Strategaeth Ddraft y Rhaglen Moderneiddio Addysg

Alinio Strategol (Yr Edau Euraidd)

Fel y nodwyd eisoes, mae datblygiad y RhMA yn seiliedig ar egwyddor dull cyfannol a'r gofyniad i wella a chefnogi ystod o amcanion cenedlaethol, corfforaethol ac addysgol. Mae datblygiad y RhMA yn cyd-fynd â dogfennau a pholisïau cenedlaethol a lleol allweddol fel yr amlinellir isod:

Cenedlaethol

  • Cymraeg 2050
  • Cwricwlwm i Gymru
  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
  • Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Lleol

  • Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027
  • Gweledigaeth y Cabinet 2022-2027
  • Addysg Sir Gâr 2022-2032
  • Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032
  • Carbon Sero Net/Argyfwng Hinsawdd
  • Cynllun Ariannol Tymor Canolig

 

Mae gan y Rhaglen Moderneiddio Addysg ran amlwg yn Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 y Cyngor sy'n pennu’r cyfeiriad i’r awdurdod lleol dros y pum mlynedd nesaf, gan ymgorffori ein nodau gwella a llesiant fel y’u diffinnir gan ddeddfwriaeth:

Amcan Llesiant 1- Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda).

Yn y dyfodol bydd y Gwasanaethau Addysg yn canolbwyntio ar gynorthwyo dysgwyr i ddod:

  • Yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  • Yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
  • Yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.

Mae gan y Rhaglen Moderneiddio Addysg rôl sylweddol i'w chwarae yn Natganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022-2027.

Mae Gweledigaeth y Cabinet ar gyfer Addysg yn amlinellu ystod o ymrwymiadau y byddant yn gweithio tuag at eu cyflawni yn ystod y weinyddiaeth hon. Mae'r ymrwymiadau hyn yn cynnwys:

  • Parhau i fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion ar draws y sir ac ailwampio Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Sir Gaerfyrddin i ddiwallu anghenion yr 21ain ganrif. Sicrhau bod pob ysgol newydd yn bodloni'r safonau gofynnol o ran inswleiddio ac awyru er mwyn lleihau biliau ynni a bod yn fwy cydnaws â'r amgylchedd.
  • Ceisio sicrhau bod mwy o leoliadau addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gael ledled y sir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig; gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ardal.
  • Parhau i sicrhau bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu cefnogi'n llawn i gyflawni eu potensial yn unol â Diwygio ADY.
  • Gweithio ochr yn ochr ag ysgolion i gynyddu cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion a gwella mynediad i addysg ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed.
  • Cynyddu'r defnydd o gyfleusterau ysgol sydd i'w defnyddio gan y gymuned y tu allan i oriau addysgu.
  • Gweithio gydag ysgolion i gyflwyno cwricwlwm llawn a chyflawn sy'n anelu at godi safonau addysgol a sicrhau bod disgyblion yn deall ac yn dathlu eu hanes, eu daearyddiaeth a'u diwylliant lleol.
  • Yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru, darparu prydau ysgol am ddim, sy'n faethlon ac o ansawdd uchel, i bob disgybl ysgol gynradd, dros oes y weinyddiaeth.
  • Cefnogi'r gwaith o ddarparu cyfleoedd i drigolion y sir gymryd rhan mewn dysgu hanfodol mewn sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol, yn unol â chyllid cyfredol Llywodraeth Cymru. Galluogi dysgwyr ôl-16 i wella eu sgiliau ar gyfer cyflogaeth a dilyniant, yn ogystal â dysgu gydol oes a budd i'r gymuned a chynnig amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel i ddysgwyr yn yr 21ain ganrif.
  • Sicrhau bod safon y dysgu a'r addysgu yn ein hysgolion o ansawdd uchel i gynorthwyo ein dysgwyr i wneud cynnydd priodol.
  • Yn unol â rhaglen Llywodraeth Cymru, sicrhau bod mwy o addysg ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg ar gael yn ein hysgolion, ar ôl ymgynghori'n drylwyr â rhieni, cyrff llywodraethu ysgolion, dysgwyr a'r gymuned leol.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried effeithiolrwydd dyfeisiau awyru gwrth-covid mewn ysgolion.

