Allgymorth Angor
Yn yr ail rownd, mae cyllid wedi cefnogi rolau dau Swyddog Datblygu Cymunedol - Allgymorth Gwledig rhan-amser sy'n cynnig cyngor a chymorth i unigolion sy'n agored i niwed a'u teuluoedd. Mae Angor yn cynnig ystod eang o weithgareddau gan gynnwys sesiynau Crefftau ar gyfer Llesiant, dosbarthiadau Ymwybyddiaeth Ofalgar ac Ymlacio, sesiynau harddwch Biwtiffwl a sesiynau cymorth galw heibio rheolaidd.
Yn ystod y ddau brosiect roedd dros 7,000 o bobl wedi'u cyrraedd, roedd cynnydd o 744 o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth ac mae 68 o wirfoddolwyr newydd wedi'u recriwtio a'u hyfforddi.
I gael gwybod rhagor am Angor, ewch i'r dudalen we neu dilynwch ar Facebook.




