Canolfan Hinsawdd a'r Amgylchedd Caerfyrddin (Sero)

Mae'r Ganolfan Hinsawdd a’r Amgylchedd newydd yng Nghaerfyrddin wedi creu 'Llyfrgell Pethau', 'Caffi Atgyweirio', ac wedi cynnal dros 60 o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd a'r amgylchedd. 

Maen nhw’n cynnal sesiynau caffi hinsawdd, gweithdai a digwyddiadau ac yn dangos ffilmiau addysgol. Mae’r rhain yn cynnwys e.e. coginio/lleihau gwastraff, eplesu/preserfio, llythrennedd carbon ac ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol.

Mae'r prosiect wedi creu swyddi a dros 60 o rolau gwirfoddoli newydd.

I ddarganfod mwy, ewch i'r tudalen we SERO