Coetiroedd

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/11/2023

Mae coetiroedd a choedwigoedd yn ymestyn dros fwy nag un rhan o saith o dir Sir Gaerfyrddin. Os oes gennych goetir mewn golwg, fel rheol byddwch yn gweld ei fod yn perthyn i un o ddau fath cwbl wahanol. Mae gan y ddau fath o goetiroedd fathau gwahanol o goed, defnyddiau gwahanol a hanes gwahanol. Bellach planhigfeydd conwydd (ac yn achlysurol coed llydanddail estron megis deri coch) yw rhyw 70% o dir coediog y sir. Mae'r rhan fwyaf o'r coetiroedd hyn wedi eu plannu ers 1940. Maent yn ymestyn dros ardaloedd anferth yn yr ucheldiroedd, maent yn tyfu yn lle coetiroedd brodorol ar hyd llethrau rhai dyffrynnoedd, ac maent wedi eu plannu ar diroedd diwydiannol a adferwyd.

Sbriws Sitka yw mwy na hanner y coed. Ymhlith y gweddill y mae sbriws Norwy (y goeden Nadolig draddodiadol), llarwydd, pinwydd a ffynidwydd Douglas. Mae mwy na hanner y coetiroedd hyn yn eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru ac yn cael eu rheoli gan y corff hwnnw ar ran Llywodraeth Cymru.

Coetiroedd brodorol yw'r 30% sy'n weddill. Mae’r rhain hwnt ac yma ledled y sir, ac yn aml maent ar dir oedd yn rhy anodd neu'n rhy wael i’w glirio ar gyfer amaethyddiaeth. Mae llawer o'r coetiroedd brodorol hyn yn weddillion y goedwig lydanddail frodorol oedd yn ymestyn dros ran helaeth o dir Cymru ar un adeg. Derw yw'r coed mwyaf cyffredin, ynghyd ag ynn, ffawydd, masarn, bedw a gwern. Mae'r ywen, sef yr unig gonwydden frodorol yn Sir Gaerfyrddin, yn tyfu'n wyllt mewn dyrnaid o goetiroedd. Eiddo preifat yw'r rhan fwyaf o'r coetiroedd brodorol, y mae llawer ohonynt yn eiddo i ffermwyr. Yn fynych maent yn goetiroedd bychain, sy'n ymestyn dros ychydig hectarau'n unig. Yn y gorffennol byddai llawer o'r coetiroedd hyn yn cael eu rheoli er mwyn cael amrywiaeth o gynhyrchion.

Hefyd mae coetiroedd a choedwigoedd yn llefydd gwerthfawr at ddibenion hamdden ac addysg, ac yn rhan bwysig o dirwedd Sir Gaerfyrddin. Maent yn creu swyddi a hefyd, drwy amsugno a storio carbon deuocsid, yn chwarae eu rhan wrth frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Yn draddodiadol yr arferiad oedd rheoli coetiroedd conwydd a choetiroedd llydanddail mewn modd gwahanol.

Fel rheol mae coedwigoedd conwydd yn cael eu plannu, yn cael tyfu am rhwng 40 a 60 mlynedd, yn cael eu llwyrgwympo, ac yna'n cael eu hailblannu. Bu cynnydd anferth o ran y math hwn o goetiroedd yn yr ugeinfed ganrif yn sgil y prinder coed yn ystod y ddau ryfel byd. Bellach defnyddir y rhan fwyaf o'r pren o’r coedwigoedd hyn (yn aml gelwir pren o goedwigoedd conwydd yn bren meddal) i wneud sglodfyrddau, papur a chardbord, a chan fusnesau lleol i gynhyrchu pren wedi ei lifio, pyst ffensio, a chynhyrchion eraill. Er bod y coedwigoedd hyn wedi eu plannu'n wreiddiol i gael pren, mae llawer ohonynt yn cael eu rheoli bellach at ddibenion hamdden a bywyd gwyllt hefyd.

