Rhaglen Llesiant Cymunedol

Mae dosbarthiadau gweithgareddau fel Thai-chi eistedd, dosbarthiadau ffitrwydd 50+, a Boxfit ar gael. I blant a phobl ifanc, mae'r ganolfan yn cynnig Clwb Deulu, Clwb Hwyl, Gwersyll Dawns a Chlwb Chwaraeon.

Cynhelir hwb cymunedol yn y ganolfan yn Nhrefach bob yn Nhrefachmis gyda sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin, Hwb Bach y Wlad Cyngor Sir Caerfyrddin, Cymunedau am Waith a Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Cymru. Mae llawer o aelodau o’r gymuned yn dod i’r Hwb ac mae wedi gwella mynediad at wasanaethau allweddol ar gyfer y gymuned wledig.

I ddarganfod mwy, ewch i'r wefan: Canolfan Carwyn