Gosod Trydan a Chaffi
Mae safle ymwelwyr Rheilffordd Llanelli a’r Mynydd Mawr yn agos iawn at lwybr beicio Dyffryn y Swistir rhwng Llanelli a Cross Hands, yn Cynheidre.
Mae'r rheilffordd wedi cael cyllid i ddatblygu caffi newydd sy’n denu llawer o bobl sy'n defnyddio'r llwybr beicio ac mae wedi cynyddu nifer yr ymwelwyr a gwirfoddolwyr.
Mae dwy rôl ran-amser wedi'u creu i redeg y caffi.
I ddarganfod mwy, ewch i'r wefan Rheilffordd Llanelli a’r Mynydd Mawr.



