Pethau Pawb Llanymddyfri
Yn dilyn llwyddiant lansio'r Llyfrgell Pethau yn 'Pethau Pawb' yn Llanymddyfri, bydd y prosiect hwn yn cefnogi gweithgareddau parhaus yn y ganolfan.
Mae'r Llyfrgell Pethau yn cynnig cyfle i bobl fenthyg yn hawdd yr hyn sydd ei angen arnyn nhw, yn hytrach na phrynu pethau'n newydd neu ail-law. Bydd cyllid yn datblygu'r siop yn ganolfan economi gylchol ac yn ehangu'r ystod o weithgareddau sydd ar gael.
Yn ystod y prosiect, cafodd naw gwirfoddolwr newydd eu hyfforddi a'u recriwtio, a bu bron i 400 o ddefnyddwyr newydd yn ymweld â'r llyfrgell pethau, ac roedd dros 17,000 o bobl wedi'u cyrraedd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan.




