Moderneiddio Theatr a Sinema

Wrth i Neuadd Gyhoeddus Brynaman ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed yn 2026, mae cyllid wedi helpu i foderneiddio'r cyfleuster sinema drwy osod offer newydd.

Mae'r offer newydd hanfodol yn cynnwys sgrin newydd, traciau llenni a thaflunydd sy'n sicrhau llwyddiant parhaus y sinema.

Yn ystod y cyfnod cyllido cafodd 209 o gyfleoedd gwirfoddoli eu cefnogi, roedd dros fil o ddefnyddwyr newydd wedi ymweld â'r cyfleuster gwell a chafodd dau wirfoddolwr newydd eu recriwtio.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan neu dilynwch y dudalen Facebook.