Datblygu Cyfleuster Cymunedol newydd – Dichonoldeb a Rheoli Prosiectau
Mae Clwb Rygbi'r Tymbl mewn partneriaeth â hwb rygbi merched Merched Mynydd Mawr, Ysgol y Tymbl, Ysgol Llechyfedach a Chyngor Cymuned Llan-non yn bwriadu adeiladu cyfleuster cymunedol newydd i ategu at y ddarpariaeth bresennol ym Mharc y Mynydd Mawr a phentref y Tymbl.
Mae cyllid wedi cael ei ddefnyddio i benodi tîm proffesiynol o arbenigwyr i oruchwylio datblygiad y prosiect. Bydd astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal a fydd yn caniatáu i'r gwaith pensaernïol, yr arolwg a'r gwaith cynllunio ac ymgynghori cysylltiedig gael ei wneud.
I ddarganfod mwy, ewch i'r tudalen we Club Rygbi Tymbl