Mae ein coetiroedd llydanddail brodorol wedi bod yn elfen bwysig o'r economi leol ers cannoedd o flynyddoedd. Roedd y coetiroedd hyn yn ffynhonnell pren ar gyfer adeiladu, defnyddiau ar gyfer crefftwr, golosg ar gyfer mwyndoddi, rhisgl deri ar gyfer trin lledr, coed tân, a llawer llawer rhagor. Bellach mae'r rhan fwyaf o'r coetiroedd llydanddail wedi colli'r swyddogaeth honno, ac yn fynych mae llawer ohonynt wedi cael eu hesgeuluso ers blynyddoedd lawer. Yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif cafodd llawer o'r coetiroedd hyn eu cwympo, ac yna cafodd y tir ei glirio at ddibenion amaethu, neu ei ailblannu â chonwydd, neu ei adael gan olygu bod y coed yn aildyfu heb reolaeth o'r bonion neu o had. Ers y 1980au mae mentrau megis Coed Cymru ac amrywiaeth o grantiau gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru (sydd bellach yn rhan o Gyfoeth Naturiol Cymru) wedi cymell llawer o berchenogion coetiroedd i reoli eu coetiroedd brodorol. Erbyn hyn mae rhai o'r coetiroedd a gwympwyd yn ystod y ganrif ddiwethaf, a hynny er mwyn plannu conwydd ar y tir, yn cael eu hadfer yn goetiroedd brodorol.

Mae rheoli coetiroedd yn gallu bod o fudd i fioamrywiaeth. Trwy deneuo'r coed mae coed mwy o faint yn tyfu'n gynt - mae hyn yn helpu i reoli'r amrywiaeth o rywogaethau coed sydd yn y coetir a hefyd yn sicrhau bod rhagor o olau yn treiddio trwy'r coed, sy'n fuddiol i blanhigion y goedwig ac i goed ifanc. Mae bondocio yn agor llennyrch dros dro yn y coetir gan greu cynefin da i adar, glöynnod byw, a mathau eraill o fywyd gwyllt. Mae angen rheolaeth ofalus ar y cynefinoedd hyn. Os oes angen creu llwybrau newydd mae'n rhaid gofalu y byddant yn cael eu lleoli yn y mannau lleiaf niweidiol. Mae'n rhaid sicrhau, bob cyfle posibl, fod hen goed sydd wedi gwywo neu sy'n gwywo yn cael eu cadw - gan eu bod yn hollbwysig i gnocellod, chwilod a mathau eraill o fywyd gwyllt y goedwig. Yn fynych y coetir gorau yw'r un sy'n cynnwys tipyn bach o bopeth - coed o bob oedran, gan amrywio o blanhigion sydd newydd egino i goed hynafol, digon o amrywiaeth o rywogaethau, llecynnau llaith, llecynnau tywyll, llecynnau heulog, gweiriau, mieri, blodau'r gwanwyn, bencydd sychion, bencydd caregog, a bencydd mwsoglyd.

Mae cynllun Rheoli Coetiroedd Glastir yn rhoi grantiau ar gyfer rheoli coetiroedd.

Mae cyfanswm y coetiroedd yn Sir Gaerfyrddin yn cynyddu'n raddol wrth i bobl blannu coetiroedd newydd, a hynny â choed brodorol yn bennaf. O'i adael heb ei ffermio gall tir amaethyddol droi'n goetir. Yn fynych coed a llwyni megis bedw, helyg, drain duon, drain gwynion ac eithin sy'n ymddangos gyntaf. Mae'n bosibl y bydd yn rhaid aros am ddegawdau lawer cyn i goetir iawn ymffurfio ond mae'r prysglwyni sy'n bod yn y cyfamser yn gallu bod yn gynefin cyfoethog i fywyd gwyllt. Mae coetiroedd newydd sy'n ddolen gyswllt rhwng coetiroedd brodorol presennol ac sy'n helaethu'r coetiroedd hynny yn rhai pwysig iawn.

Darperir grantiau ar gyfer plannu coetiroedd newydd gan gynllun Creu Coetiroedd Glastir.

Derw
Mae derw'n ymateb yn dda iawn i gael eu teneuo, ac mae derwen yn datblygu corun os nad yw yng nghysgod coed eraill. Mae'r ddwy rywogaeth o goed derw yn dechrau cynhyrchu had yn 35-50 oed, a gall derw a fondociwyd gynhyrchu mes ryw 20 mlynedd yn ddiweddarach. Mae'r coed ar eu mwyaf cynhyrchiol o ran hadu yn 80-120 oed, ond mae hynny'n dibynnu hefyd ar y safle a'r hinsawdd. Nid yw'r coed yn gyforiog o had bob blwyddyn - yn hytrach maent yn gynhyrchiol iawn bob 3-4 blynedd yn achos derw coesynnog, a phob 4-5 blynedd yn achos derw digoes. Yn fynych cynhyrchir llawer llai o had, neu ddim o gwbl, yn ystod y blynyddoedd yn y cyfamser.


Ynn
Fel sy'n wir am y dderwen, mae rhew yn gallu peri niwed i'r onnen ac mae arni angen llawer o olau. Mae'n aildyfu'n gryf, mae'n ymateb yn ffafriol i fondocio ac mae'n tyfu'n hwylus yn gymysg â derw, ffawydd a sycamorwydd.

