Safleoedd Gwarchodedig

Diweddarwyd y dudalen ar: 10/01/2022

Ar lefel leol, mae bioamrywiaeth yn dylanwadu'n fawr ar gymeriad ein tirwedd. Mae Sir Gaerfyrddin yn enwog, ac yn haeddiannol felly, am ei harfordir godidog, ei haberoedd tawel, ei dyffrynnoedd coediog, serth ac ucheldiroedd garw. Mewn sawl man yn y sir, mae clytwaith o goetiroedd a chaeau, wedi'u ffinio gan gloddiau sydd, yn aml iawn, o bwysigrwydd hanesyddol. Mae'r môr a gwely'r môr o amgylch arfordir Sir Gaerfyrddin hefyd yn gyfoethog mewn rhywogaethau, rhai ohonynt o gryn bwysigrwydd economaidd.

Mae yna nifer fawr o safleoedd o bwysigrwydd ecolegol / daearegol yn y sir.

Mae gan Sir Gaerfyrddin nifer o safleoedd yr ystyrir eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer cadwraeth natur. Mae'r rhain yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ac wedi cael eu dynodi o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd.

Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)

  • Porth Tywyn (sydd hefyd yn safle Ramsar)
  • Elenydd Mallaen

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)

  • Afon Teifi
  • Afon Tywi
  • Bae Caerfyrddin a’r Aberoedd
  • Twyni Bae Caerfyrddin
  • Cwm Doethïe - Mynydd Mallaen
  • Caeau Mynydd Mawr
  • Cernydd Carmel

Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Mae 81 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn y sir (heb gynnwys yr ardal o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) sy'n cwmpasu 17,088 hectar, ac yn amrywio o ran maint, o gaeau bach i ardaloedd mawr o ochrau mynydd ac afonydd hir.

Maent yn cynnwys tua 7.2% o'r sir. Mewn SoDdGA y mae’r bywyd gwyllt a’r safleoedd daearegol gorau yn y wlad. Maent yn cynnwys cynefinoedd fel coetiroedd hynafol, dolydd sy’n llawn blodau, gwlyptiroedd yn ogystal â chwareli segur. Maen nhw’n cynnal planhigion a rhywogaethau o anifeiliaid nad ydynt yn cael eu gweld yn aml yn y cefn gwlad ehangach.

Caiff SoDdGAau eu gwarchod yn statudol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000). Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am nodi, dynodi a diogelu SoDdGAau.

Ardaloedd tirol a morol o dan warodaeth

Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNL)

Mae gan Sir Gaerfyrddin bum Gwarchodfa Natur Leol (GNL). Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn cael eu dynodi gan awdurdodau lleol ac maent yn lleoedd sy'n cefnogi amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt neu nodweddion daearegol, sy'n bwysig i bobl leol am eu bod yn eu helpu i gadw mewn cysylltiad â'r amgylchedd naturiol.

Caiff y Gwarchodfeydd Natur Lleol yn y sir eu rheoli drwy roi’r flaenoriaeth uchaf i warchod bywyd gwyllt. Mae’r Gwarchodfeydd hyn i’w cael yn Nhwyni Pen-bre a’r Morfa, Pwll Ashpit a Merlyn Pwll, Twyni Doc y Gogledd (i gyd yn ardal arfordirol Llanelli), Carreg Cennen a Glan-yr-Afon, Cydweli.

Cynllunio