Tŷ Croeso, Bethlehem Newydd
Nod y cynllun oedd trawsnewid Capel Bethlehem Newydd yn ganolfan i gymuned Pwll-trap a'i hanghenion; yn benodol canolfan i hyrwyddo gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r defnydd o'r iaith yn y gymuned yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol, hamdden a lles.
Trwy'r cyllid hwn, mae'r prosiect wedi gallu cyflogi rheolwr am flwyddyn, i osod y sylfeini ar gyfer hyrwyddo a threfnu'r defnydd o'r adeilad a'r adnoddau technegol. Maent hefyd wedi gallu prynu offer cegin a dodrefn angenrheidiol i wneud y gofod yn gwbl weithredol.
I ddarganfod mwy, ewch i'r wefan.