Mae ynn yn tyfu'n gyflym iawn - mae'r twf ar ei gryfaf pan fydd y goeden yn 20-25 oed, gan sefydlogi erbyn 40-45 oed ac yna'n arafu'n llwyr erbyn 60 oed ac ar ôl hynny. Mae patrwm tebyg o ran cynhyrchu had, gan fod y cnwd da cyntaf o hadau adeiniog yn ymddangos ar ôl tua 25-30 o flynyddoedd ac mae'r cnwd yn cyrraedd ei anterth pan fydd y goeden rhwng 40 a 60 oed. Mae nifer yr had a gynhyrchir yn eithaf cyson o flwyddyn i flwyddyn gan nad oes patrwm cylch. Gall eginblanhigion ynn oddef rhywfaint o gysgod, ond mae angen tipyn o olau oddi fry ynghyd â chysgod o bob ochr ar goeden ar ei phrifiant. Yn wahanol i'r dderwen nid yw'r onnen yn ymateb yn dda i deneuo os yw'r corun wedi ei fygu gan goed eraill. Mae rhew yn gallu achosi niwed i ynn, gan beri fforchio mewn coeden ynghyd â chancr bacteriol sy'n niweidio'r bôn.

Yn 2012 darganfuwyd yr afiechyd Chalara fraxinea ar ynn oedd wedi eu plannu'n ddiweddar ger Caerfyrddin. Erbyn hyn daethpwyd o hyd i'r afiechyd ffwngaidd ar goed llawn dwf ger Glanyfferi. Mae'n debygol y bydd yr afiechyd yn effeithio ar lawer iawn o'n coed ynn yn y pen draw.


Bedw
Ymddengys bod bedw llwyd, sy'n fwy araf eu twf, yn fwy addas i bridd mawnog a llaith ucheldir Cymru. Gan fod bedw'n wydn iawn maent yn gallu gwrthsefyll tywydd hynod o oer. Mae presenoldeb bedw yn gwella'r pridd ac ar ôl i'r dail ddisgyn a phydru yn y pridd maent yn lleihau asidrwydd y pridd. Gellir bondocio coed ifanc yn ddidrafferth, ac fel arfer maent yn adfywhau ar ôl cael eu difrodi gan dân drwy fod blagur newydd yn tyfu o waelod y boncyff.

Gall coed ifanc gael eu difrodi gan dda byw, ceirw a mamaliaid bychain. Mae bedw'n cynhyrchu llawer iawn o hadau yn ifanc iawn. Gan fod yr had yn ysgafn ac yn cael eu cludo gan y gwynt, maent yn egino'n ddidrafferth ar safleoedd heb lystyfiant. Ond mae'n frwydr pan fo llystyfiant yno'n barod, ac eithrio yn achos grug. Rhywogaeth gyflym ei thwf heb oes faith yw'r fedwen. Tyf yn gyflym am yr 20 mlynedd cyntaf gan gyrraedd ei hanterth yn 40-50 oed ac yna arafu a gwywo ar ôl 60-80 o flynyddoedd. Mae tuedd i fedw deneuo ohonynt eu hunain mewn llecynnau lle nad oes dim ond bedw, ond nid yw bedw'n ymateb yn dda i waith teneuo ar ôl i gorun y coed gau.


Ffawydd
Yn fynych cysylltir ffawydd â phridd alcalïaidd, ond maent yn gallu goddef amrywiaeth eang o briddoedd a safleoedd. Mae ffawydd yn aildyfu'n ddidrafferth o dan ganopïau coed eraill, ac yn aml tyf coed ifanc mewn grwpiau trwchus a hynny'n araf iawn os yw'r golau'n brin ac os oes tipyn o gystadlu am y maetholion sydd ar gael. Os yw'r canopi'n gaeedig prin yw'r had a gynhyrchir.

