Cam 1 Prosiect Hwb Cymunedol Llwynhendy

Mewn ymateb i ymgynghori helaeth ac astudiaeth ddichonoldeb, mae man chwarae newydd yn cael ei ddatblygu ar y gofod hamdden sy'n amgylchynu llyfrgell Llwynhendy. Bydd gwahanol eitemau chwarae yn cael eu gosod, llwybrau troed yn cael eu creu, a gwaith tirlunio cyffredinol yn cael ei wneud yn yr ardal.

Mae'r prosiect wedi cael llawer o gefnogaeth gan y gymuned a gwirfoddolodd pobl ifanc i blannu dros 100 o goed.

I ddarganfod mwy, ewch i'r tudalen we.