Enw(au): Jill Tatman ac Alicia Elberts
Swyddogaeth(au): Rheolwr y Ganolfan a Chynorthwy-ydd Datblygu Prosiect
Lleoliad: Llanymddyfri
Facebook: Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri

Drwy gydol mis Awst, bydd Swyddogion Gwastraff ar gael mewn lleoliadau ledled Sir Gâr i ateb eich cwestiynau am y gwasanaeth Ailgylchu ar Wahân newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno i ryw un o bob tri chartref o ganol/diwedd tymor yr hydref 2026.
Gallan nhw hefyd roi gwybodaeth i drigolion a fydd yn parhau i gael y gwasanaeth Ailgylchu Cymysg (bagiau glas) presennol am y tro.
Hwb Caerfyrddin - Bob dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener, 9am-4pm
Hwb Llanelli - Bob dydd Iau, 9am-4pm
Canolfan Tywysoges Gwenllian, Cydweli - dydd Llun 10 Awst, 10am-2pm
Neuadd Goffa Talacharn - dydd Mercher 12 Awst, 10am-2pm
Y Gât, Sanclêr - dydd Iau 12 Awst, 10am-2pm
Clwb Rygbi Llanybydder - dydd Mercher 19 Awst, 10am-2pm
Neuadd y Dref, Hendy-gwyn ar Daf - dydd Llun 24 Awst, 10am-2pm
P'un a ydych chi'n ansicr am y trefniadau ailgylchu newydd neu eisiau cael rhagor o wybodaeth am sut y bydd y newidiadau yn gweithio, galwch heibio i siarad ag aelod o'r tîm.
Gallwch chi hefyd gael gwybod ar-lein a yw'ch cartref yn newid i'r gwasanaeth casglu newydd, neu'n parhau i gael y gwasanaeth bagiau glas, drwy ddefnyddio ein gwiriwr côd post:
Enw(au): Jill Tatman ac Alicia Elberts
Swyddogaeth(au): Rheolwr y Ganolfan a Chynorthwy-ydd Datblygu Prosiect
Lleoliad: Llanymddyfri
Facebook: Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri

Sefydlwyd Grŵp Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri yn 1990 i ddiwallu anghenion pobl ifanc y dref. Yn y diwedd prynwyd adeilad yn Sgwâr y Farchnad ac y mae wedi datblygu i fod yn lle y mae’r gymuned leol yn mynd iddo yn fwy nag unman arall. Cynhelir nifer o weithdai a gweithgareddau i oedolion. Cynhelir clwb ar ôl ysgol ar bob noson ysgol; mae clwb ieuenctid yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos gyda’r nos; mae gennym fanc bwyd a bws mini cymunedol; llogir ystafelloedd i wahanol sefydliadau ac rydym ar agor o 9am tan 5.30pm ar ddyddiau’r wythnos fel cyfleuster galw heibio / cael cyngor, gyda chymorth cyswllt uniongyrchol i Cyngor ar Bopeth. Y ganolfan hefyd yw cartref Hybu, sef prosiect sy’n cefnogi ac yn cyfoethogi holl weithgareddau a digwyddiadau’r dref.
Mae’r cyllid a gawsom wedi ein galluogi i wella ein holl gyfleusterau a oedd, oherwydd y nifer uchel o bobl yn eu defnyddio, wir angen eu gwella! Mae wedi ein galluogi i gynnal mwy o weithgareddau, i gynnig amgylchedd mwy dymunol lle gall pobl gyfarfod, a chyfleoedd newydd i aelodau’r gymuned ymwneud â’r ganolfan. Mae dodrefn ac offer newydd wedi ychwanegu dimensiwn newydd at yr hyn y gallwn ei gynnig.
Mae’r adeilad bellach yn bendant yn fwy deniadol ac wedi annog mwy o aelodau o’r gymuned i fentro i’r ganolfan a chymryd rhan mewn prosiectau / gweithdai newydd a chyffrous y gallwn eu cynnig yn y gofodau ychwanegol. Mae’r gymuned leol bob amser wedi gwerthfawrogi’r ganolfan yn fawr ac wrth eu bodd gyda’r gwelliannau.