Gan amlaf mae'n rhaid aros tua 60 mlynedd cyn i goeden ddechrau cynhyrchu had, er bod hynny'n digwydd ynghynt yn achos coed sy'n tyfu mewn man agored. Mae coeden ar ei mwyaf cynhyrchiol o ran had yn 80-140 oed ac mae'n bosibl y bydd yn dal ati i gynhyrchu had hyd nes ei bod yn 200 oed. Mae blynyddoedd cynhyrchiol iawn yn digwydd bob rhyw 5-15 mlynedd, a'r dybiaeth yw eu bod yn digwydd ar ôl hafau sych a chynnes. Gan fod arni angen cael ei chysgodi gan goed eraill, a chan fod rhew yn gallu peri niwed iddi, nid yw'r ffawydden yn rhywogaeth ddelfrydol i'w phlannu mewn man agored. Mae'n well fel cnwd isdyfiant. Cyhyd â bod y corun yn ddigon mawr i aildyfu mae ffawydd yn ymateb yn dda i waith teneuo. Gan fod ffawydd ifanc yn tueddu i gadw eu dail yn y gaeaf, a chan eu bod yn goddef cysgod a gwynt, mae'n rhywogaeth ddelfrydol pan fo angen creu cysgod rhag gwynt. Y cyngor yw peidio â phlannu niferoedd mawr o ffawydd gan fod amrywiaeth o afiechydon ffwngaidd a bacteriol yn gallu effeithio arnynt. Gan eu bod yn hoffi'r rhisgl, yn fynych mae gwiwerod llwyd yn gwneud difrod i ffawydd - mae hyn yn gallu rhoi bod i wendidau difrifol yn y pren ac agor clwyfau lle mae bacteria a ffyngau'n gallu tyfu.


Sycamorwydd
Er bod sycamorwydd yn gallu tyfu ar amrywiaeth o briddoedd, mae'n well gan sycamorwydden dyfu ar bridd dwfn sydd â draeniad da a hynny dros briddgalch neu galchfaen, neu ar bridd brown asidaidd.

Mae sycamorwydd yn weddol dueddol i gael niwed gan rew. Ar ôl cael eu bondocio mae sycamorwydd yn aildyfu'n hwylus, gan dyfu'n gyflym iawn yn ystod y 25 mlynedd cyntaf. Yn fynych gwelir sycamorwydd yn gymysg â choed ceirios du, ffawydd ac ynn, neu fel coed unigol. Mae sycamorwydd yn ymateb yn dda i waith teneuo rheolaidd er mwyn cadw'r corun yn ddwfn ac er mwyn hybu twf cryf. Mae sycamorwydd yn fwy hirhoedlog na mathau eraill o fasarn, gan gyrraedd eu hanterth yn rhyw 75+ oed ac yna byw ymhell dros ganrif. Gall gwiwerod llwyd ymosod ar y rhisgl gan beri niwed i'r goeden a'i phren, a gall y difrod fod yn sylweddol os na reolir hynny. Gan fod tuedd i ymledu gan sycamorwydd ifanc, gan fygu coed ifanc eraill, yn enwedig derw, a chan fod coed sydd wedi cyrraedd eu llawn dwf yn bwrw cysgod trwchus sy'n llesteirio twf planhigion ar y ddaear, ni ddylid plannu masarn mewn coetiroedd llydanddail brodorol lle nad ydynt yn bresennol eisoes.


Gwern
Mae gwern yn goed defnyddiol i'w tyfu ochr yn ochr â derw ar bridd trwm. Mae'r wernen yn ymateb yn dda i waith bondocio, yn gwrthsefyll rhew, yn gwreiddio'n ddwfn, ac yn gadarn mewn gwyntoedd cryfion. Oherwydd y nodweddion hyn mae'n goeden ddefnyddiol pan fo angen creu cysgod rhag y gwynt, yn enwedig gan nad yw at ddant anifeiliaid sy'n pori.

Mae ar eginblanhigion gwern angen lleithder i dyfu, felly dim ond mewn llecynnau sy'n llaith drwy'r gwanwyn a'r haf y mae gwern yn aildyfu'n llwyddiannus. Mae gwern yn tyfu'n gyflym am yr 20 mlynedd cyntaf gan gyrraedd eu llawn dwf ar ôl rhyw 30-40 o flynyddoedd. Nid oes braidd dim twf ar ôl 60 oed. O'u plannu mae gwern yn tyfu'n dda ar safleoedd mwy sych.


Coed Ceirios Duon
Yn y gwyllt mae coed ceirios duon yn tyfu o had a thrwy fod crachgoed yn mynd ar led o goeden sydd wedi cyrraedd ei llawn dwf. Mae'r coed hyn yn tyfu'n gyflym mewn llecynnau agored lle nad oes chwyn, gan gyrraedd eu llawn dwf ar ôl 55-65 o flynyddoedd.

Weithiau mae coed ceirios duon yn gwywo heb reswm amlwg, ac yna mae'r pren yn pydru. Felly dylid sicrhau bod y coed yn dal i dyfu'n gryf drwy eu teneuo'n rheolaidd yn ystod yr haf er mwyn lleihau'r perygl y byddant yn cael afiechyd.

Cynllunio