Hwb Cymunedol Llangain
Mae gan bentref Llan-gain, i'r de o dref Caerfyrddin, gymuned fywiog a chyfeillgar gyda neuadd goffa sydd angen ei moderneiddio.
Mae cyllid wedi cefnogi gwelliannau gan gynnwys ffasâd newydd, gan wneud y fynedfa yn fwy deniadol, a chyfleuster caffi newydd.
Mae deuddeg o ddigwyddiadau neu weithgareddau wedi'u cynnal yn y cyfleuster gwell, gan sicrhau cynnydd o 200 o ran nifer y bobl sy'n ymwneud yn weithredol â'r neuadd a chefnogi bron i 500 o gyfleoedd gwirfoddoli.
Y gwelliannau hyn yw'r rhan gyntaf o ddull cam wrth gam o ailddatblygu'r cyfleuster.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan neu dilynwch y grŵp ar Facebook.



