Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/04/2024

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru restr o rywogaethau yng Nghymru y maen nhw’n eu hystyried yn arwyddocaol iawn ar gyfer cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth y wlad. Mae gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i ofalu am a chyfoethogi’r rhywogaethau hyn [Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016].

Yn Sir Gaerfyrddin mae gennym lawer o’r rhywogaethau blaenoriaeth hyn  – mae rhai’n gyffredin ac eraill yn fwy prin. Mae ein rhywogaethau brodorol wedi dylanwadu ar hunaniaeth ddiwylliannol Sir Gaerfyrddin.  Mae anifeiliaid a phlanhigion wedi dylanwadu ar enwau llawer o ffermydd, tai a strydoedd yn y sir. Mae rhai’n gyffredin o hyd (eithin), mae rhai’n brin erbyn hyn (ysgyfarnogod) ac mae’r blaidd a’r baedd gwyllt wedi hen ddiflannu o’n cefn gwlad.

Mae nifer o fudiadau yn gweithio yn y sir i ofalu am a chyfoethogi’r cynefinoedd hyn. Os yw’r rhywogaethau hyn yn mynd i ffynnu, mae’n rhaid i fudiadau ac unigolion weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth - gan gynnwys tir berchnogion, asiantaethau llywodraeth, grwpiau cadwraeth bywyd gwyllt, awdurdodau lleol a diwydiant. Yn ogystal â rhoi sylw i ofynion rheoli penodol ar gyfer y rhywogaethau hyn, mae angen inni:

  • cynyddu ymwybyddiaeth o'r rhywogaethau hyn a'r materion sy'n effeithio arnynt.
  • clustnodi safleoedd newydd ar gyfer cynnal arolygon yn y sir.
  • hybu diddordeb gwirfoddolwyr mewn cofnodi rhywogaethau.
  • defnyddio rhywogaethau allweddol yn ganolbwynt ar gyfer ymwneud â'r cyhoedd/ysgolion.

Rhywogaethau Ymledol Heb Fod yn Rhai Brodorol (INNS) yw planhigion, anifeiliaid a micro-organebau a gyflwynwyd i rannau o’r byd lle na fyddent i’w gweld yn naturiol. Mae ganddynt y gallu i ymledu, gan greu difrod i’r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd a’n ffordd o fyw.  INNS yw’r ail fygythiad mwyaf i fioamrywiaeth ar ôl colli a darnio cynefinoedd. Amcangyfrifwyd fod INNS yn costio o leiaf £1.8 biliwn i economi’r DU bob blwyddyn. Yn Sir Gaerfyrddin mae Clymog Japan, Jac y Neidiwr a minc oll wedi cael effeithiau o bwys ar gynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig yma.

Hoffech chi wybod mwy? Lawrlwythwch wybodaeth fanylach am ein rhywogaethau â blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin.