Cyflog: £103,132 to £109,864
Lleoliad: Caerfyrddin, a gweithio hybrid
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cychwyn ar gyfnod cyffrous o newid, twf ac adfywio - ac rydym yn chwilio am arweinydd eithriadol i ymuno â ni fel Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd. Mae'r rôl uwch hon wrth wraidd ein huchelgais i ddarparu cymunedau cynaliadwy, gwydn a ffyniannus ar draws un o siroedd mwyaf nodedig a blaengar Cymru.
Fel Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, byddwch yn:
- Darparu arweinyddiaeth strategol a chyngor arbenigol i'r Tîm Rheoli Corfforaethol a'r Aelodau Etholedig.
- Gyrru'r gwaith o gyflawni datblygu cynaliadwy, blaenoriaethau adfywio ac Amcanion Llesiant y Cyngor, wedi'u halinio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
- Arwain y gwasanaeth cynllunio a swyddogaethau'r Awdurdod Cynllunio Lleol statudol, gan gynnwys cynllunio datblygu, mwynau, cadwraeth, bioamrywiaeth a rheoli adeiladau.
- Cryfhau ymagwedd y Cyngor at gynaliadwyedd amgylcheddol, lleihau carbon a'r gallu i wrthsefyll yr hinsawdd, gan gefnogi ein huchelgais Carbon Sero Net.
- Goruchwylio rheolaeth strategol a gweithredol meysydd gwasanaeth allweddol a datblygu polisïau a fframweithiau ar gyfer ynni cynaliadwy, defnydd tir, a gwelliant amgylcheddol.
- Datblygu partneriaethau cryf gyda phartneriaid y Cyd-bwyllgor Corfforedig, cyrff sector cyhoeddus, buddsoddwyr, datblygwyr a sefydliadau'r sector gwirfoddol i wneud y mwyaf o gyfleoedd i Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth.
- Arwain rhaglenni mawr, arfarniadau o'r opsiynau a phrosiectau cymhleth, gan sicrhau cynllunio ariannol cadarn, rheoli risg ac ymgysylltu effeithiol.
- Llunio diwylliant o welliant parhaus, arloesedd, perfformiad uchel a chydweithio ar draws is-adran o oddeutu 120 o staff a chyllideb net o tua £8m.
Mae hon yn swydd ddylanwadol iawn sy'n chwarae rhan ganolog wrth lunio llesiant economaidd, amgylcheddol a chymunedol hirdymor Sir Gaerfyrddin.
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am arweinydd ysbrydoledig, strategol gyda:
- Cymhwyster lefel gradd mewn maes proffesiynol perthnasol.
- Tystiolaeth o brofiad arweinyddiaeth uwch mewn sefydliad mawr, cymhleth.
- Dealltwriaeth fanwl o gynllunio, datblygu cynaliadwy, polisi amgylcheddol, gorfodi, datblygu economaidd a newid yn yr hinsawdd.
- Ymwybyddiaeth wleidyddol gref a'r gallu i lywio materion sensitif a phroffil uchel gyda phroffesiynoldeb a diplomyddiaeth.
- Gallu pendant i arwain newid sefydliadol, darparu gwelliannau gwasanaeth a gyrru effeithlonrwydd trwy arloesi a thechnoleg.
- Sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu, meithrin partneriaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
- Ymrwymiad i werthoedd ac ymddygiadau craidd y Cyngor — gweithio fel Un Tîm, cymryd cyfrifoldeb, gwrando, addasu i newid ac ymdrechu i ragori.
- Gallu o ran y Gymraeg i Lefel 3 ar lafar ac ysgrifenedig (gyda chefnogaeth resymol ar gael i gyrraedd y lefel hon os oes angen).
Proffil Swydd
Croeso i Sir Gaerfyrddin – sir sy'n gyfoethog o dreftadaeth, uchelgais a chyfleoedd.
O'n harfordir trawiadol a'n trefi marchnad hanesyddol i'n cymunedau amrywiol a'n canolfannau trefol deinamig, mae Sir Gaerfyrddin yn lle o harddwch naturiol eithriadol a bwriad strategol blaengar. Rydym wedi ymrwymo i lunio dyfodol cynaliadwy, ffyniannus a gwydn i'n preswylwyr, ein busnesau a'n hymwelwyr.
Mae Sir Gaerfyrddin yn arwain y ffordd yng Nghymru o ran cyflawni adfywio, datblygu cynaliadwy ac arloesi amgylcheddol. Mae ein cymunedau yn parhau i elwa o fuddsoddiad mawr mewn seilwaith, adfywio canol trefi, twf economaidd, a chynllunio sy'n ymwybodol o'r hinsawdd. Mae hyn yn cynnwys ein gwaith i gefnogi trafnidiaeth wyrddach, gwella bioamrywiaeth, ysgogi'r gwaith o leihau carbon, a chreu lleoedd lle gall pobl fyw'n dda, gweithio'n lleol, a ffynnu.
Mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd amgylcheddol a llesiant hirdymor yn sail i bopeth a wnawn. Gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth wraidd ein strategaeth, rydym yn croesawu'r cyfrifoldeb i ddiogelu ein hamgylchedd wrth gefnogi datblygiad economaidd cynhwysol. O gynlluniau adfywio mawr i dwf dan arweiniad tai, diwygio'r system gynllunio, rheoli ynni a rhaglenni cynaliadwyedd sy'n canolbwyntio ar y gymuned, rydym yn llunio Sir Gaerfyrddin sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Mae hwn yn gyfle arweinyddiaeth cyffrous a dylanwadol i'r person cywir. Fel Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni ein huchelgeisiau a sicrhau bod cynaliadwyedd, lleihau carbon a gwasanaethau cynllunio o ansawdd uchel wedi'u hymgorffori ar draws y Cyngor.
Am le gwych i fyw, gweithio a chyflawni effaith ystyrlon—does dim angen edrych ymhellach na Sir Gaerfyrddin.
Yn gywir,
Y Cynghorydd Carys Jones a'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen
Cyngor Sir Caerfyrddin yw un o awdurdodau mwyaf a mwyaf blaengar Cymru, ac mae'n falch o'i uchelgais a'i ymrwymiad i newid cynaliadwy. Rydym yn parhau i arwain ar feysydd sydd bwysicaf i'n preswylwyr: economi leol ffyniannus, amgylchedd naturiol gwarchodedig, cymunedau bywiog, a stiwardiaeth hirdymor gyfrifol o asedau ein sir.
Mae'r byd yn newid yn gyflym - yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. Yn Sir Gaerfyrddin, ein hymateb yw cryfhau ein gwytnwch, arloesi a chydweithio ar draws gwasanaethau a gyda'n partneriaid. Mae ein pobl yn parhau i fod yn gryfder mwyaf i ni. Rydym yn weithlu ymroddedig sy'n perfformio'n dda ac yn rhannu balchder mawr yn ein cymunedau ac sydd â gweledigaeth glir ar gyfer ein dyfodol.
Fel Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, byddwch yn aelod allweddol o dîm yr uwch arweinwyr yn y gyfarwyddiaeth Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd. Bydd gennych gyfrifoldeb strategol am wasanaethau cynllunio, cynaliadwyedd amgylcheddol, rheoli ynni, rheoli perygl llifogydd, lleihau carbon a datblygu cymunedau cynaliadwy. Byddwch yn allweddol wrth lunio a gweithredu polisïau a fframweithiau sy'n cefnogi ein trawsnewidiad i Sir Gaerfyrddin carbon isel ac sy'n sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol yn parhau i fod wrth wraidd holl weithgarwch y cyngor.
Byddwch yn arwain gwasanaeth amrywiol, sy'n perfformio'n dda ac yn cynnwys oddeutu 120 o staff, gan yrru blaenoriaethau adfywio ymlaen, hyrwyddo egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a sicrhau bod ein swyddogaethau cynllunio ac amgylcheddol yn cefnogi adferiad economaidd a ffyniant hirdymor.
Mae'r rôl hon yn galw am arweinydd eithriadol - rhywun sy'n strategol, yn wleidyddol graff, yn canolbwyntio ar atebion ac yn ymroddedig i welliant parhaus. Bydd angen i chi ysbrydoli timau, adeiladu partneriaethau cryf, a meithrin diwylliant o arloesi, cydweithredu a her adeiladol.
Os ydych chi'n angerddol am lunio dyfodol creu lleoedd, cynaliadwyedd amgylcheddol a llesiant cymunedol, ac os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar raddfa, byddem yn falch iawn o'ch croesawu.
Yn gywir,
Ainsley Williams
Cyfarwyddwr Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd
Crynhoir gweledigaeth y Cyngor yn y datganiad canlynol:
Datblygu Sir Gaerfyrddin gyda'n gilydd: Un Cyngor; Un Weledigaeth; Un Llais
Mae ein hamcanion llesiant yn canolbwyntio ar y canlynol: Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda); Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda), Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus), i foderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor gwydn ac effeithlon (Ein Cyngor). Darllenwch ragor yn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd o ran adfywio'r sir, a fydd yn cynnwys creu swyddi newydd drwy chwe phrosiect trawsnewidiol mawr, gan ddarparu economi yn Sir Gaerfyrddin sydd ar 90% o lefel GVA cyfartalog y DU. Rydym yn un o bedwar awdurdod lleol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe gwerth £1.3b, a bydd y Fargen Ddinesig yn creu 9,000 o swyddi dros gyfnod o 15 mlynedd. Bydd Sir Gaerfyrddin yn gweld manteision economaidd enfawr o ran seilwaith digidol, gweithgynhyrchu clyfar, ynni a llesiant. At hynny, mae ein cymunedau gwledig hefyd yn rhan annatod o'n twf lleol a bydd ymyriadau newydd cyffrous, megis y fenter Deg Tref, yn adfywio'r ardaloedd hyn.
Mae gweithio'n wahanol dros y pum mlynedd diwethaf wedi dysgu llawer i ni yn Sir Gaerfyrddin. Drwy fuddsoddi yn ein seilwaith digidol a defnyddio talentau ein gweithlu ymroddedig, rydym wedi profi y gallwn ddarparu gwasanaethau cyhoeddus eithriadol yn hyblyg, gan gynnwys gweithio o bell. Mae ein Canllawiau Gweithio Hybrid yn croesawu'r newid hwn ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd am fwynhau'r profiadau unigryw y gall Sir Gaerfyrddin eu cynnig wrth weithio mewn ffordd hyblyg a hybrid. Yn y rôl uwch hon, bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gydbwyso'n fedrus fanteision gweithio hybrid â'r angen i gynnal presenoldeb cryf, gweladwy yn y gweithle. Fel arweinydd strategol a gweithredol allweddol, bydd eich gallu i fod yn bresennol a chymryd rhan weithredol yn y gweithgareddau dyddiol yn ogystal â rheoli gweithio o bell yn effeithiol yn hanfodol i'n llwyddiant ar y cyd.
Mae gennym 75 o Gynghorwyr Sir sy'n cynrychioli 51 o wardiau cymunedol. Mae gweinyddiaeth wleidyddol bresennol y cyngor yn cynnwys:
GRŴP PLAID CYMRU / PARTY OF WALES GROUP – 37
GRŴP LLAFUR / LABOUR GROUP – 18
GRŴP ANNIBYNNOL / INDEPENDENT GROUP – 11
ANNIBYNNOL HEB GYSYLLTIAD / INDEPENDENT UNAFFILIATED – 9
Ein Gwerthoedd a'n Hymddygiad

Caerfyrddin

Doc y Gogledd, Llanelli

Pentywyn
O ran lleoliad, mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig popeth. Mae mewn man delfrydol ar hyd coridor yr M4, gan gynnig mynediad cyfleus i ddinasoedd mawr fel Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â Bryste, Birmingham a Llundain i’r dwyrain. Yn ogystal, mae cysylltiadau da i’r gorllewin drwy borthladdoedd Sir Benfro, gan hwyluso teithio i Iwerddon.
Rydym yn falch o’n harfordir helaeth, sy’n ymestyn o Gilfach Tywyn â golygfeydd o Benrhyn Gŵyr, ar draws milltiroedd o dywod euraidd a thraethau baner las, hyd at Bentywyn yn y gorllewin, sy’n enwog am ei dir gwastad a ddefnyddir ar gyfer rasio. Hefyd, mae ein cefn gwlad o fryniau a phantiau yn ymestyn at y ffin â Sir Benfro, Ceredigion, Powys, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, yn ogystal â chyrion gorllewinol ardal hyfryd Bannau Brycheiniog.
