Adnewyddu safle newydd
Yn ddiweddar, llwyddodd Gwasanaethau Cam-drin Domestig Caerfyrddin i gaffael y brydles ar gyfer y safle islaw eu swyddfeydd presennol. Roedd angen gwneud gwelliannau i'r cyfleuster newydd er mwyn ei wneud yn gyfleuster sy'n gweithredu'n llawn, ac i greu gofod cynnes a chroesawgar i bawb.
Mae cyllid wedi cefnogi gosod ffenestri a drysau gwydr dwbl newydd, system wresogi effeithlon o ran ynni, systemau dŵr poeth a goleuadau: tri math o seilwaith ynni carbon isel newydd. Bydd y gwelliannau hyn nid yn unig yn lleihau defnydd y gwasanaeth o garbon ond hefyd yn lleihau costau ac yn gwella effeithlonrwydd yr adeilad.
Trwy gydol y gwelliannau, roedd 79 o ddefnyddwyr gwasanaeth wedi ymgysylltu â'r gwaith o gynllunio gardd newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'r nod o ddatblygu defnyddiau pellach ar gyfer y cyfleuster newydd, ac roedd 17 o gyfleoedd gwirfoddoli wedi'u creu.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen we neu dilynwch y dudalen Facebook.



