Ailddatblygu'r ardal Chwarae ac Awyr Agored
Mae’r prosiect hwn wedi gwella'r lle chwarae a’r lle awyr agored yn Neuadd Caerbryn.
Mae'r gwaith ailddatblygu yn cynnwys gosod wyneb newydd yn y lle chwarae a llawer o offer chwarae newydd; siglenni i blant iau a hŷn, ffrâm ddringo gyda llithrennau, llwybrau cerdded, bariau, wal ryngweithiol, waliau dringo, a chwyrligwgan. Mae palmant newydd wedi'i osod o amgylch y neuadd, gan greu man ymgynnull awyr agored hygyrch.
Mae’r prosiect yn cynnig cyfleoedd i blant o bob gallu ac yn sicrhau bod modd ychwanegu rhagor o offer chwarae yn y dyfodol.
I ddarganfod mwy, ewch i'r tudalen Facebook.



