Mynd yma ac acw!

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/12/2023

Mae Sir Gaerfyrddin yn ymestyn o'r ucheldiroedd agored yn y gogledd i arfordir eang Bae Caerfyrddin, gydag amrywiaeth o gynefinoedd naturiol sy'n gwneud y sir mor arbennig. Mae yna bob amser rywle lle gallwch fwynhau byd natur, pa bynnag adeg o'r flwyddyn yw hi. O Warchodfeydd Natur Lleol i safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol, mae llawer o'r safleoedd hyn ar agor i'r cyhoedd. Cânt eu rheoli gan ystod o sefydliadau cadwraeth sy'n gweithio yn y sir ac mae gan y rhan fwyaf ohonynt wybodaeth ar y safle sy'n esbonio mwy am y cynefinoedd a'r bywyd gwyllt y gallwch eu gweld yno. Mae gan Sir Gaerfyrddin hefyd rwydwaith helaeth o lwybrau troed a throeon cerdded gwledig ar hyd a lled y sir.

Isod gwelir detholiad yn unig o safleoedd arbennig y sir y gellir ymweld â hwy. Ewch i wefan Darganfod Sir Gâr i gael rhagor o syniadau.

Ceir chwe Gwarchodfa Natur Leol yn Sir Gaerfyrddin: Twyni Tywod a Morfa Pen-bre, y Pwll Lludw a Merllyn y Pwll, Twyni Doc y Gogledd, Carreg Cennen, Glan-yr-Afon, Cydweli, a Morfa Berwig, y Bynea. Dyma ambell un o'r llefydd sy'n cael eu rheoli gan bartneriaid fel rhan o Bartneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin ichi gael eu mwynhau.

Bwriwch olwg fanylach ar...

Ym myd Natur, mae'r pethau bach yn bwysig! Wrth sylwi ar y pethau bach, mae'r byd yn newid yn llwyr. Yn aml, caiff mwsoglau, cennau a ffyngau eu hanghofio ond hebddyn nhw, byddai ein bywydau yn go wahanol! Gallwch gael rhagor o wybodaeth fan hyn ynghylch pwysigrwydd ambell rywogaeth a chynefin anghofiedig. Tro nesaf y byddwch chi allan yn crwydro, cofiwch gadw llygad allan am y rhain!

Cynllunio