I ategu gweledigaeth y Cabinet, mae'r Adran Addysg a Phlant wedi datblygu Gweledigaeth a Phwrpas Moesol Cyfunol:

Byddwn yn cefnogi holl ddysgwyr Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn sicrhau eu bod yn hapus, yn ddiogel ac yn ffynnu, a'u bod yn cyflawni eu potensial personol a chymdeithasol a'u potensial o ran dysgu. Byddwn yn ymdrechu i fod y gorau y gallwn fod ac yn uchel ein parch yn lleol, yn ogystal ag ennill cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.'

Pwrpas Moesol
Sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei werthfawrogi a'i werthfawrogi'n gyfartal.

Yn Sir Gaerfyrddin rydym yn ymdrechu i roi'r profiad addysg gorau posibl i'n dysgwyr. Mae strategaeth Addysg Sir Gâr 2022-2032 yn nodi gweledigaeth glir ar y cyd ar gyfer y rôl y mae gwasanaethau addysg yn ei chwarae o ran datblygu cymunedau bywiog ac economi lewyrchus yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.

 

Ein deilliannau a ddymunir 2022-2032

Rydym yn ymdrechu i ddatblygu'r plentyn/person ifanc cyfan gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer y cam nesaf yn eu llwybr dysgu neu yrfa ddysgu.

Rydym yn ceisio cyflawni hyn ar adeg pryd mae galw cynyddol am ein hadnoddau a mwy o ffocws ar wella deilliannau a chyrhaeddiad. Yn y pen draw, rydym am sicrhau bod ein dysgwyr wedi'u haddysgu'n dda, yn wybodus ac yn meddu ar gymwysterau da.

Fel adran mae gennym flaenoriaethau clir sy'n canolbwyntio ar bedair thema allweddol, sydd ynghlwm wrth Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol. Byddwn yn cyflawni ein deilliannau a ddymunir drwy wireddu ein 'darnau diben' a delfrydau'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Dysgwyr Sir Gaerfyrddin-

  • Yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  • Yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • Yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
  • Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.

 

Darnau Diben

Byddwn yn cyflawni ein deilliannau a ddymunir drwy wireddu ein 'darnau diben'.

Darnau Diben

Darnau diben

  1. Byddwn yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, gan wella eu profiadau bywyd cynnar a sicrhau eu bod yn byw bywydau iach. Byddwn yn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed ac yn gweithio i sicrhau eu lles emosiynol a chorfforol.
  2. Byddwn yn cefnogi pob dysgwr wrth i ni adeiladu ar yr hyn y maent wedi'i ddysgu ac yn gwella eu cynnydd a chyflawniad. Byddwn yn   sicrhau canlyniadau priodol i BOB dysgwr  a  PHOB aelod o staff o fewn y system.
  3. Byddwn yn sicrhau bod gan ein plant a'n pobl ifanc y sgiliau cywir i lwyddo ac i gyflawni eu huchelgeisiau. Byddwn yn datblygu sgiliau dysgwyr ymhellach gan gynnwys creadigrwydd, arloesedd, entrepreneuriaeth, annibyniaeth, gwydnwch a dyfalbarhad.
  4. Byddwn yn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc drwy fynd i'r afael â bylchau o ran cyfleoedd a chyflawniad.
  5. Byddwn yn sicrhau bod pob person ifanc mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant a'u bod yn dilyn llwybrau dysgu a gyrfa cynhyrchiol.
  6. Byddwn yn datblygu cwricwlwm diddorol a phwrpasol a fydd yn cefnogi dysgwyr i wireddu eu potensial gan sicrhau eu bod yn cael eu 'Haddysgu'n Dda, yn Wybodus ac yn ennill Cymwysterau addas' sy’n eu galluogi i ddod yn ddinasyddion byd-eang effeithiol.
  7. Byddwn yn datblygu 'cwricwlwm lleol' sy'n adlewyrchu hanes, daeryddiaeth a diwylliant unigryw Sir Gâr.
  8. Byddwn yn hyrwyddo'r Gymraeg ac yn ymfalchïo yn nhreftadaeth a diwylliant unigryw Sir Gaerfyrddin.
  9. Byddwn yn sicrhau bod ein dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o a pharch at amrywiaeth a chydraddoldeb.
  10. Byddwn yn diogelu ac yn adfer yr amgylchedd ac yn newid ein ffyrdd o fyw er mwyn diogelu'r amgylchedd yn awr ac ar gyfer y dyfodol gan sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn datblygu gwerthfawrogiad o'u cymuned a'u hamgylchedd.
  11. Byddwn yn gwerthfawrogi cyflawniad ein dysgwyr ac yn dathlu eu llwyddiant.
  12. Byddwn yn gweithio fel UN TȊM er lles ein plant, pobl ifanc a theuluoedd
  13. Byddwn yn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc drwy recriwtio, datblygu, cadw a gwerthfawrogi'r arweinwyr, athrawon a staff cymorth gorau. Byddwn yn parchu ac yn cydnabod ein holl staff ac yn ymrwymo i sicrhau eu lles.
  14. Byddwn yn sicrhau bod llais y dysgwr yn ganolog i'n penderfyniadau a bod Hawliau'r Plentyn yn cael eu hyrwyddo a'u cyflawni.
  15. Byddwn yn cynnig safonau uchel o addysg ddwyieithog, yn gynyddol mewn amgylcheddau modern sydd â'r adnoddau llawn ar gyfer dysgu yn yr 21ain ganrif gan ddefnyddio technoleg i gefnogi addysgu a dysgu a gwella gwasanaethau.
  16. Byddwn yn datblygu fel sefydliad sy'n dysgu er budd ein plant, ein pobl ifanc a'n staff.
  17. Byddwn yn cynnwys plant a phobl ifanc yn y gwaith o gynllunio a monitro ein gwasanaethau.
  18. Byddwn yn datblygu ac yn cryfhau gweithio mewn partneriaeth ymhellach gydag adrannau ac asiantaethau eraill.
  19. Byddwn yn adnabod ein gwasanaethau'n dda a sicrhau newid a gwelliant cadarnhaol parhaus
  20. Bydd ein gwasanaethau, boed yn cael eu darparu'n uniongyrchol neu wedi'u comisiynu gan eraill, yn deg, yn gynhwysol, yn anelu at ragoriaeth ac yn cynnig gwerth da am arian.

