Cefnogi Twf Twristiaeth
Mae Darganfod Sir Gâr wedi cael cymorth i gyflwyno ystod o weithgareddau marchnata sy'n cefnogi gwaith darparwyr llety, atyniadau, manwerthu, fforymau tref a threfnwyr digwyddiadau lleol.
Gan ddefnyddio'r tri nod strategol craidd sef Tymoroldeb, Crwydro a Gwario, mae'r prosiect hwn wedi denu ymwelwyr o farchnad darged gefnog sy'n mwynhau bwyd, diod, atyniadau a manwerthu lleol gan sicrhau bod pob rhan o'r Sir yn cael budd. Mae llyfrgell o asedau hyrwyddo wedi'u brandio wedi'u datblygu a'u darparu i'r fasnach i wella eu hymgyrchoedd marchnata eu hunain.
Mae'r ymgyrchoedd marchnata llwyddiannus wedi cyrraedd cyfanswm o dros 16 miliwn o bobl gan arddangos yr asedau twristiaeth gwerthfawr sydd gan Sir Gaerfyrddin i'w cynnig.
Mae cyllid wedi'i ddefnyddio i gyrraedd dros 6 miliwn o bobl, gan hyrwyddo'r sir fel cyrchfan i dwristiaid, mae 68 o ddigwyddiadau wedi'u cynnal gan gynnwys Arddangosfa Briodasau gyntaf Sir Gaerfyrddin ac mae 54 o wirfoddolwyr newydd wedi'u hyfforddi.
I ddilyn yr ymgyrchoedd ewch i Facebook neu Instagram neu i'r wefan.
Sir Gâr yw hafan glyd Cymru




