Swyddog Cyngor Ynni
Mae Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin yn elusen annibynnol, nid-er-elw sy'n darparu gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol yn rhad ac am ddim.
Mae cyllid wedi cefnogi rôl Swyddog Cyngor Ynni amser llawn sydd ar gael i ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch effeithlonrwydd ynni, arbedion cost a grantiau posibl neu gymorth ariannol sydd ar gael i drigolion Sir Gaerfyrddin.
Yn ystod y cyllid, mae dros 350 o bobl wedi cael cymorth a chyngor wedi'i deilwra.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan neu dilynwch y dudalen Facebook.