Mae dyheadau Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027, Gweledigaeth y Cabinet 2022-2027, Addysg Sir Gâr 2022-2032 ac adborth yn sgil ymgysylltu â phenaethiaid Sir Gaerfyrddin wedi'u crynhoi yn 8 Blaenoriaeth Addysg yr adran ar gyfer 2022-2025:

Cynhwysiant ac Ymgysylltu - Sicrhau system addysg ragweithiol,gynhwysol.

Dysgu ac Addysgu - Sicrhau cynnydd ardderchog i bob dysgwr.

Diogelu'n Dysgwyr - Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn hapus, yn ddiogel ac yn ffynnu, gan oresgyn tlodi.

Llesiant - Meithrin iechyd meddwl a chorfforol da iawn i bawb.

Arweinyddiaeth - Sicrhau bod Arweinyddddiaeth ysbrydoledig yn arwain at gynnydd rhagorol i bob dysgwr.

Cymunedau Cynaladwy - Cyflwyno safonau uchel o addysg mewn amgylcheddau cynyddol fodern a chynaliadwy.

Y Gymraeg - Sicrhau datblygiad dwyieithog ac amilieithog llwyddiannus i bawb.

Gweithrediadau Adrannol - Darparu gwasanaethau cefnogi o ansawdd uchel sy'n cael effaith ar effeithlonrwydd y system addysg.

Mae Grŵp Ffocws Strategol ar gyfer pob un o'r blaenoriaethau uchod i yrru pob blaenoriaeth yn ei blaen a'i chyflawni. Mae Grwpiau Ffocws Strategol yn cynnwys swyddogion yr Awdurdod Lleol a phenaethiaid ysgol ac maent yn darparu cyfleoedd pwysig i wella materion allweddol i'r system addysg mewn modd strategol, yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

Mae'r Rhaglen Moderneiddio Addysg yn rhan o'r Grŵp Ffocws Strategol Cymunedau Cynaliadwy ac mae'n cefnogi'r cyfeiriad strategol i gyflawni blaenoriaethau'r Adran Addysg ac yn benodol y nod i: Darparu addysg o safonau uchel mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y gymuned sy'n fwyfwy modern a chynaliadwy.