Deg Tref
Rhaglen Deg Tref
Diben ein menter Deg Tref yw cefnogi adferiad economaidd a thwf trefi gwledig ledled y Sir.
- Castell Newydd Emlyn
- Cross Hands
- Cwmaman
- Cydweli
- Hendy Gwyn
- Llandeilo
- Llanymddyfri
- Llanybydder
- Sanclêr
- Talacharn
Sefydlwyd y fenter fel ymateb uniongyrchol i'n Cynllun Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen sy'n nodi nifer o argymhellion allweddol er mwyn helpu i adfywio Sir Gaerfyrddin wledig.
Yn dilyn ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid lleol, datblygwyd cynllun twf economaidd i bob tref.
Menter y deg tref
Rydym wedi datblygu nifer o gyfleoedd fel ymateb i drafodaethau ac ymgynghoriadau a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid i gefnogi'r cyfleoedd cynaliadwyedd a thwf ar draws trefi marchnad wledig y Sir.

Cronfa Datblygiad Cyfalaf Deg Tref
Fel rhan o'r rhaglen deg Tref, gall safleoedd masnachol gwag ar draws trefi gwledig y Sir fod yn gymwys i gael cymorth ariannol hyd at £50,000 i ailddatblygu adeiladau canol tref sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr gwael.
Mae hon yn gronfa wedi'i thargedu ar gyfer safleoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd dynodedig ar draws ein trefi gwledig.
Gellir ystyried ceisiadau o safleoedd sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r ardal ddynodedig pob tref fesul achos pe bai'r prosiect yn cael effaith sylweddol.
Pwy all wneud cais?
- Perchnogion
- Lesddeiliaid sydd â phrydles 7 mlynedd yn weddill o ddyddiad y taliad terfynol
Prosiectau cymwys
- Dylai ffocws bob cais fod ar ddatblygu tu fewn adeiladau gwag er mae gwaith i du allan ac yn y cwrtil yn gymwys.
- Rhaid i'r ymgeisydd sicrhau, gan ddefnyddio cyngor proffesiynol priodol yn ôl yr angen, fod y gwaith arfaethedig yn dechnegol addas, bod ganddo uniondeb strwythurol, a'i fod wedi sicrhau pob caniatâd a thrwydded statudol briodol.
Y cynnig
- Haen 1 - grant rhwng £3000-£10000 am ddatblygiadau graddfa bach
- Haen 2 - grant rhwng £10,0001- £50,000 am prosiectau graddfa mawr
- Rhaid i ymgeiswyr ddarparu cyfraniad cyfatebol o 30% o gyfanswm cost gymwys y prosiect
Amserlen
- Bydd gofyn i ddarpar ymgeiswyr gyflwyno datganiad o ddiddordeb (EOI) yn y lle cyntaf.
- Bydd swyddog yn trefnu i gwrdd ag ymgeiswyr posibl
- Nid yw gwaith a wneir cyn derbyn llythyr cynnig grant yn gymwys.
Ymgeisio
Cysylltwch â RDPSIRGAR@sirgar.gov.uk i drafod eich prosiect gyda swyddog.

Cronfa Digwyddiadau Deg Tref
Ariennir Cronfa Digwyddiadau Canol Trefi Deg Tref gan Gronfa Twf Lleol Cymru a'i gweinyddu gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Nod y gronfa yw codi proffil Sir Gaerfyrddin wledig drwy dynnu ar dreftadaeth a diwylliant cyfoethog y Sir drwy gyflwyno digwyddiadau.
Amcanion y Gronfa yw:
- Ysgogi'r economi leol drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol trefi
- Darparu gwell cyfleoedd cymdeithasol i bobl leol.
- Denu ymwelwyr dros nos a dydd o farchnadoedd a sectorau newydd.
- Cryfhau cydlyniant cymunedol drwy annog pobl leol i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol
Pwy all wneud cais?
- Grwpiau Gwirfoddol a Chymunedol Cyfansoddedig
- Elusennau Cofrestredig
- Sefydliadau dielw
- Mentrau Cymdeithasol
- Gall canghennau lleol sefydliadau trydydd sector cenedlaethol wneud cais gan ddefnyddio Cyfansoddiad y rhiant-gorff ond rhaid iddynt gael eu Cyfrif Banc lleol eu hunain.
- Gall Cynghorau Tref a Chymuned wneud cais am brosiectau cymunedol sy'n ychwanegol at gyfrifoldebau statudol arferol a fydd o fudd i'r gymuned.
Beth yw'r cynnig?
- Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried gan sefydliadau sy'n trefnu digwyddiadau cymunedol newydd neu'n gwella digwyddiadau presennol sy'n dod â manteision economaidd a chymdeithasol clir ac adnabyddadwy ir ardal.
- Cyfanswm cyllideb sydd ar gael ar gyfer y gronfa hon yw £20,000.
Amserlenni
- Bydd y gronfa grant yn agor ddydd Llun 11 Mai 2026 ac yn cau ar 30 Mehefin 2026.
- Ni fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud tan ar ôl y dyddiad hwn. Nid yw digwyddiadau sydd wedi'u trefnu i ddigwydd cyny dyddiad cau'r gronfa a'r cyfnod gwerthuso yn gymwys.
- Bydd panel mewnol yn cyfarfod i drafod ceisiadau gyda’r sawl sydd yn cael eu argymell am gymeradwyaeth yn cael eu cyflwyno i Pennaeth Datblygu Econonmi ag eiddo am gymeradwyaeth llawn.
- Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hasesu.
- Rydym yn rhagweld y bydd ceisiadau llwyddiannus yn cael eu hysbysu am ddyfarniad grant o fewn 1 mis i'r dyddiad cau.
- Rhaid cyflawni prosiectau'n llawn erbyn 31 Rhagfyr 2026 fan bellaf.
Sut i wneud cais am gymorth
Cysylltwch â RDPSIRGAR@carmarthenshire.gov.uk am ffurflen gais ar ôl darllen y canllawiau.