Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027

Cyflwyniad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin

Yn ein Datganiad o Weledigaeth Cabinet, rydym wedi nodi amrywiaeth o ymrwymiadau y byddwn yn gweithio tuag at eu cyflawni yn ystod y weinyddiaeth hon tan 2027.

Rydym wedi nodi’r rhain gyda’r bwriad o fynd i’r afael â’r heriau allweddol a’r meysydd datblygu sy’n wynebu Sir Gaerfyrddin ond gyda golwg yn y tymor hir ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol trigolion a chymunedau Sir Gaerfyrddin.

Byddwn yn sicrhau ein bod yn gwreiddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy ym mhopeth a wnawn drwy wneud yn siŵr ein bod yn gweithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Rydym wedi gosod datganiad gweledigaeth ar gyfer y Cyngor ond o ystyried y pwysau a’r heriau allanol niferus sy’n ein hwynebu fel poblogaeth ac fel sefydliadau dros y
blynyddoedd nesaf mae’n rhaid i ni fod yn realistig o ran yr hyn y gellir ei gyflawni. Bydd yn rhaid i ni adolygu ac asesu’n barhaus beth ac ymhle y mae angen i ni fuddsoddi a blaenoriaethu ein hymyriadau yn y dyfodol, a sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael i ni.

Mae’r Strategaeth Gorfforaethol hon yn darparu’r fframwaith ar gyfer cyflawni’r ymrwymiadau hynny a amlinellwyd yn Natganiad Gweledigaeth y Cabinet a bydd cynlluniau cyflawni manwl, a gaiff eu monitro a’u hadolygu’n rheolaidd, yn nodi’r union gamau y byddwn yn eu cymryd fel Cyngor i wneud cynnydd yn erbyn ein hamcanion.

Mae’r Strategaeth hon a’r cynlluniau cyflawni manwl wedi’u datblygu gan roi sylw i adborth a ddaeth i law drwy ymgynghori â’n trigolion, staff, busnesau ac undebau llafur yn ystod haf 2022.

Mae’r math hwn o ymgysylltu â rhanddeiliaid a’u cynnwys yn y gwaith yn rhywbeth y byddaf yn sicrhau bod y Cyngor yn datblygu ac yn ymgorffori ymhellach ar draws ein dulliau cynllunio gwasanaethau. Byddaf hefyd yn sicrhau ein bod yn rhoi adborth rheolaidd i’n rhanddeiliaid fel eich bod yn gwybod beth wnaethon ni ar ôl cael eich adborth.

Mae llywodraeth leol wedi wynebu cyfnod heriol wrth orfod addasu yn ei hymateb i’r pandemig. Mae llawer o wersi i’w dysgu o’r profiad hwnnw ac arfer da y mae angen ei wreiddio. Fodd bynnag, rydym ar ddechrau cyfnod arall o ansicrwydd dros y blynyddoedd nesaf a fydd yr un mor heriol.

Rydym yn cydnabod yn llawn y costau byw cynyddol sy’n wynebu ein trigolion ac rydym am sicrhau bod y Cyngor yn gallu darparu
cefnogaeth ble bynnag y gallwn.

Mae’r Cyngor ei hun hefyd yn wynebu pwysau cyllidebol aruthrol, nad ydym wedi gweld ei debyg o’r blaen mewn gwasanaethau cyhoeddus, felly, mae’n debygol y bydd
angen newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Rhaid inni a byddwn yn ymateb i’r her hon eto, gan sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi trigolion, busnesau a chymunedau Sir Gaerfyrddin.

Fel Cabinet byddwn yn cymryd cyfrifoldeb ar y cyd ac yn unigol am sicrhau cynnydd yn erbyn yr amcanion llesiant, y blaenoriaethau thematig a’r blaenoriaethau gwasanaeth a amlinellir yn y Strategaeth Gorfforaethol hon a bydd portffolios aelodau’r Cabinet yn canolbwyntio ar feysydd allweddol.

Rydym wedi nodi’r meysydd allweddol o ddatgarboneiddio, yr argyfyngau hinsawdd a natur, a’r Gymraeg fel blaenoriaethau thematig ac, ynghyd â ffocws ar gydraddoldeb, byddwn ni’n sicrhau bod y meysydd allweddol hyn yn ganolog ym mhopeth a wnawn.