar gyfer codi safonau addysgol a sicrhau eu bod yn parhau ar lefelau uchel yn unol â dyheadau'r Awdurdod Lleol.

Equity

Cyfrannu at gyflawni amcanion polisi a sector craidd megis:

  • Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
  • Tlodi
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Y Cwricwlwm Newydd
  • Cyfnod Sylfaen
  • Cyfnodau Allweddol 2, 3 a 4.
  • Ôl-16 (CA5)
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) (gan gynnwys Diwygio ADY)
  • Anghenion Ymddygiad
  • Galwedigaethol
Cymuned Creu amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y gymuned a sicrhau ffyniant i bawb drwy gyfleusterau y gall yr ysgol a'r cymunedau cyfagos eu rhannu, gan gyfrannu at ddatblygiad personol, iechyd, economaidd a chymunedol.
Cydlyniant

Cyfrannu at gyflawni amcanion polisi ehangach megis:

  • Teithio Llesol
  • Darpariaeth Chwaraeon a Chwarae yn yr Awyr Agored
  • Gofal Plant a Gofal Cofleidiol
  • Byw'n Iach
Cynaliadwyedd Ailadeiladu, ailfodelu, adnewyddu neu foderneiddio pob lleoliad ysgol sydd i'w gadw yn y tymor hir, er mwyn iddynt gydymffurfio â safonau dylunio'r 21ain ganrif i sicrhau bod pob adeilad yn cael yr effaith amgylcheddol leiaf er mwyn cyflawni amcan yr Awdurdod Lleol o fod yn garbon sero net erbyn 2030.