Fel un o awdurdodau lleol mwyaf Cymru, rydym wedi arwain rhaglen buddsoddi a datblygu uchelgeisiol sydd wedi hwyluso gwasanaethau o'r radd flaenaf i'n trigolion, ein busnesau a'n hymwelwyr. Mae’r mentrau hyn yn cynnwys stadia chwaraeon o’r radd flaenaf, megis Stadiwm Parc y Scarlets; cyrsiau golff rhagorol; a Chylchffordd Gaeedig Genedlaethol Pen-bre. Mae ein hatyniadau i ymwelwyr yn cynnwys canolfannau hamdden a theatrau, gan gynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Cartref Dylan Thomas, Marina Porth Tywyn, Parc Arfordir y Mileniwm, a’r cyfleuster denu twristiaid ar lan y môr ym Mhentywyn. Mae datblygiadau parhaus yn cynnwys Canolfan Pentre Awel, sydd eisoes yn cynnig cyfleusterau hamdden o’r radd flaenaf, ac a fydd yn darparu ymchwil feddygol a gofal iechyd o safon fyd-eang, yr Atriwm unigryw a fydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd cyhoeddus, a Llwybr Dyffryn Tywi, prosiect cyffrous sy’n darparu llwybr di-draffig 16.7 milltir drwy un o ardaloedd mwyaf prydferth Cymru. Felly
Mae Sir Gaerfyrddin yn sir wirioneddol ddwyieithog, ac mae ganddi'r ail nifer uchaf o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg o blith holl siroedd Cymru (tua 40 y cant o’n 187,900 o drigolion, yn ôl Cyfrifiad 2021). Mae'r iaith yn rhan bwysig o'n hanes a'n diwylliant, a dyna pam rydym wedi ymrwymo'n gadarn i helpu pobl i fyw, gweithio a defnyddio gwasanaethau yn eu dewis iaith, gan ddefnyddio ein Strategaeth Sgiliau Iaith i'n helpu i gyflawni Safonau'r Gymraeg. Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cefnogol a hyblyg i ganiatáu i'n staff ddysgu Cymraeg neu wella eu sgiliau. Os bydd angen, byddwn yn gweithio'n galed i'ch ysgogi a'ch ysbrydoli o ran eich sgiliau Cymraeg ac yn eich helpu i gyrraedd y lefel sy'n ofynnol ar gyfer y swydd hon. Gallwch ddarllen rhagor yma.
Rydym am i chi fwynhau gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac i'r profiad fod yn un gwerth chweil. Mae ein gweithwyr wrth wraidd y gwasanaethau rydym yn eu darparu i'r gymuned ac maent yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Rydym yn cynnig gwahanol fuddion a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol. Edrychwch ar yr hyn rydym yn ei gynnig.
Edrychwch ar yr hyn rydym yn ei gynnig

Llwybr Dyffryn Tywi

Pentre Awel, Llanelli

Atriwm, Caerfyrddin
Os ydych chi'n angerddol am gynaliadwyedd, yn ymrwymedig i wasanaeth cyhoeddus ac yn barod i arwain gyda gweledigaeth, arloesedd ac uniondeb, byddem yn croesawu eich cais.
Gwnewch gais nawr a helpwch ni i lunio Sir Gaerfyrddin wyrddach, tecach, mwy ffyniannus.
I gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â:
Ainsley Williams, Cyfarwyddwr Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd.
E-bost: cyfarwyddwrlsde@sirgar.gov.uk
Rhif Ffôn: 01267 224647
Dyddiad Cau: 7 Mehefin 2026
Asesiad o'r Iaith Gymraeg: 11 Mehefin 2026
Panel Rhestr Fer: 18 Mehefin 2026
Y Ganolfan Asesu: 6 Gorffennaf 2026
Panel Penodi: 20 Gorffennaf 2026
Gwnewch gais nawr