Hwb Hebron

Mae'r cyfleuster cymunedol hwn yng Nghwm Gwendraeth wedi'i adnewyddu'n llawn yn ddiweddar gan ei alluogi i wasanaethu poblogaeth gynyddol yn ardal Dre-fach.

Roedd cyllid wedi cefnogi aelod o staff amser llawn i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau gan gynnwys sesiynau mam a baban. Mae dros 20 o weithgareddau wedi'u cynnal ers dyfarnu'r cyllid.

Mae'r cyllid hefyd wedi'i ddefnyddio i brynu offer clyweledol ar gyfer yr hwb a rhai adnoddau cegin hanfodol. 

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dudalen Facebook neu ewch i'r wefan.