Canolfan Gymunedol Cil-y-cwm

Mae trigolion pentref hyfryd Cil-y-cwm, yn rhannau uchaf Dyffryn Tywi, wedi addasu ac ymestyn Capel y Groes i fod yn ganolfan gymunedol gwbl hygyrch, ynni-effeithlon.

Mae Menter Cil-y-cwm wedi cael cefnogaeth i drawsnewid y Capel sydd bellach â mynediad gwastad drwyddi draw, cegin newydd, paneli solar, mannau cyfarfod a chyfleusterau toiledau modern.

Yn ystod y prosiect mae 75 o bobl wedi bod ar deithiau tywys i weld y gwelliannau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan neu dilynwch y grŵp ar Facebook.