Storfa Sgrap Caerfyrddin
Mae'r 'Siop Sgrap' wedi dargyfeirio deunyddiau gwastraff busnesau o safleoedd tirlenwi, trwy ailgartrefu deunyddiau crefft dros ben, ac maen nhw wedi gallu darparu deunyddiau creadigol fforddiadwy i'r gymuned. Mae hyn wedi bod o fudd arbennig i addysgwyr, clybiau lleol, artistiaid a chrefftwyr.
Mae cyllid wedi golygu bod dwy rôl amser llawn wedi'u diogelu, bod saith gwirfoddolwr newydd wedi gallu cael eu recriwtio a'u hyfforddi ac mae'r cyllid hefyd wedi helpu i sicrhau cynnydd o bron i 500 o ran nifer y bobl sy'n defnyddio'r siop.







