Offer Bad Achub
Mae Bad Achub Glanyfferi yn un o oddeutu 80 o fadau achub annibynnol sy'n gweithredu yn y DU sy'n gwylio dros aber y Tair Afon.
Mae cyllid wedi helpu i brynu offer hanfodol ar gyfer criw'r bad achub gan gynnwys injan cwch newydd, cyfarpar diogelu personol a phecynnau cymorth cyntaf. Mae'r gwelliannau wedi gwella diogelwch y cyhoedd a'r criw, a hefyd wedi hwyluso amseroedd lansio cyflymach. Cafodd pum digwyddiad eu cynnal gan y grŵp dros y cyfnod cyllido, gan godi ymwybyddiaeth a chyrraedd bron i 70,000 o bobl, ac roedd 15 o wirfoddolwyr newydd wedi'u recriwtio a'u hyfforddi.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan neu dilynwch y dudalen Facebook.




