Prosiect Britheg y Gors Caeau Mynydd Mawr - Cadwraeth ar raddfa tirwedd yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin

Diweddarwyd y dudalen ar: 25/01/2024

Glöyn byw cynhenid yw Britheg y Gors (Euphydryas aurinia) a ddiogelir gan y gyfraith oherwydd ei bod yn fwyfwy prin.

Yn Cross Hands a'r cyffiniau y mae un o'r poblogaethau cadarn olaf ym Mhrydain. Mae'r glöyn byw hwn i'w weld yn hedfan ym misoedd Mai a Mehefin, wrth iddo ddodwy wyau ar ddail y planhigyn Tamaid y Cythraul. Mae'r wyau'n deor ar ddiwedd yr haf ac mae'r lindys yn dod ynghyd i ffurfio 'gweoedd larfaol', a gellir gweld y rhain ym mis Awst a Medi. Mae'r lindys yn gaeafgysgu ac yn ymddangos eto ym mis Chwefror.

Mae croeso i chi gysylltu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, os oes gennych ddiddordeb mewn ymweld ag un o'n safleoedd, neu os ydych am helpu. 

Mae pori yn yr haf gan wartheg, merlod neu geffylau yn ddelfrydol, ond caiff rhai cynefinoedd eu rheoli drwy dorri'r borfa bob hyn a hyn, oherwydd nid yw pori bob amser yn bosibl. Rydym yn gweithio gyda pherchenogion da byw lleol a sefydliad PONT (Pori, Natur a Threftadaeth - sefydliad pori er budd cadwraeth) er mwyn darparu da byw i bori ar safleoedd pan fo angen. 

Mae ardal Cross Hands yn ardal dwf yn Sir Gaerfyrddin a nodwyd hyn yng Nghynllun Datblygu Lleol a Chanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor. Mae'r prosiect yn hollbwysig o ran sicrhau bod y datblygiad hwn yn gallu mynd yn ei flaen heb gael effaith negyddol ar y glöyn byw. Mae pob datblygiad yn rhoi cyfraniad ariannol i'r prosiect, ac mae'r arian hwnnw'n cael ei ddefnyddio i brynu neu reoli cynefinoedd ar gyfer y glöyn byw.

Ar hyn o bryd mae gennym fwy nag 20 o safleoedd yn ardal y prosiect sy'n cael eu rheoli ar gyfer y glöyn byw hwn. Eiddo'r prosiect yw tri o'r safleoedd, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn eiddo preifat. Rydym yn gwneud taliad cytundeb rheoli blynyddol i dirfeddianwyr sydd â chynefinoedd addas, yn debyg i Gynlluniau Amaeth-Amgylcheddol Llywodraeth Cymru. Mae cyllid hefyd ar gael ar gyfer gwaith sydd angen ei wneud i reoli safleoedd, megis ffensio er mwyn ailgyflwyno pori neu dorri llystyfiant er mwyn adfer caeau sydd wedi tyfu'n wyllt.

ydym yn gweithio'n agos gyda thirfeddianwyr, gan sicrhau bod y broses reoli yn cyd-fynd â dymuniadau'r tirfeddiannwr a'i bod yn darparu cynefinoedd i'r glöyn byw mewn modd effeithiol. Mae safleoedd yn amrywio o gaeau ar dyddynnau i ffermydd masnachol mawr.

Ein prif ganolbwynt yw Prosiect Britheg y Gors, fodd bynnag mae'r gwaith o reoli cynefinoedd hefyd yn rhoi cymorth i amrywiaeth eang o rywogaethau eraill (mae rhai ohonynt hefyd mewn perygl), ac yn darparu llecynnau glas rhwng ardaloedd trefol - mae rhai ohonynt yn hawdd eu cyrraedd drwy Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Rydym bob amser yn awyddus i gynnwys y gymuned leol a chynnal ymweliadau gan ysgolion, grwpiau lleol a Chynghorau Cymuned. Rydym hefyd yn cael cymorth gan wirfoddolwyr lleol.

Mae prosiect Caeau'r Mynydd Mawr wedi cael ei gydnabod yn un sy'n defnyddio ymagwedd arloesol o ran gwrthbwyso pwysau datblygiadau ar rywogaethau a chynefinoedd sensitif: Yn 2017, cawsom wobr TIC (Trawsnewid i Wneud Cynnydd) gan Gyngor Sir Caerfyrddin, cawsom Ganmoliaeth Uchel gan RTPI (Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol) yng ngwobrau cynllunio Cymru ac yn 2018 cawsom wobr genedlaethol RTPI am gynllunio ar gyfer yr amgylchedd naturiol.

Cynllunio